BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003 Rhif 1844 (Cy.196)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031844w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1844 (Cy.196)

ANIFEILIAID, CYMRU

ATAL CREULONDEB

Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 16 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 18 Gorffennaf 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 1 o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954[1] ac a freiniwyd ynddo bellach[2], ar ôl ymgynghori â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol ac â'r personau hynny y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn cynrychioli'r buddiannau amaethyddol, y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003, mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru a daw i rym ar 18 Gorffennaf 2003.

Diwygio Deddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954
    
2. Ym mharagraff 6 o Atodlen 1 (Gweithrediadau a Eithrir) i Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954 yn lle'r geiriau "in Wales, 4 weeks" rhoddir "in Wales, 8 days"[3].



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954 (1954 p.46) yn ei chymhwysiad i Gymru drwy ostwng yr oedran na cheir ysbaddu moch wedi'r oedran hwnnw heb anesthetydd o 4 wythnos i 7 diwrnod er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/93/EC (OJ Rhif L 316, 1.12.2001 t. 36). Ceir yr amodau sy'n gymwys i gadw moch yn Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001, fel y'u diwygiwyd.


Notes:

[1] 1954 p. 46.back

[2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Diwygiwyd paragraff 6 ynghylch Lloegr gan Orchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) (Diwygio) (Rhif 2) (Lloegr) 2003. (O.S. 2003/1328).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090762 0


 
© Crown copyright 2003
Prepared 23 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031844w.html