![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2003 Rhif 1776 (Cy.192) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031776w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 15 Gorffennaf 2003 | ||
Yn dod i rym | 31 Gorffennaf 2003 |
(b) yn rheoliadau 5, 6(1), 6(3)(a) a 6(4) ac Atodlen 3, drwy roi, yn ôl fel y digwydd, y geiriau "yn y rhanbarth penodedig" yn lle'r geiriau "yng Nghymru" a'r geiriau "o'r rhanbarth penodedig" yn lle'r geiriau "o Gymru";
(c) yn rheoliadau 5, 14 ac 16 drwy roi yn lle'r geiriau "rhanbarthau penodedig" y geiriau "rhanbarth penodedig";
(ch) drwy fewnosod ar ôl rheoliad 6 y rheoliadau canlynol -
(dd) drwy ddileu rheoliad 13;
(e) drwy roi yn lle Atodlen 1 yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(f) yn eitem 1 o Ran I o Atodlen 2, drwy roi yn lle'r cofnod yng ngholofn 2 y geiriau -
"
1.
Rheoliad 1493/1999: Teitl V |
Rheoliad 883/2001: Pob erthygl ac eithrio 6, 7, 13, 16, 19, 29, 34, 35 a 36 |
Gofynion yngl![]() |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Gorffennaf 2003
Y mesurau sy'n cynnwys y darpariaethau Cymunedol | Cofnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd: Y cyfeiriad |
1.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1135/70 ynghylch hysbysu, plannu ac ailblannu gwinwydd er mwyn rheoli datblygu plannu |
OJ Rhif L134, 19.6.70, t.2 (OJ/SE1970(II) t.379) |
2.
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 357/79 ynghylch arolygon ystadegol o arwynebeddau sydd o dan winwydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2329/98 (OJ Rhif L29, 31.10.98, t.2) |
OJ Rhif L54, 5.3.79, t.124 |
3.
Deddf ynghylch amodau ymuno Gweriniaeth Groeg a'r addasiadau i'r Cytuniadau yn diwygio amrywiol Reoliadau ynghylch gwin yn sgil ymuno Groeg, a lofnodwyd ar 28 Mai 1979 |
OJ Rhif L291, 19.11.79, t.17 |
4.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1907/85 ar y rhestr o amrywogaethau o winwydd a'r rhanbarthau sy'n darparu gwin wedi'i fewnforio ar gyfer gwneud gwinoedd pefriol yn y Gymuned |
OJ Rhif L179, 11.7.85, t.21 |
5.
Deddf ynghylch amodau ymuno Teyrnas Sbaen a Gweriniaeth Portiwgal a'r addasiadau i'r Cytuniadau, a lofnodwyd ar 12 Mehefin 1985 |
OJ Rhif L302, 15.11.85, t.23 |
6.
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3805/85 yn addasu Rheoliadau penodol ynghylch y sector gwin, oherwydd ymuno Sbaen a Phortiwgal |
OJ Rhif L367, 31.12.85, t.39 |
7.
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2392/86 yn sefydlu cofrestr Gymunedol o winllannoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1631/98 (OJ Rhif L210, 28.7.98, t.14) [5] |
OJ Rhif L208, 31.7.86, t.1 |
8.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 649/87 yn gosod rheolau manwl ar gyfer sefydlu cofrestr Gymunedol o winllannoedd fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1097/89 (OJ Rhif L116, 28.4.89, t.20) |
OJ Rhif L 62, 5.3.87, t.10 |
9.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2676/90 yn pennu dulliau Cymunedol ar gyfer dadansoddi gwinoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 (OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.1) |
OJ Rhif L272, 3.10.90, t.1 |
10.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 3201/90 yn gosod rheolau manwl ar gyfer disgrifio a chyflwyno gwinoedd a mystau grawnwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2770/98 (OJ Rhif L346, 22.12.98, t.25) |
OJ Rhif L 309, 8.11.90, t.1 |
11.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1601/91 yn gosod rheolau cyffredinol ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2061/96 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L277, 30.10.96, t.1) |
OJ Rhif L149, 14.6.91, t.1 |
12.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 3901/91 yn gosod rheolau manwl penodol ar ddisgrifio a chyflwyno gwinoedd arbennig |
OJ Rhif L368, 31.12.91, t.15 |
13.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2009/92 yn pennu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer ethyl alcohol o darddiad amaethyddol a ddefnyddir i baratoi diodydd gwirodydd, gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru |
OJ Rhif L203, 21.7.92, t.10 |
14.
Penderfyniad y Cyngor Rhif 93/722/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Bwlgaria ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd |
OJ Rhif L337, 31.12.93, t.11 |
15.
Penderfyniad y Cyngor Rhif 93/723/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Hwngari ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd |
OJ Rhif L337, 31.12.93, t.83 |
16.
Penderfyniad y Cyngor Rhif 93/726/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Romania ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd |
OJ Rhif L337, 31.12.93, t.177 |
17.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 122/94 yn gosod rheolau manwl ar gymhwysiad Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91 ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru, a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru |
OJ Rhif L21, 26.1.94, t.7 |
18.
Penderfyniad y Cyngor 94/184/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Awstralia ar fasnachu gwin |
OJ Rhif L86, 31.3.94, t.1 |
19.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 554/95 yn gosod rheolau manwl ar gyfer disgrifio a chyflwyno gwinoedd pefriol a gwinoedd pefriol awyredig, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1915/96 (OJ Rhif L252, 4.10.96, t.10) |
OJ Rhif L56, 14.3.95, t.3 |
20.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2585/2001 (OJ Rhif L345, 29.12.01, t.10) |
OJ Rhif L179,14.7.1999, t.1 |
21.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1227/2000 yn gosod rheolau manwl ar gymhwysiad Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, yn benodol ar y potensial ar gyfer cynhyrchu, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1342/2002 (OJ Rhif L196, 25.7.2002, t.23) |
OJ Rhif L143, 16.6.2000, t.1 |
22.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1607/2000 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, yn benodol y Teitl sy'n ymwneud â gwin o safon a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodedig |
OJ Rhif L185, 25.7.2000, t.17 |
23.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 yn gosod rheolau manwl penodol ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin ac yn sefydlu cod Cymunedol o arferion a phrosesau gwinyddol, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2244/2002 (OJ Rhif L341, 16.12.2002, t.27) |
OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.1 |
24.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin o ran mecanweithiau'r farchnad, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1705/2002 (OJ Rhif L272, 10.10.2002, t.15) |
OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.45 |
25.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2729/2000 yn gosod rheolau manwl ar ddulliau rheoli yn y sector gwin |
OJ Rhif L316, 15.12.2000, t.16 |
26.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 678/2001 ynghylch gwneud cytundebau ar ffurf Cyfnewid Llythyron rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Bwlgaria, Gweriniaeth Hwngari a Romania ar gyd-gonsesiynau masnachu ar gyfer gwinoedd a gwirodydd penodol |
OJ Rhif L94, 4.4.2001, t.1 |
27.
Rheoliad y Comisiwn (EC) 883/2001 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 yngl![]() |
OJ Rhif L128, 10.5.2001, t.1 |
28.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001 yn gosod rheolau cymhwyso manwl ar y dogfennau sydd i fynd gyda chynhyrchion gwin wrth iddynt gael eu cludo ac ar y cofnodion perthnasol sydd i gael eu cadw yn y sector gwin fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1782/2002 (OJ Rhif L270, 08.10.2002, t.4) |
OJ Rhif L128, 10.5.2001, t.32 |
29.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1037/2001 yn awdurdodi cynnig a danfon i bobl eu hyfed yn uniongyrchol winoedd penodol sydd wedi'u mewnforio ac sydd wedi mynd drwy brosesau na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 |
OJ Rhif L145, 31.5.2001, t.12 |
30.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1282/2001 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar grynhoi gwybodaeth i adnabod cynhyrchion gwin ac i fonitro'r farchnad win |
OJ Rhif L176, 29.6.2001, t.14 |
31.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2597/2001 yn agor cwotâu tariff Cymunedol ar gyfer gwinoedd penodol yn deillio o Weriniaeth Croatia ac yn darparu ar gyfer gweinyddu'r cwotâu hynny |
OJ Rhif L345, 29.12.2001, t.35 |
32.
Penderfyniad y Cyngor Rhif 2002/51/EC ar wneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth De Affrica ar fasnachu gwin |
OJ Rhif L28, 30.1.2002, t.3 |
33.
Penderfyniad y Cyngor a'r Comisiwn Rhif 2002/309/EC yngl![]() |
OJ Rhif L114, 30.4.2002, t.1" |
Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
[3] O.S. 2001/2193 (Cy.155).back
[5] Gweler hefyd y Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Protocolau 1 (OJ Rhif L1, 3.1.94, t.37) a 47 (OJ Rhif L1, 3.1.94, t.210).back
© Crown copyright 2003 | Prepared 23 July 2003 |