BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 1852 (Cy. 202)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031852w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1852 (Cy. 202)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

DŴ R, CYMRU

Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 16 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), sydd wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â diogelu dwcirc r rhag y llygredd sy'n cael ei achosi gan nitradau o ffynonellau amaethyddol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2003.

Diwygio Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998
    
2.  - (1) Mae Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998[3] ("Rheoliadau 1998") yn cael eu diwygio fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â'r paragraffau canlynol - 

    (2) Yn rheoliad 2(dehongli) yn y diffiniad o "nitrate vulnerable zones" mewnosodir y geiriau "or 3B" yn union ar ôl "regulation 3".

    (3) Yn rheoliad 8(1) (tramgwyddau)  - 

    (4) Yn yr Atodlen



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998.

Yn benodol, mewn perthynas â'r ardaloedd pellach hynny a ddynodwyd yn barthau perygl nitradau yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Dwcirc r Rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002, maent yn darparu bod y dyddiad ar gyfer y lluosydd 210kg sydd wedi'i nodi ym mharagraff 9(2)(b)(i) o'r Atodlen yn cael ei estyn i 19 Rhagfyr 2006. Mewn perthynas â'r ardaloedd hynny a ddynodwyd yn barthau perygl nitradau cyn Rheoliadau 2002, 19 Rhagfyr 2002 yw'r dyddiad perthnasol o hyd.

Mae'r Rheoliadau hefyd


Notes:

[1] Gweler Erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) 2001 (OS 2001/2555) ac Atodlen 2, paragraff 2 iddo.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1998/1202.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090767 1


 
© Crown copyright 2003
Prepared 23 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031852w.html