BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Amrywio'r Dyfroedd a Eithrir) (Afon Teifi) (Cymru) 2003 Rhif 1915 (Cy.209)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031915w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1915 (Cy.209)

DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU

Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Amrywio'r Dyfroedd a Eithrir) (Afon Teifi) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 20 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 1 Awst 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Gweinidog gan baragraff 113 o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Amrywio'r Dyfroedd a Eithrir) (Afon Teifi) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949
    
2. Ym mharagraff 83 o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 (sydd, at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf, yn eithrio dyfroedd penodol sy'n ffurfio rhan o Afon Teifi o'r diffiniad o "sea" a "seashore"), yn lle "above the ferry north of St Dogmells" rhodder y geiriau "above Priory Bridge at Cardigan"."



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Carwyn Jones
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

20 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 ("y Ddeddf") yn pennu dyfroedd nad ydynt, at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf (diogelu'r arfordir), wedi'u cynnwys yn yr ymadroddion "sea" a "seashore". Mae'r Rheoliadau hyn yn amrywio Atodlen 4 i'r Ddeddf er mwyn ymestyn y rhan honno o Afon Teifi a gynhwysir yn yr ymadroddion hynny.


Notes:

[1] 1949 p.74.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back



English version



ISBN 0 11090773 6


 
© Crown copyright 2003
Prepared 13 August 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031915w.html