BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 1851 (Cy.201)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031851w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1851 (Cy.201)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 16 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd iddo gan adrannau 2, 3(1) i (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1] fel y'i darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1972[2] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2003, mae'n gymwys i Gymru, a daw i rym ar 31 Gorffennaf 2003.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993[4]) yn unol â pharagraffau canlynol yr erthygl hon.

    (2) Yn erthygl 2(1)  - 

    (3) Yn Atodlen 1, Rhan A, Adran 1(a)  - 

    (4) Yn Atodlen 1, Rhan A, Adran 2(a), dileer eitemau 4, 5 a 6.

    (5) Yn Atodlen 1, Rhan B(a), ar ôl eitem 2 rhodder y canlynol  - 

"      3. Liriomyza bryoniae (Kaltenbach)

IRL and UK (Northern Ireland)".







    (15) Yn Atodlen 5, Rhan A, Adran I, yn eitem 2.1, ar ôl y geiriau "Verbena L." rhodder y geiriau  - 

    (16) Yn Atodlen 5, Rhan A, Adran II  - 

    (17) yn Atodlen 5, Rhan B, Adran I  - 

    (18) Yn Atodlen 5, Rhan B Adran II,

    (19) Yn Atodlen 8(a)

    (20) yn Atodlen 8(b), yn eitem 2, yn lle'r geiriau yn yr ail golofn rhodder y canlynol  - 

    (21) Yn Atodlen 8(d), yn eitem 1, yn lle'r geiriau yn yr ail golofn rhodder y canlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 er mwyn rhoi'r canlynol ar waith yng Nghymru:

    (1) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/36/EC (OJ Rhif L116, 3.5.02, t.16) a 2003/22/EC (OJ Rhif L78, 25.3.03, t.10) sy'n diwygio amrywiol Atodiadau i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2000/29/EC (OJ Rhif L169, 10.7.00, t.1) ar fesurau diogelu yn erbyn cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned;

    (2) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/21/EC (OJ Rhif L78, 25.3.03, t.8) sy'n diwygio rhai parthau gwarchod sy'n agored i risgiau iechyd penodol i blanhigion yn y Gymuned yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2001/32/EC (OJ Rhif L127, 9.5.01, t.38).

Dyma'r prif newidiadau a gyflwynir gan y Gorchymyn hwn, sydd yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2003,  - 

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Gangen Iechyd Planhigion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1967 p.8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 of Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48).back

[2] 1972 p. 62.back

[3] Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), adran 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yna trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] O.S. 1993/1320; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245, 1999/2641 (Cy.8), 2001/2500 (Cy.203), 2001/3761 (Cy.310) a 2002/1805 (Cy.175).back

[5] OJ Rhif L 169, 10.7.00, t.1.back

[6] OJ Rhif L 127, 9.5.01, t.42; a gweler y Gyfarwyddeb gysylltiedig, sef Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/32/EC, OJ Rhif L127, 9.5.01, t.38.back

[7] OJ Rhif L 77, 20.3.02, t.23; a gweler y Gyfarwyddeb gysylltiedig, sef Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/29/EC, OJ Rhif L 77, 20.3.02, t.26.back

[8] OJ Rhif L 116, 3.5.02, t.16.back

[9] OJ Rhif L78, 25.3.03, t.10.back

[10] Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth IPPC, AGPP-FAO, Viale Delle Terme di Caracalla, 00100 Rhufain, yr Eidal a http://www.ippc.int/IPP/En/default.htmlback

[11] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090772 8


 
© Crown copyright 2003
Prepared 29 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031851w.html