OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1847 (Cy.197)
DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU
Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
16 Gorffennaf 2003 | |
|
Yn dod i rym |
31 Gorffennaf 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i "y Gweinidog" gan adran 5(1), (2) a (3) ac adran 44 o Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003 ac maent yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol, mewn perthynas â Chymru, neu, mewn perthynas â Lloegr, cyngor sir, dosbarth neu fwrdeistref;
mae gan "cyfathrebiad electronig" yr ystyr a roddir i'r term "electronic communication" gan adran 15(1) Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000[3];
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelu'r Arfordir 1949;
ystyr "hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir" ("notice of a proposal to carry out coast protection work") yw hysbysiad y mae'n rhaid i awdurdod diogelu'r arfordir ei gyhoeddi o dan adran 5(1) o'r Ddeddf.
Ffurf hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir
3.
Rhaid i hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir fod yn y ffurf ddwyieithog a ragnodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd yn sylweddol yn cael yr un effaith.
Cyflwyno hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir
4.
Rhaid i gopi o hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir, yn ogystal â chael ei gyflwyno i'r cyrff a nodir yn adran 5(1) o'r Ddeddf, hefyd gael ei gyflwyno i:
(a) unrhyw awdurdod lleol y mae'n debygol y bydd ei ardal yn cael ei effeithio gan y gwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(b) unrhyw awdurdod harbwr, awdurdod mordwyo, awdurdod gwarchodaeth, neu bwyllgor pysgodfeydd lleol y mae ei ardal yn cynnwys yr ardal lle bydd y gwaith y mae'r hysbysiad yn perthyn iddo yn cael ei wneud neu y bydd fel arall yn debyg o gael ei effeithio gan y gwaith hwnnw;
(c) Cyngor Cefn Gwlad Cymru;
(ch) os yw'r gwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn debygol o effeithio ar unrhyw ran o Loegr neu o'r môr sy'n gyfagos at Loegr, "English Nature", Comisiwn Adeiladau a Henebion Lloegr a'r "Countryside Agency"; a
(d) unrhyw berson arall sydd â buddiant mewn unrhyw dir y bydd y gwaith y mae'r hysbysiad yn perthyn iddo yn cael ei wneud arno, neu sy'n debygol o gael ei effeithio gan y gwaith, oni bai nad yw'r awdurdod diogelu'r arfordir yn gwybod pwy ydyw nac yn medru yn rhesymol gadarnhau pwy ydyw.
Hysbysiad o wrthwynebiad
5.
- (1) Rhaid i hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 5(3) o'r Ddeddf i gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir y mae hysbysiad ohono wedi'i gyhoeddi o dan adran 5(1) o'r Ddeddf fod yn ysgrifenedig a rhaid i gopïau ohono gael eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i'r awdurdod diogelu'r arfordir o fewn y cyfnod hwnnw a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd o dan adran 5(1), sef cyfnod na all fod yn llai na 28 diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad hwnnw.
(2) Rhaid i hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 5(3) ddatgan seiliau'r gwrthwynebiad.
(3) Rhaid i'r copi o'r hysbysiad o wrthwynebiad y mae'n ofynnol iddo gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) gael ei gyfeirio at Is-adran Diogelu'r Amgylchedd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
(4) Rhaid i'r copi o'r hysbysiad o wrthwynebiad y mae'n ofynnol iddo gael ei gyflwyno i'r awdurdod diogelu'r arfordir gael ei gyfeirio at Brif Weithredwr yr awdurdod hwnnw yn ei brif swyddfa.
Defnyddio cyfathrebiad electronig
6.
- (1) Caiff unrhyw ddogfen y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi, ei chyflwyno trwy gyfathrebiad electronig, yn ogystal â thrwy unrhyw fodd arall a awdurdodir gan y Ddeddf a dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ysgrifen, sut bynnag y mae wedi'i fynegi, mewn perthynas â dogfen y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi, fel cyfeiriad sy'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei storio ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac ohono, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i:
(a) unrhyw gopi o hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 5(3) o'r Ddeddf; a
(b) unrhwy gopi o hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir, os yw'r person y mae'n rhaid cyflwyno'r hysbysiad iddo yn cytuno i dderbyn cyflwyno'r ddogfen honno trwy gyfathrebiad electronig.
Diddymu
7.
Diddymir, trwy hyn, Reoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) 1950[4] mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003
ATODLENRheoliad 3
FFURF AR HYSBYSIAD GWAITH DIOGELU'R ARFORDIR ARFAETHEDIG
Deddf Diogelu'r Arfordir 1949
Hysbysiad o Gynnig i Wneud Gwaith Diogelu'r Arfordir
Mae Cyngor [rhodder enw'r Cyngor], gan weithredu fel awdurdod diogelu'r arfordir, trwy hyn yn hysbysu, o dan adran 5(1) o'r Ddeddf uchod ei fod yn cynnig gwneud gwaith diogelu'r arfordir yn [rhodder lleoliad y gwaith].
Bydd y gwaith yn cynnwys [rhodder disgrifiad o'r gwaith].
Amcangyfrifir y bydd cost y gwaith yn £[rhodder amcangyfrif o'r gost].
Gellir archwilio manylion y gwaith arfaethedig [ynghyd â chopïau o'r cynllun rheoli'r draethlin berthnasol]*[a mapiau o ardaloedd perygl llifogydd lleol]* yn [rhodder cyfeiriad lle gellir archwilio a'r amserau pryd y gellir gwneud hynny].
[* dileer fel bo angen]
Gall unrhyw un wrthwynebu'r gwaith arfaethedig trwy gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i'r Cyngor, heb fod yn hwyrach na [rhodder dyddiad heb fod yn llai na 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad], hysbysiad o wrthwynebiad i'r cynllun.
Rhaid i unrhyw hysbysiad o wrthwynebiad i'r cynllun ddatgan seiliau'r gwrthwynebiad a gellir ei gyflwyno trwy law, ei danfon trwy'r post, gan dalu o flaen llaw, neu ei danfon trwy ffacs neu e-bost, fel y bydd yn dod i law heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir uchod, i Is-adran Diogelu'r Amgylchedd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ [rhodder Rhif ffacs a chyfeiriad e-bost cyfredol, y gellir eu cael oddi wrth Is-adran Diogelu'r Amgylchedd, Llywodraeth Cynulliad Cymru] ac i Brif Weithredwr Cyngor [rhodder enw'r Cyngor][rhodder cyfeiriad a Rhif ffacs a chyfeiriad e-bost cyfredol y Cyngor].
[Rhodder enw swyddog priodol y Cyngor]
[Rhodder dyddiad yr hysbysiad]
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, mewn perthynas â Chymru, yngln â hysbysiadau o gynlluniau i wneud gwaith diogelu'r arfordir a gyhoeddir gan awdurdodau diogelu'r arfordir o dan adran 5(1) o Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 ("y Ddeddf"), a hysbysiadau o wrthwynebiad i'r fath waith a gyflwynir o dan adran 5(3) o'r Ddeddf. Maent yn disodli Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) 1950.
Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn rhagnodi ffurf yr hysbysiad y mae'n rhaid i'r awdurdod diogelu'r arfordir ei gyhoeddi.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir, y mae adran 5(1) yn ei gwneud yn ofynnol i'w gyhoeddi a'i gyflwyno i Asiantaeth yr Amgylchedd ac i unrhyw fwrdd draenio mewnol perthnasol, hefyd gael ei gyflwyno i rai cyrff statudol ac i bartïon y mae eu buddiannau yn debyg o gael eu heffeithio gan y gwaith arfaethedig.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynnwys a chyflwyno hysbysiadau o wrthwynebiad i gynllun o dan adran 5(3).
Mae rheoliad 6 yn awdurdodi cyflwyno hysbysiadau trwy gyfathrebiad electronig.
Mae rheoliad 7 yn diddymu, mewn perthynas â Chymru, Reoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) 1950 (sydd eisoes wedi eu diddymu mewn perthynas â Lloegr gan Reoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Lloegr) 2002).
Notes:
[1]
1949 p.74. Diwygiwyd adran 5(1) gan Ddeddf D r 1989 (p.15), adran 190(1) ac Atodlen 25, paragraff 1, a chan Reoliadau Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (Diwygiadau Canlyniadol 1996 (O.S. 1996/593), rheoliad 2 ac Atodlen 1.back
[2]
Trosglwyddwyd pwerau "y Gweinidog" o dan adran 5 o'r Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1.back
[3]
2000 p.7.back
[4]
O.S. 1950/124, sydd eisoes wedi'i ddiddymu, mewn perthynas â Lloegr, gan O.S. 2002/278.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090763 9
|