BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003 Rhif 1967 (Cy.212)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031967w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1967 (Cy.212)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 29 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 1 Awst 2003 


TREFN YR ERTHYGLAU

1. Enwi, cymhwyso a chychwyn
2. Dehongli
3. Eithriadau
4. Defnyddio safleoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid
5. Cyfyngiad 27 diwrnod ar gynnal crynhoad anifeiliaid
6. Eithrio safleoedd ag ardal i anifeiliaid sydd wedi ei phalmantu o'r cyfnod cyfyngedig o 27 diwrnod
7. Terfynau uchaf amser
8. Dyletswyddau personau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
9. Cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid
10. Gorfodi
11. Dirymu

  ATODLEN Gofynion mewn crynhoad anifeiliaid

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, yn gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 ac 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Awst 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

Eithriadau
     3. Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys os - 

Defnyddio safleoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid
     4.  - (1) Ni chaiff neb ddefnyddio safle ar gyfer crynhoad anifeiliaid oni bai bod y safle hwnnw wedi ei drwyddedu i'r perwyl hwnnw gan arolygydd milfeddygol.

    (2)

    (3) Mae trwydded i bennu  - 

Cyfyngiad 27 diwrnod ar gynnal crynhoad anifeiliaid
    
5. Ni chaiff neb ganiatáu crynhoad anifeiliaid ar safle y mae anifeiliaid wedi cael eu cadw arno nes bydd 27 diwrnod wedi mynd heibio ers y diwrnod - 

Eithrio safleoedd ag ardal i anifeiliaid sydd wedi ei phalmantu o'r cyfnod cyfyngedig o 27 diwrnod
    
6.  - (1) Nid yw'r cyfyngiad yn erthygl 5 yn gymwys os yw'r ardal i anifeiliaid ar y safle trwyddedig wedi ei phalmantu â sment, concrid, asffalt neu unrhyw ddeunydd caled ac anhydraidd arall y mae modd ei lanhau a'i diheintio'n effeithiol, ac os yw'r ardal i anifeiliaid yn cael ei glanhau a'i diheintio ac y ceir gwared ar y gwastraff yn unol â'r erthygl hon cyn cynnal crynhoad anifeiliaid arall.

    (2) Rhaid i'r glanhau a'r diheintio

    (3) Rhaid ysgubo neu grafu'n lân pob rhan o'r ardal i anifeiliaid (gan gynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd.

    (4) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, a'r holl sarn, yr ysgarthion a'r deunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid ac halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid sydd yn yr ardal i anifeiliaid, cyn gynted ag y bo modd a chyn i anifeiliaid gael mynd mewn i'r safle trwyddedig eto  - 

    (5) Os, ar ôl yr achlysur diwethaf pan gafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, y'i halogir ag ysgarthion anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid neu unrhyw halogyn sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid ysgubo neu grafu'n lân yr ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi eu halogi felly, a'u glanhau drwy olchi a thrwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd ar y safle trwyddedig eto.

Cyfyngiadau amser
    
7.  - (1) Ni chaiff yr un crynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion  - 

barhau yn hwy na 48 awr.

    (2) Bydd y cyfnod 48 awr yn dechrau ar ganol dydd a dod i ben ar ganol dydd y trennydd.

    (3) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau  - 

    (4) Caiff arolygydd milfeddygol, os yw wedi ei fodloni  - 

estyn y terfyn amser o 48 awr mewn cysylltiad â gwerthiant drwy roi hysbysiad ysgrifenedig.

Dyletswyddau personau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
    
8. Pan gynhelir crynhoad anifeiliaid (heblaw mewn sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion ynghylch crynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.

Cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid
    
9.  - (1) Bydd darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys pan fydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y safle trwyddedig.

    (2) Ni chaiff neb ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y safle trwyddedig nes bydd halogion gweladwy wedi eu glanhau oddi ar yr holl gyfarpar yr oedd yr anifeiliaid yn y crynhoad yn cael mynd ato.

    (3) Ni chaiff neb symud unrhyw gyfarpar y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato o'r safle trwyddedig os - 

Gorfodi
    
10.  - (1) Yr awdurdod lleol sydd i orfodi'r Gorchymyn hwn.

    (2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo, mewn mathau penodol o achosion penodol neu unrhyw achos penodol, mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac nid yr awdurdod lleol, sydd i weithredu'r swyddogaeth orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon.

Dirymu
    
11. Dirymir y canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


John Marek
Y Dirprwy Lywydd

29 Gorffennaf 2003


Ben Bradshaw
Yr Is-ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
29 Gorffennaf 2003



YR ATODLEN
Erthygl 8


Gofynion mewn crynhoad anifeiliaid


Dyletswyddau trwyddedai
     1.  - (1) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y safle trwyddedig yn cael gwybod bod y safle'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall.

    (2) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu baddonau traed ac ynddynt ddiheintydd a gymeradwywyd wrth y ffyrdd allan o'r ardal i anifeiliaid ac wrth unrhyw fan llwytho a dadlwytho, a darparu cyfleusterau ar y safle trwyddedig ar gyfer newid, glanhau a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.

    (3) Mae'n rhaid i'r trwyddedai - 

Dyletswyddau personau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
     2.  - (1) Ni chaiff neb fynd ar safle trwyddedig yn gwisgo dillad allanol y mae arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â charthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid.

    (2) Os bydd person yn yr ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â charthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union ar ôl gadael yr ardal i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad (onid yw'r dillad i gael eu taflu) a naill ai - 

    (3) Os bydd person y tu allan i'r ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â charthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis o - 

Esgidiau i'w gwisgo yn yr ardal i anifeiliaid
     3. Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r ardal i anifeiliaid lanhau a diheintio ei esgidiau yn y baddon traed sydd wedi'i ddarparu.

Cerbydau
     4.  - (1) Ni chaiff neb ddod ag unrhyw gerbyd nac offer a gludir ar y cerbyd hwnnw ar y safle trwyddedig na mynd â hwy oddi yno os ydynt wedi'u halogi â charthion anifeiliaid.

    (2) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003. Dyma'r newidiadau y mae'n eu gwneud i'r Gorchymyn hwnnw  - 

    
  • mae'n ehangu diffiniad "crynoadau anifeiliaid" i gynnwys anifeiliaid a ddaethpwyd ynghyd i'w harchwilio er mwyn sicrhau bod ganddynt nodweddion brid penodol (erthygl 2);

        
  • mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer safleoedd mewn grwcirc p meddiannaeth unigol (erthygl 3);

        
  • mae'n gosod terfyn amser 48 awr ar grynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthu ac anfon anifeiliaid ymlaen o fewn Prydain Fawr er mwyn eu lladd, eu magu ymhellach neu eu pesgi. Caiff arolygydd milfeddygol estyn y terfyn amser ar werthiannau anifeiliaid os bydd angen gwneud hynny er lles yr anifeiliaid neu os bach yw'r perygl o gyflwyno salwch yn y gwerthiant neu wrth anfon anifeiliaid ymlaen wedi hynny (erthygl 7);

        
  • mae'n ehangu paragraff 4 o'r Atodlen i gynnwys ysgarthion anifeiliaid sydd wedi cael eu dadlwytho o gerbyd mewn safle trwyddedig. Mae hefyd yn darparu mai at ddibenion glanhau a diheintio cerbyd yn unig y caiff cerbydau neu gyfarpar sydd wedi eu halogi ag ysgarthion anifeiliaid fynd i mewn i safle trwyddedig.

    Mae'n ei gwneud yn ofynnol cael trwydded am grynoadau anifeiliaid, fel y bu hi'n ofynnol eisoes (erthygl 4). Mae'n pennu na cheir cynnal crynhoad anifeiliaid os nad yw'n digwydd 27 diwrnod ar ôl i'r anifail olaf adael y safle hwnnw ac ar ôl i halogiad gweladwy gael ei lanhau oddi ar gyfarpar ar y safle hwnnw (erthygl 5). Os ar safle wedi ei balmantu y cynhelir y crynhoad, mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer glanhau a diheintio'r safle hwnnw ac yn caniatáu cynnal crynhoad o fewn y terfynau amser arferol. Mae'n gosod dyletswyddau ar bersonau sy'n mynd i grynhoad anifeiliaid (erthygl 8 a'r Atodlen). Mae'n gosod cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid (erthygl 9).

    Mae'n dirymu Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (Rh. & G.S. 1925/1349) a'r offerynnau sy'n ei ddiwygio (erthygl 11). Yr awdurdod lleol sy'n ei orfodi (erthygl 10).

    Mae methu cydymffurfio â'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac mae'r gosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

    Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi a'i roi yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol . Ceir copïau oddi wrth Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


    Notes:

    [1] 1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn cysylltiad â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd pob swyddogaeth y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd wedi hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

    [2] O.S. 1978/32 fel y'i diwygiwyd gan O. S. 1999/919 ac, o ran Cymru, O. S. 2001/641 (Cy.31).back

    [3] O.S. 2003/1966 (Cy. 211).back

    [4] Rh. a G.S. 1925/1349.back

    [5] Rh. a G.S. 1926/546.back

    [6] Rh. a G.S. 1927/982.back

    [7] O.S. 1996/3265.back

    [8] O.S. 2003/481 (Cy.67).back



    English version



    ISBN 0 11090778 7


     
    © Crown copyright 2003
    Prepared 26 August 2003


    BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
    URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031967w.html