BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 1720 (Cy.187)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031720w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1720 (Cy.187)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 34(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1] ac sydd yn awr yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991
    
2. Yn rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991[3]  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


9 Gorffennaf 2003


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol


EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991 (O.S. 1991/2839) ("y prif Reoliadau"), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1996/672 ac fel y'u diwygiwyd ymhellach, fel y maent yn gymwys i Gymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973 ac O.S. 2002/1559, i ganiatáu i awdurdodau casglu gwastraff gyflwyno i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw disgrifiad ysgrifenedig o wastraff a nodyn trosglwyddo o dan y prif Reoliadau hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw roi i'r awdurdod casglu gwastraff yn ei swyddfa, o fewn cyfnod penodedig, y disgrifiadau ysgrifenedig hynny o'r gwastraff a'r nodiadau trosglwyddo a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.


Notes:

[1] 1990 p.43; mae yna ddiwygiadau eraill i adran 34 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, yn rhinwedd erthygl 2 ac Atodlen 1 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) .back

[3] O.S. 1991/2839, fel y'i diwygiwyd gan reoliad 23 o O.S. 1996/972 ac, fel y mae'n gymwys i Gymru a Lloegr, gan reoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 2, paragraff 26 o O.S. 2000/1973 a rheoliad 19 o O.S. 2002/1559. Diwygiwyd y Rheoliadau hefyd, mewn perthynas â'r Alban, gan reoliad 36 o O.S.A. 2000/323, ac mewn perthynas â Lloegr, gan reoliad 3 o O.S. 2003/63.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090752 3


 
© Crown copyright 2003
Prepared 16 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031720w.html