[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003 Rhif 2456 (Cy.239) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032456w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 24 Medi 2003 | ||
Yn dod i rym | 1 Hydref 2003 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Eithriadau |
4. | Hysbysu am y clefyd |
5. | Camau i'w cymryd tra ymchwilir i amheuaeth o'r clefyd |
6. | Camau pellach i'w cymryd os yw hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan erthygl 5 |
7. | Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad |
8. | Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn lladd-dy, abwyfa neu ar gyfrwng cludo |
9. | Camau i'w cymryd o ran daliadau y mae'n bosib y cafodd y clefyd ei drosglwyddo iddynt neu ohonynt |
10. | Parth Rheoli Dros Dro |
11. | Parthau diogelu a goruchwylio |
12. | Glanhau a diheintio |
13. | Parth ymchwilio moch fferal |
14. | Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn mochyn fferal |
15. | Brechu |
16. | Cydymffurfio â hysbysiadau etc. |
17. | Pwerau cyffredinol arolygwyr ac arolygwyr milfeddygol |
18. | Gorfodi |
19. | Dirymu |
Atodlen 1 | Camau sy'n gymwys mewn parthau diogelu a goruchwylio |
Atodlen 2 | Camau sy'n gymwys mewn ardal heintiedig a sefydlir o dan erthygl 14 |
(2) At ddibenion y Gorchymyn hwn -
Eithriadau
3.
Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys pan fo'r feirws yn bresennol mewn amgylchiadau sydd wedi eu hawdurdodi drwy drwydded a roddwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998[2].
Hysbysu am y clefyd
4.
- (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n amau bod y clefyd yn bresennol mewn unrhyw fochyn neu garcas -
hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddiymdroi.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n dadansoddi samplau a gymerir o unrhyw anifail neu garcas ac sy'n darganfod tystiolaeth o wrthgorffynnau neu antigenau i'r clefyd neu unrhyw frechiad i'r clefyd hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddiymdroi.
(3) Ni chaiff neb symud yr un mochyn na charcas yr amheuir ei fod wedi ei heintio gan y clefyd, nac unrhyw gig, cynnyrch a wnaed o foch, semen, ofwm nac embryo mochyn, porthiant anifeiliaid, tail (tom) na biswail nac unrhyw offer, deunydd na gwastraff y maent yn debygol o drosglwyddo'r clefyd, o'r daliad nac o le arall lle y cafwyd hyd iddo, nes bydd arolygydd milfeddygol wedi ymweld â'r daliad neu'r lle arall hwnnw a bod yr arolygydd hwnnw naill ai wedi gorfodi cyfyngiadau o dan y Gorchymyn hwn neu wedi hysbysu'r person y mae'r mochyn neu'r carcas a amheuir yn ei ofal, nad oes angen, yn ei farn ef, gwneud hynny.
Camau i'w cymryd tra ymchwilir i amheuaeth o'r clefyd
5.
- (1) Rhaid i arolygydd milfeddygol sy'n amau bod y clefyd yn bresennol ar unrhyw ddaliad neu y gallasai fod wedi bod yn bresennol yno yn y 56 diwrnod diwethaf neu mewn lle arall neu ar gyfrwng cludo, os yw hysbysiad wedi ei roi o dan erthygl 4 ai peidio -
(2) Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff 1 rhaid i'r meddiannydd -
(b) sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y moch sy'n cael eu geni a'r rhai sy'n marw yn ystod y cyfnod pan fo'r cyfyngiadau o dan y paragraff hwn mewn grym a chofnodi sawl mochyn sy'n mynd yn sâl a fu gynt, yn ôl eu golwg, heb y clefyd;
(c) dangos y cofnod i arolygydd ar ei gais;
(ch) sicrhau bod pob mochyn ar y safle yn cael ei gadw yn ei dwlc neu yn rhyw le arall a bennir yn yr hysbysiad;
(d) sicrhau, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd milfeddygol, bod dulliau priodol o ddiheintio yn cael eu rhoi wrth fynedfeydd ac allanfeydd y rhannau hynny o'r safle lle cedwir y moch a'r safle ei hunan.
(3) Pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (1), ni chaiff neb -
Camau pellach i'w cymryd os yw hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan erthygl 5
6.
Os yw hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan erthygl 5, caiff arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad pellach i feddiannydd y daliad neu le arall neu i'r person y mae'n ymddangos iddo sydd â gofal y cyfrwng cludo -
Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad
7.
- (1) Os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi cadarnhau bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad, rhaid i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad o dan yr erthygl hon i feddiannydd y daliad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau y cydymffurfir â'r cyfyngiadau a'r gofynion a geir yn erthygl 5 onid oes hysbysiad o'r fath o dan erthygl 5 wedi ei gyflwyno eisoes; a
(2) Pan geir cadarnhad o'r fath caiff arolygydd milfeddygol ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, fod y camau hynny a nodir yn erthygl 6 yn cael ei roi ar waith hefyd neu fel y gwêl orau.
Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn lladd-dy, abwyfa neu ar gyfrwng cludo
8.
Os yw'r Prif Swyddog Meddygol wedi cadarnhau bod y clefyd yn bresennol mewn lladd-dy, mewn abwyfa neu ar gyfrwng cludo, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y lladd-dy, yr abwyfa neu i'r person y mae'r cyfrwng cludo yn ei ofal, yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau -
Camau i'w cymryd o ran daliadau y mae'n bosib y cafodd y clefyd ei drosglwyddo iddynt neu ohonynt
9.
- (1) Os, yn sgil ymchwiliad i epidemioleg y clefyd ar ddaliad, y mae arolygydd milfeddygol o'r farn bod y clefyd sydd ar ddaliad sydd wedi ei heintio neu ddaliad a amheuir efallai wedi cael ei drosglwyddo i safle arall, neu ohono, caiff gyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5 i feddiannydd y safle arall hwnnw.
(2) Os yw'r clefyd wedi ei ganfod ar anifeiliaid mewn lladd-dy, mewn abwyfa neu ar gyfrwng cludo, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5 i feddiannydd unrhyw safle y mae'r anifeiliaid neu garcasau heintiedig sydd yn y lladd-dy hwnnw, yr abwyfa honno neu'r cyfrwng cludo hwnnw wedi dod ohono yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o fewn 56 diwrnod neu, yn achos cyfrwng cludo, unrhyw safle y mae'r cyfwng cludo hwnnw wedi teithio iddo ers hynny.
Parth Rheoli Dros Dro
10.
- (1) Yn sgil cyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu parth a elwir "parth rheoli dros dro".
(2) Rhaid i'r parth rheoli dros dro fod wedi ei leoli a bod o'r fath faint ag sydd ei angen, ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu.
(3) Os yw parth rheoli dros dro wedi ei sefydlu, ni chaiff neb -
(4) Ni fydd y cyfyngiad ym mharagraff (3)(c) yn gymwys i foch sydd wedi eu llwytho ar gerbyd y tu allan i'r parth a'u cludo drwyddo heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho.
(5) Pan fydd parth rheoli dros dro wedi cael ei sefydlu yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel y barna'n angenrheidiol, sefydlu parth rheoli dros dro cysylltiedig yng Nghymru;
(6) Ystyrir bod unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth rheoli dros dro yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.
Parthau diogelu a goruchwylio
11.
- (1) Pan gadarnheir gan y Prif Swyddog Milfeddygol fod y clefyd yn bresennol, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu ardal heintiedig ag iddi barth a elwir yn "barth diogelu" a pharth a elwir yn "barth goruchwylio".
(2) Rhaid i'r parth diogelu gwmpasu ardal sydd o leiaf tri chilometr ei radiws mewn parth goruchwylio sy'n cwmpasu ardal sydd o leiaf deg cilometr ei radiws, a'r daliad, y lladd-dy neu'r abwyfa y cadarnhawyd bod y clefyd yn bresennol yno fydd canolbwynt y ddau barth.
(3) Mae Rhan I o Atodlen I yn gymwys i barth diogelu a Rhan II o Atodlen I yn gymwys i barth goruchwylio.
(4) Os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn Lloegr sydd o fewn 10 cilometr i'r ffin â Chymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu ardal heintiedig yng Nghymru fel y bydd parth diogelu sydd o leiaf tri chilometr ei radiws wedi ei gynnwys mewn parth goruchwylio sydd o leiaf 10 cilometr ei radiws, a'r daliad yn Lloegr y cadarnhawyd bod y clefyd yn bresennol ynddo fydd canolbwynt y ddau.
(5) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd unrhyw gamau sydd, yn ei farn, eu hangen i sicrhau bod pob person mewn ardal heintiedig yn llwyr ymwybodol o'r cyfyngiadau sydd mewn grym, gan gynnwys drwy roi hysbysiadau neu arwyddion ar eiddo sydd o fewn yr ardal heintiedig.
(6) Rhaid i unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa sydd yn rhannol y tu mewn i barth goruchwylio neu barth diogelu ac yn rhannol y tu allan gael ei drin fel petai i gyd o fewn y parth hwnnw.
Glanhau a diheintio
12.
- (1) Wrth ddiheintio o dan y Gorchymyn hwn, rhaid defnyddio diheintydd sydd wedi ei gymeradwyo at y diben hwnnw o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978[3].
(2) Rhaid i weithrediadau glanhau a diheintio ar adeiladau gael eu gwneud o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
Parth ymchwilio moch fferal
13.
- (1) Os oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru reswm i gredu bod y clefyd yn bresennol ymhlith moch fferal yng Nghymru neu os oes parth archwilio moch fferal wedi cael ei sefydlu yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu parth ymchwilio moch fferal yng Nghymru y mae darpariaethau paragraff (3) yn gymwys iddo.
(2) Rhaid i'r parth ymchwilio moch fferal gwmpasu'r ardal sydd, ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ei hangen er mwyn ei alluogi i wneud archwiliad i gadarnhau bod y clefyd yn bresennol neu'n absennol.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n saethu moch fferal neu sy'n cael hyd i garcas moch fferal mewn ardal ymchwilio moch fferal roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol. Os yw'r person wedi saethu'r mochyn, rhaid iddo gadw'r carcas am 24 awr a sicrhau ei fod ar gael i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer unrhyw samplu neu brofion sydd, ym marn y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol, yn briodol.
Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn mochyn fferal
14.
- (1) Os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn mochyn fferal yng Nghymru, neu os datgenir ardal heintiedig yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu ardal heintiedig a'i maint yn ddigon i gwmpasu'r ardal yr amheuir bod y clefyd yn bresennol ynddi.
(2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymhwyso rhai o gyfyngiadau a gofynion Atodiad 2, neu'r cyfan ohonynt, yn yr ardal heintiedig a chaiff hefyd atal hela a gwahardd bwydo moch fferal yn yr ardal honno.
(3) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd unrhyw gamau sydd, yn ei farn, eu hangen i sicrhau bod yr holl bersonau mewn ardal heintiedig yn llwyr ymwybodol o'r cyfyngiadau a'r gofynion sydd mewn grym mewn ardal heintiedig, gan gynnwys drwy roi hysbysiadau neu arwyddion ar eiddo sydd o fewn yr ardal honno.
(4) Rhaid i unrhyw ddaliad sydd yn rhannol y tu mewn i ardal heintiedig ac yn rhannol y tu allan ei drin fel petai i gyd o fewn y parth hwnnw.
Brechu
15.
Ni chaiff neb roi brechlyn at glwy clasurol y moch i unrhyw fochyn.
Cydymffurfio â hysbysiadau etc.
16.
- (1) Rhaid i unrhyw hysbysiad neu drwydded o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg ac yn benodol gellir ei atal neu ei ddirymu os yw'r awdurdod dyroddi o'r farn resymol na chydymffurfir â darpariaethau'r Gorchymyn hwn.
(2) Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y Gorchymyn hwn neu ag unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd, neu ag unrhyw hysbysiad neu drwydded a gyflwynwyd o'i herwydd, caiff arolygydd, heb ymrwymiad i unrhyw achos sy'n ymwneud â thramgwydd a fo'n codi o ganlyniad i'r methiant hwnnw, gymryd unrhyw gamau sydd eu hangen i sicrhau y cydymffurfir â'r gofynion, y cyfarwyddyd, yr hysbysiad neu'r drwydded neu i sicrhau iddynt gael eu rhoi ar waith.
(3) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r awdurdod lleol adfer unrhyw dreuliau sy'n deillio o waith arolygydd o dan baragraff (2) fel dyled sifil oddi wrth y person sydd mewn diffyg talu.
Pwerau Cyffredinol Arolygwyr ac Arolygwyr Milfeddygol
17.
Caiff arolygydd neu arolygydd milfeddygol neu swyddog arall Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n mynd i'r safle o dan y Gorchymyn hwn fynd â'r canlynol gydag ef -
Gorfodi
18.
- (1) Heblaw lle y darperir fel arall, yr awdurdod lleol fydd yn gweithredu a gorfodi darpariaethau'r Gorchymyn hwn.
(2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad arbennig neu unrhyw achos penodol, fod y ddyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon i'w chyflawni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol ac nid gan awdurdod lleol.
Dirymu
19.
Mae'r Gorchmynion canlynol drwy hyn yn cael eu dirymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Medi 2003
Ben Bradshaw
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
24 Medi 2003
3.
Ni chaiff neb symud unrhyw gerbyd allan o'r parth diogelu os yw'r cerbyd wedi cael ei ddefnyddio i gludo moch o fewn y parth, os nad -
4.
Rhaid i feddiannydd daliad o fewn y parth diogelu sicrhau nad yw'r un rhywogaeth arall o anifail domestig yn mynd i mewn i'r daliad na'i adael os nad awdurdodwyd y symud drwy drwydded a gyhoeddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
5.
Ni chaiff neb fynd ag unrhyw semen, ofwm nac embryo moch o ddaliad sydd o fewn y parth diogelu.
6.
Ni chaiff neb symud yr un mochyn yn y parth diogelu o'r daliad lle y cedwir ef am o leiaf 30 diwrnod ar ôl y cwblheir gwaith cychwynnol glanhau a diheintio'r daliad heintiedig. Ar ôl hynny ni chaiff neb symud yr un mochyn heb drwydded i wneud hynny a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
7.
Os yw daliad -
ceir symud mochyn oddi ar y daliad ar yr amod bod unrhyw symud o'r fath yn cael ei awdurdodi drwy drwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
Hysbysu ynghylch moch yn marw ar ddaliad
8.
Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth diogelu roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw fochyn marw neu heintiedig sydd ar ei ddaliad.
Bioddiogelwch
9.
Rhaid i berson y mae unrhyw gerbyd neu gyfarpar o dan ei ofal, os defnyddiwyd y cerbyd neu'r cyfarpar i gludo moch, da byw arall neu ddeunydd y gellid bod wedi ei heintio gan y clefyd (er enghraifft carcasau, porthiant, gwrtaith a biswail) sicrhau iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio neu ei drin fel arall o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo gael ei ddefnyddio a chyn iddo gael ei ddefnyddio unwaith eto.
10.
Ni chaiff neb fynd i mewn na gadael yr un daliad o fewn y parth diogelu yn gwisgo dillad neu esgidiau ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â llaid, biswail, carthion na thail anifeiliaid nac unrhyw ddeunydd tebyg heblaw bod personau yn cael glanhau a diheintio ochrau allanol eu hesgidiau wrth fynd i mewn neu adael y safle hwnnw.
13.
Ni chaiff neb symud yr un cerbyd a ddefnyddir i gludo da byw o'r parth goruchwylio os yw wedi ei ddefnyddio i gludo moch, os nad yw yn gyntaf wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio neu os na chafodd ei yrru drwy'r parth heb ei lwytho na'i ddadlwytho.
14.
Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth goruchwylio sicrhau nad yw'r un rhywogaeth arall o anifail domestig yn mynd i mewn i'r daliad na'i adael o fewn y saith niwrnod ers sefydlu'r parth hwnnw os nad oes ganddo awdurdod i wneud hynny drwy drwydded gan arolygydd.
15.
Ni chaiff neb fynd ag unrhyw semen, ofwm nac embryo moch o ddaliad sydd o fewn y parth goruchwylio.
Symud moch
16.
Ni chaiff neb symud yr un mochyn o ddaliad sydd yn y parth goruchwylio am o leiaf 21 diwrnod ar ôl i waith cychwynnol glanhau a diheintio'r daliad heintiedig gael ei gwblhau. Ar ôl hynny ni chaiff neb symud yr un mochyn os nad oes ganddo drwydded i hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd.
17.
Os yw daliad -
ceir symud moch o'r daliad hwnnw ar yr amod bod y symud wedi ei drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
Bioddiogelwch
18.
Rhaid i berson y mae unrhyw gerbyd neu gyfarpar o dan ei ofal, os defnyddiwyd y cerbyd neu'r cyfarpar i gludo moch, da byw arall neu ddeunydd y gellid bod wedi ei heintio gan y feirws (er enghraifft carcasau, porthiant, gwrtaith a biswail) sicrhau iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio neu ei drin fel arall cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo gael ei ddefnyddio a chyn iddo gael ei ddefnyddio unwaith eto yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol neu arolygydd neu berson arall a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
19.
Ni chaiff neb fynd i mewn na gadael yr un daliad o fewn y parth goruchwylio yn gwisgo dillad neu esgidiau ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â llaid, biswail, carthion na thail anifeiliaid nac unrhyw ddeunydd tebyg heblaw bod personau yn cael glanhau a diheintio ochrau allanol eu hesgidiau wrth fynd i mewn neu adael y safle hwnnw.
Hysbysu ynghylch moch yn marw ar ddaliad
20.
Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth goruchwylio roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw fochyn marw neu heintiedig sydd ar y daliad.
Symud moch
3.
Ni chaiff neb symud mochyn i mewn i'r daliad nac ohono os nad oes trwydded wedi ei rhoi i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
Bioddiogelwch
4.
Rhaid i'r meddiannydd sicrhau bod dull priodol o ddiheintio yn cael ei ddarparu a'i ddefnyddio wrth y mynedfeydd a'r allanfeydd yn y mannau hynny o'r daliad y cedwir moch ynddynt ac wrth fynedfeydd ac allanfeydd y daliad ei hunan.
Moch marw neu glaf
5.
Rhaid i'r meddiannydd sicrhau ei fod yn rhoi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw foch fferal sy'n marw ar y daliad a rhaid iddo gadw carcasau'r moch hynny ar y daliad nes bydd arolygydd milfeddygol wedi rhoi gwybod iddo nad oes angen gwneud hynny rhagor.
Moch fferal
6.
Ni chaiff neb ddod -
Mae methiant i gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
[3] O.S. 1978/32 fel y'i diwygiwyd.back
[4] O.S. 1956/1750 fel y'i diwygir gan O.S. 1958/1284.back
[5] O.S. 1963/286 fel y'i diwygir gan O.S. 1991/1030.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 7 October 2003 |