BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003 Rhif 1855 (Cy.205)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031855w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1855 (Cy.205)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

CADWRAETH PYSGOD MÔR

Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 16 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 1 Awst 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 5(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967[1], ac a freinir ynddo bellach[2],a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 1 Awst 2003.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn mae i "Gymru" yr un ystyr â "Wales" yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2002[
3] ac mae "dyfroedd Cymru" i'w ddehongli yn unol â hynny.

Dehongli
     2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

ac mae i unrhyw ymadrodd cyfatebol arall a ddefnyddir yn Rheoliad y Cyngor yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag yn y Rheoliad hwnnw.

Gwahardd dull pysgota
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, gwaherddir pysgota gan unrhyw gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru ag unrhyw dreillrwyd ac eithrio treillrwyd unigol.

    (2) Nid yw paragraff (1) uchod yn gymwys  - 

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota
    
4.  - (1) Er mwyn gorfodi'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru.

    (2) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei stopio a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso naill ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arno.

    (3) Caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y meistr a phersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r erthygl hon ac, yn benodol  - 

ond nid oes dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

    (4) Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y Gorchymyn hwn wedi'i dorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog  - 

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu'n ei gwneud yn ofynnol cadw cwch rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Diddymu
     5. Diddymir drwy hyn Orchymyn Cimychiaid Norwy (Gwahardd Dull Pysgota) 1993[12], i'r graddau y mae'n effeithiol mewn perthynas â Chymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu ac yn ailddeddfu gyda diwygiadau Orchymyn Cimychiaid Norwy (Gwahardd Dull Pysgota) 1993 (O.S. 1993/1887) mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn yn gwahardd pysgota ag unrhyw dreillrwyd heblaw treillrwyd unigol, ac eithrio o dan amgylchiadau penodedig. Yr oedd y gwaharddiad yng Ngorchymyn 1993 yn ymwneud â physgota am gimychiaid Norwy yn unig. Nid yw'r gwaharddiad yn y Gorchymyn hwn wedi'i gyfyngu felly. Mae'r gwaharddiad yn gymwys i gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru (erthygl 3(1)). Mae'r Gorchymyn yn cyflwyno diffiniad o "dreillrwyd unigol" (erthygl 2(1)). Nid yw'r gwaharddiad yn gymwys i dreill-longau trawst nac i bysgota â threillrwyd nad yw maint penodedig eu masgl yn llai nag 80 milimetr (erthygl 3(2)).

Rhoddir pwerau penodol i swyddogion pysgodfeydd môr Prydain er mwyn gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 4).

Rhagnodir tramgwyddau gan adrannau 5(1) a (6) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 (p.84) a chosbau gan adran 11 o'r Ddeddf honno, fel y'i diwygiwyd gan adran 24(1) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29).

Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud drwy ddibynnu ar Erthygl 46 o Reoliad y Cyngor (EC) 850/98 ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i amddiffyn organeddau morol ifanc (OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1), sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaeth i gymryd mesurau cenedlaethol penodol i gadw a rheoli stociau, ar yr amod bod mesurau o'r fath yn gymwys i bysgotwyr o'r Aelod-wladwriaeth honno yn unig.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i adneuo yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth y Gangen Bysgodfeydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1967 p.84. Amnewidiwyd adran 5(1) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), adran 22(1). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77) adran 22(1), Atodlen 1, paragraff 38(3) a'i diwygio gan Ddeddf Ffiniau Pysgota 1976 (p.86) adran 9(1), Atodlen 2, paragraff 16(1) ac O.S. 1999/1820, Erthygl 4, Atodlen 2, paragraff 43(2)(b). Gweler adran 22(2)(a) i gael y diffiniadau o "the Ministers" ("y Gweinidogion") at ddibenion adrannau 5 a 15(3); diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d) a 45(b) ac (c) a chan O.S. 1999/1820, Erthygl 4, paragraff 43(12) o Atodlen 2.back

[2] Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd yn arferadwy o dan Ddeddf 1967 i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru (a ddiffinnir yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) i gynnwys "the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea"); mewn perthynas â dyfroedd y tu hwnt i Gymru mae'r swyddogaethau hyn yn parhau i fod yn arferadwy gan y Gweinidogion. Mae Erthygl 3(1) ac Atodlen 1 o Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Swyddogaethau Cydamserol) 1999 (O.S. 1999/1592) yn darparu i'r swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adrannau 5 a 15(3) o Ddeddf 1967 gael eu harfer gan y Gweinidogion yn gydamserol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â'r canlynol: cychod pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y parth Albanaidd; a chychod pysgota'r Alban o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain ond y tu allan i'r parth Albanaidd. Yn rhinwedd erthygl 2(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Physgodfeydd) 2000 (O.S. 2000/1812) trosglwyddwyd unrhyw swyddogaethau a oedd yn weddill gan Ysgrifenyddion Gwladol Cymru a'r Alban o dan adrannau 5 a 15(3) o Ddeddf 1967 i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, ac yn eu tro (ynghyd â swyddogaethau eraill) i'r Ysgrifennydd Gwladol gan O.S.2002/794.back

[3] 1998 p.38. Diffinnir Cymru yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) i gynnwys "the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea". Mae erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwnnw yn delio â chymhwyso'r ddarpariaeth honno i Aberoedd yr Hafren a'r Ddyfrdwy.back

[4] OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1.back

[5] OJ Rhif L318, 27.11.98, t.63.back

[6] OJ Rhif L038, 12.2.99, t.6.back

[7] OJ Rhif L168, 3.7.99, t.1.back

[8] OJ Rhif L328, 22.12..99, t.9.back

[9] OJ Rhif L1000, 20.4.2000, t.3.back

[10] OJ Rhif L148, 22.6.2000, t.1.back

[11] Diwygiwyd is-adran (6) gan adran 22(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981. Yn rhinwedd is-adran (7), os na chydymffurfir ag is-adran (6) yn achos unrhyw gwch pysgota, bydd y meistr, y perchennog a'r siartrwr (os oes un) yn euog o dramgwydd o dan yr is-adran honno.back

[12] O.S. 1993/1887.back



English version



ISBN 0 11090770 1


 
© Crown copyright 2003
Prepared 23 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031855w.html