BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Ôl-16 Unigol) (Cymru) 2003 Rhif 2453 (Cy.237)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032453w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2453 (Cy.237)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Ôl-16 Unigol) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 24 Medi 2003 
  Yn dod i rym 26 Medi 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(1), (2), a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 [1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Ôl-16 Unigol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 26 Medi 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

Ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol yn darparu gwybodaeth i'w hawdurdodau addysg lleol
     3. O fewn pedwar diwrnod ar ddeg ar ôl cael cais ysgrifenedig oddi wrth yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu ddarparu i'r awdurdod unrhyw wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac y gofynnir amdani o ran bob disgybl chweched dosbarth sydd ar y Gofrestr ar y dyddiad y gyfeirir ato yn y cais.

Personau Rhagnodedig
    
4. At ddibenion adran 537A(4) o'r Ddeddf 1996 rhagnodir Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant yn berson y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddarparu unrhyw wybodaeth am ddisgyblion unigol iddo.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Medi 2003



ATODLEN
Rheoliad 3


DARPARU GWYBODAETH AM DDISGYBLION ÔL-16 UNIGOL


     1. Yr wybodaeth a ganlyn am y disgybl  - 

     2. A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn un ysgol neu mewn mwy nag un ysgol.

     3. Cod post y cartref lle mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.

     4. A yw'r wybodaeth am grwcircp ethnig y disgybl a ddarparwyd yn rhinwedd yr Atodlen hon yn cael ei darparu gan  - 

     5. Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.

     6. A yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref ai peidio, ac os yw ef, gyda phwy.

     7. A yw'r disgybl yn astudio unrhyw bwnc, heblaw'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, drwy gyfrwng y Gymraeg.

     8. Os oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig, a oes ganddo ddatganiad o dan adran 324 o Ddeddf 1996 a'r ddarpariaeth AAA a wneir ar gyfer y disgybl yn unol â "Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru"[
6], a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002.

     9. A yw'r disgybl yn astudio tuag at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru.

     10. Teitl pob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio.

     11. Mewn perthynas â phob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio  - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Os bydd awdurdod addysg lleol yn anfon cais ysgrifenedig at gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw ac os oes gan yr ysgol honno chweched dosbarth, mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu roi gwybodaeth i'r awdurdod am ddisgyblion chweched dosbarth yr ysgol. Caiff yr awdurdod ofyn am unrhyw wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen. Rhaid i'r corff llywodraethu roi'r wybodaeth i'r awdurdod o fewn pedwar diwrnod ar ddeg.

Ar ben hynny, mae rheoliad 4 yn rhagnodi Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant yn berson y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi gwybodaeth am ddisgyblion unigol iddo o dan adran 537A(4) o Ddeddf Addysg 1996.


Notes:

[1] 1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.44), adran 20, ac fe'i disodlwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (1998 p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Am ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.back

[3] O.S. 1995/2089.back

[4] 2000 p.21.back

[5] 1998 p.38.back

[6] ISBN 0 7504 27574.back



English version



ISBN 0 11 090784 1


 
© Crown copyright 2003
Prepared 6 October 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032453w.html