BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003 Rhif 1976 (Cy.215)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031976w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1976 (Cy.215)

GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 31 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 1 Awst 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992
    
2. Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau")[2] yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
     3. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli)  - 

Diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau
     4. Yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (Datganiad o Daliadau Deintyddol) ar ddiwedd y Tabl o dan baragraff (1) rhodder  - 

Diwygio Atodlen 4 i'r prif Reoliadau
    
5. Yn Rhan II o Atodlen 4 i'r prif Reoliadau (triniaeth cymeradwyaeth ymlaen llaw), ym mhob un o baragraffau 1 a 2, yn lle "£375" rhodder "£390".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cymru

31 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/611) ("y prif Reoliadau"). Mae'r Rheoliadau hynny yn rheoleiddio'r telerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu odanynt o dan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Caiff rheoliad 2 o'r prif Reoliadau ei ddiwygio er mwyn ychwanegu'r diffiniad "bwrdd iechyd lleol" ac mae'n cynnwys darpariaethau fel bod cyfeiriadau at "FHSA" ac "Awdurdod Iechyd" yn cael eu trin fel cyfeiriadau at fwrdd iechyd lleol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 19(1) o'r prif Reoliadau er mwyn ychwanegu'r ddau benderfyniad newydd, XI ac XII at y tabl sy'n rhestru'r penderfyniadau. Pwnc penderfyniad XI yw "Taliadau Tadolaeth" a phwnc penderfyniad XII yw "Taliadau Seibiant Mabwysiadu".

Maent hefyd yn diwygio Atodlen 4 i'r prif reoliadau er mwyn codi (o £375 i £390) y swm a bennir ynddi fel cost uchaf, neu gost debygol, y gofal a'r driniaeth y caiff deintydd ymgymryd a hwy heb ofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw oddi wrth y Bwrdd Ymarfer Deintyddol.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".

Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 5(2) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"); gan Ddeddf 1990 adran 12(1) a chan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995") adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 6(e).

Disodlwyd adran 35(1) gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 24.

Rhif wyd adran 36(1) felly gan Ddeddf 1984, Atodlen 3, paragraff 5(1) ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(10); gan adran 25 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ac Atodlen 2, paragraff 4 iddi, gan Ddeddf 1990, adran 24(2) a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 25(a).

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back

[2] O.S. 1992/661; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1993/2209, 1995/3092, 1996/704, 1998/1648, 2000/3118 (Cy. 226) a 2001/2706 (Cy.226).back

[3] Mewnosodwyd adran 16BA gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090774 4


 
© Crown copyright 2003
Prepared 26 August 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031976w.html