BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 Rhif 1966 (Cy.211) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031966w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 29 Gorffennaf 2003 | ||
Yn dod i rym | 1 Awst 2003 |
1. | Teitl, cymhwyso a chychwyn |
2. | Dehongli |
3. | Eithriadau |
4. | Cyfyngiadau ar symud gwartheg, defaid a geifr |
5. | Cyfyngiadau ar symud moch |
6. | Symudiadau a ganiateir yn ystod cyfnod segur |
7. | Symudiadau nad ydynt yn sbarduno cyfnod segur |
8. | Cyfleusterau ynysu |
9. | Marcio defaid a geifr sy'n teithio i sioeau neu arddangosfeydd |
10. | Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dai ac oddi yno |
11. | Grwpiau meddiannaeth unigol |
12. | Y gofyniad am drwydded i symud anifeiliaid |
13. | Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan drwydded gyffredinol |
14. | Trwyddedau penodol |
15. | Trwyddedau cyffredinol |
16. | Copïau o drwyddedau |
17. | Cydymffurfio â thrwyddedau, etc. |
18. | Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr |
19. | Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau |
20. | Glanhau a diheintio |
21. | Newid meddiannaeth safleoedd |
22. | Gorfodi |
23. | Dirymu |
24. | Diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 |
ATODLEN 1 | Symudiadau oddi ar safleoedd a ganiateir yn ystod y cyfnod segur |
ATODLEN 2 | Symudiadau i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur |
Eithriadau
3.
Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys i symud -
Symudiadau a ganiateir yn ystod cyfnod segur
6.
Er gwaethaf erthyglau 4 a 5, caniateir i anifeiliaid gael eu symud oddi ar safle yn ystod y cyfnod segur -
Symudiadau nad ydynt yn sbarduno cyfnod segur
7.
Nid yw'r cyfnod segur yn cael ei sbarduno drwy symud anifail i safle os yw'r symudiad yn un a bennir yn Atodlen 2.
Cyfleusterau ynysu
8.
- (1) Pan fydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn cyfleuster ynysu o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, a bod anifeiliaid eraill yn cael eu symud i mewn cyn iddynt gael eu rhyddhau o'r cyfleuster ynysu, ni chaniateir i unrhyw anifail gael ei symud o'r cyfleuster ynysu cyn y dyddiad rhyddhau diwethaf i'r anifeiliaid diwethaf gael eu symud i mewn i'r cyfleuster ynysu.
(2) Ni chaniateir i foch rannu cyfleuster ynysu ag anifeiliaid o unrhyw rywogaeth arall.
Marcio defaid a geifr sy'n teithio i sioeau neu arddangosfeydd
9.
Ni chaiff neb symud defaid neu eifr i sioe neu arddangosfa oni bai bod yr anifeiliaid wedi'u marcio â Rhif adnabod unigol yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[5].
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dai ac oddi yno
10.
Ni chaiff neb -
Grwpiau meddiannaeth unigol
11.
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol a'r Ysgrifennydd Gwladol awdurdodi setiau o safleoedd i fod yn grwpiau meddiannaeth unigol os yw ef neu hi wedi'i fodloni bod y safleoedd yn gysylltiedig â'i gilydd o ran eu rheolaeth.
(2) Ni chaiff hysbysiad ei ddyroddi o dan baragraff (13) ond ar gyngor arolygydd, y mae'n rhaid iddo fod o'r farn -
(3) Mae hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) i gael ei gyflwyno i feddianwyr pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad ac mewn unrhyw ffordd arall y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn dda i ddwyn yr hysbysiad i sylw'r personau y mae'r hysbysiad yn effeithio arnynt.
(4) Mae hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(b) i gael ei gyflwyno i'r person sy'n cael ei wahardd gan yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid ac i feddiannydd unrhyw safle a enwir yn benodol yn yr hysbysiad.
(5) Rhaid i hysbysiad fod yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaiff ei ddiwygio, ei atal dros dro, neu ei ddirymu ar unrhyw adeg gan hysbysiad arall gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Trwyddedau penodol
14.
- (1) O ran anifail a symudir o dan drwydded benodol -
(2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded benodol, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol -
(3) Rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan awdurdod trwydded o dan y Gorchymyn hwn gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nad yw'n cael ei symud o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny ar hyd y daith.
(4) Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded benodol, yna, onid yw'r drwydded yn darparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo -
Trwyddedau cyffredinol
15.
Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gan y person sy'n symud yr anifeiliaid ddogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo -
Copïau o drwyddedau
16.
Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 12(1), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.
Cydymffurfio â thrwyddedau, etc
17.
Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â thrwydded, caniatâd, awdurdodiad neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, caiff un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, neu arolygydd, drefnu y cydymffurfir ag ef a hynny ar draul y person sy'n methu â chydymffurfio.
Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr
18.
Bydd trwydded a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys yn yr Alban neu yn Lloegr at ddibenion symud anifeiliaid yn weithredol yng Nghymru fel pe buasai wedi'i dyroddi o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Wrth benderfynu a ddylid dyroddi trwydded o dan erthygl 12 neu ganiatâd o dan erthygl 6(b), rhaid i arolygydd neu arolygydd milfeddygol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Glanhau a diheintio
20.
- (1) Caiff trwydded a ddyroddir o dan erthygl 12, caniatâd a ddyroddir o dan erthygl 6(b) neu awdurdodiad o dan erthygl 11 bennu gofynion o ran y gwaith o lanhau a diheintio unrhyw gerbyd a ddefnyddir ar gyfer symud anifeiliaid ac sy'n ychwanegol at ofynion Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003[7].
(2) Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded, rhaid i feddiannydd y safle y maent yn cael eu symud iddo ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau digonol ar gyfer unrhyw waith glanhau a diheintio sy'n ofynnol o dan y drwydded.
Newid meddiannaeth safleoedd
21.
- (1) Os, pan fydd ei hawl i feddiannu unrhyw safle yn dod i ben, y bydd perchennog unrhyw anifail ar y safle hwnnw yn methu ei symud o'r safle hwnnw oherwydd unrhyw gyfyngiad a osodir gan y Gorchymyn hwn neu oddi tano, rhaid i'r person sydd â'r hawl i feddiannu'r safle hwnnw -
(2) Bydd darpariaethau paragraff (1) yn dal i fod yn gymwys hyd nes bydd cyfnod o saith diwrnod wedi mynd heibio ers y dyddiad y bydd unrhyw gyfyngiadau ar symud yr anifail oddi ar y safle yn peidio â bod yn gymwys, a pherchennog yr anifail fydd yn atebol am dalu i'r person sy'n darparu unrhyw gyfleusterau neu borthiant, sy'n tendio neu fel arall yn cadw'r anifeiliaid, yn unol â'r darpariaethau hynny, unrhyw symiau, o ran tâl ac ad-daliad o dreuliau, sy'n gyfiawn ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
Gorfodi
22.
- (1) Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, y caiff dyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn ei chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, ac nid gan yr awdurdod lleol.
Dirymu
23.
Dirymir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2003[8].
Diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
24.
- (1) Diwygir Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 yn unol â'r ethygl hwn.
(2) Yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwnnw dileir y geiriau "a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Awst 2003".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
John Marek
Cynulliad Cenedla
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Gorffennaf 2003
Ben Bradshaw
Is-ysgrifennydd Gwladol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
29 Gorffennaf 2003
Symud anifail ar gyfer ffrwythloni artiffisial
5.
Symud gwartheg neu foch i ganolfan ffrwythloni artiffisial.
6.
Symud defaid neu eifr i ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod wedi eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am chwe diwrnod cyn ymadael.
Anifeiliaid i'w hallforio
7.
Symud anifail i'w allforio yn uniongyrchol i ganolfan gasglu neu ganolfan gynnull a gymeradwywyd o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000[9] cyn ei allforio.
Symud o fewn gr p meddiannaeth unigol
8.
Symud anifeiliaid rhwng safleoedd mewn gr p meddiannaeth unigol.
Tir comin
9.
- (1) Symud anifail rhwng tir y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl gofrestredig i gomin arno ac -
(2) Mae symud anifail rhwng safle, sydd ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol dros y tir, a safle ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw, a bod hawl gofrestredig i gomin y person arall hwnnw'n cael ei harfer fel rheol mewn perthynas â'r tir hwnnw.
(3) Yn y paragraff hwn ystyr "hawl gofrestredig i gomin" ("registered right of common") yw hawl i gomin sy'n gofrestredig o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965[10] neu hawl i gomin sy'n esempt rhag unrhyw gofrestru o'r fath ond sydd wedi'i chofrestru, wedi'i dynodi, wedi'i chysylltu, neu fel arall wedi'i chydnabod, wedi'i pharhau neu wedi'i chadw o dan ac yn unol ag unrhyw un o'r Deddfau Fforest Newydd 1854, 1949, 1964 a 1970, Deddfau Fforest Epping 1878[11] a 1880[12] neu Ddeddf Dinas Llundain (Pwerau Amrywiol) 1977[13]) neu unrhyw hawl neu ganiatâd cyffelyb sydd wedi'i arfer yn Fforest y Ddena.
Symud moch ar gyfer bridio, etc.
10.
- (1) Symud mochyn sydd wedi'i fwriadu ar gyfer bridio neu besgi yn unol ag erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002.
(2) Symud mochyn sydd wedi'i fwriadu ar gyfer bridio heblaw yn unol â pharagraff (1) os gosodwyd y mochyn hwnnw mewn cyfleuster ynysu wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol a hynny am 20 diwrnod cyn symud y mochyn.
Symud moch i sioeau ac arddangosfeydd
11.
Symud mochyn i sioe neu arddangosfa ar yr amod -
Symud hyrddod a theirw ar gyfer bridio
12.
- (1) Symud hyrddod a theirw, y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bridio, i farchnad, ar yr amod eu bod wedi'u rhoi mewn cyfleuster ynysu sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol am chwe diwrnod cyn eu symud.
(2) I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn -
Symud gwartheg, defaid a geifr i sioeau neu arddangosfeydd
13.
Symud gwartheg, defaid a geifr i sioeau neu arddangosfeydd ar yr amod -
Cerbydau sy'n gollwng anifeiliaid eraill
14.
Symud anifail sydd ar gerbyd sy'n mynd i safle i ollwng anifeiliaid eraill, ar yr amod nad yw'r anifail wedi gadael y cyfrwng cludo tra bu ar y safle.
(2) Symud mochyn (ac eithrio un sy'n cael ei symud o dan erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o fan yr oedd wedi'i symud iddo ar gyfer bridio, ar yr amod -
Dychwelyd moch, gwartheg, defaid neu eifr o sioe neu arddangosfa
5.
Dychwelyd moch, gwartheg, defaid neu eifr o sioe neu arddangosfa i'r safle y traddodwyd hwy ohono i'r sioe neu'r arddangosfa ar yr amod bod yr anifeiliaid yn cael eu hynysu am chwe diwrnod (neu, yn achos moch, am 20 diwrnod) ar ôl eu dychwelyd i safle wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.
Dychwelyd hyrddod a theirw bridio o farchnad
6.
- (1) Dychwelyd hyrddod a theirw o farchnad ar yr amod bod yr anifeiliaid yn cael eu hynysu am chwe diwrnod ar ôl eu dychwelyd mewn safle sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.
(2) I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn -
Hyrddod a theirw sy'n cyrraedd ar gyfer bridio
7.
- (1) Hyrddod a theirw sy'n cyrraedd at ddibenion bridio ar yr amod eu bod yn cael eu hynysu am chwe diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd cyfleuster sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.
(2) I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn -
Geifr sy'n cyrraedd ar gyfer bridio
8.
- (1) Geifr sy'n cyrraedd at ddibenion bridio ar yr amod eu bod wedi'u hynysu ar y safle tarddiad am chwe diwrnod cyn ymadael mewn cyfleuster sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.
(2) I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn -
Canolfannau ffrwythloni artiffisial
9.
Gwartheg sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial.
10.
Moch sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod yn cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.
11.
Defaid neu eifr sy'n cyrraedd yn ôl o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod -
Anifeiliaid a fewnforir
12.
- (1) Anifail a fewnforir sy'n cyrraedd y fan lle y mae'n dod i mewn i Gymru.
(2) Symud anifail o'r fan lle y daw i mewn i'r Deyrnas Unedig yn sgil ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall.
Symud o fewn gr p meddiannaeth unigol
13.
Symud anifeiliaid rhwng safleoedd mewn gr p meddiannaeth unigol.
Cerbydau sy'n casglu anifeiliaid eraill
14.
Symud anifail y daethpwyd ag ef i'r safle mewn cerbyd sy'n casglu anifeiliaid eraill ar yr amod nad yw'r anifail yn cael ei ddadlwytho ar y safle hwnnw.
Cyrraedd ar ôl triniaeth filfeddygol, etc.
15.
Unrhyw ddefaid, geifr, gwartheg neu foch sy'n cael eu dychwelyd i'r safle hwnnw o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol neu unrhyw epil y maent wedi esgor arnynt tra'r oeddent yno ar yr amod, yn achos moch, eu bod wedi'u hynysu oddi wrth anifeiliaid eraill am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.
[2] O.S. 1995/539 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf yngylch Cymru gan O.S. 2002/129 (Cy.17).back
[3] O.S. 1983/1950 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ynghylch Cymru gan O.S. 2001/4009 (Cy. 335).back
[5] O.S. 2002/2302 (Cy.227), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/167 (Cy.27), O.S. 2003/946 (Cy.127) a'r Gorchymyn hwn.back
[6] O.S. 2002/2303, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/170 (Cy.30).back
[7] O.S. 2003/1968 (Cy.213).back
[8] O.S. 2003/1414 (Cy. 166).back
[9] O.S. 2000/1673 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf, ynghylch Cymru, gan O.S. 2002/1039 (Cy.111).back
[11] 1878 p. CCXIII (41 a 42 Vict.).back
[12] 1880 p. CXXX (43 a 44 Vict.).back
[14] O.S. 2003/1967 (Cy.212).back
[15] O.S. 2003/1414 (Cy.166).back
[16] O.S. 2003/1967 (Cy.212).back
© Crown copyright 2003 | Prepared 26 August 2003 |