BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 2529 (Cy.244)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032529w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2529 (Cy.244)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 1 Hydref 2003 
  Yn dod i rym 6 Hydref 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1), (1A), (2) a 36 o Ddeddf Hadau ac Amrywogaethau Planhigion 1964[1] a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno â chynrychiolwyr y rhai hynny sydd â diddordeb y mae'n ymddangos iddo fod y diddordeb hwnnw o bwys iddynt, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Hydref 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993[2].

Diwygio'r prif Reoliadau
     3.  - (1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â pharagraffau (2) i (7) isod.

    (2) Yn rheoliad 3 (dehongli)[
3], ym mharagraff (3)  - 

(c) yn lle'r diffiniad o "Certified Seed" rhodder  - 

    (3) Yn rheoliad 5[4] (marchnata hadau) ar ôl paragraff (2E) rhodder  - 

    (4) Yn rheoliad 8 (selio pecynnau), ym mharagraff (1), ar ôl "Third Generation" rhodder ", a varietal association of seeds to which regulation 5 applies".

    (5) Yn rheoliad 9[5] (labelu pecynnau)  - 

    (6) Yn Atodlen 4[6] (gofynion ar gyfer Had Sylfaenol, Had Ardystiedig, Had Ardystiedig y Genhedlaeth Gyntaf, yr Ail Genhedlaeth a'r Drydedd Genhedlaeth a Had Masnachol)  - 

    (7) Yn Rhan I o Atodlen 6[7] (labeli swyddogol)



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Hydref 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993 (O.S. 1993/2007) fel y'u diwygiwyd ("y prif Reoliadau"). Mae'r prif Reoliadau yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 69/208/EEC (a ddisodlwyd gan 2002/57/EC) ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr.

Diwygiodd Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/68/EC Gyfarwyddeb 2002/57/EC i ddarparu bod hadau amrywogaethau croesryw, a hadau uniadau amrywogaethol, o rêp swêds (erfin, rwdins) a rêp maip (erfin) yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas y Gyfarwyddeb honno.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2002/68/EC.

Mae'r Rheoliadau hyn  - 


Notes:

[1] 1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 5(1), (2) a (3); gweler adran 38(1) ar gyfer diffiniad o "the Minister". Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog o dan adrannau 16 a 36 mewn perthynas â Chymru i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) ac fe'u trosglwyddwyd yn eu tro i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] O.S. 1993/2007, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/1423, 1996/1451, 1997/616, 1999/1862 a 2001/3510 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2001/3669 (Cy.300).back

[3] Diwygiwyd Rheoliad 3 gan O.S. 1999/1862 ac O.S. 2001/3510, ac mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2001/3669 (Cy.300).back

[4] Diwygiwyd Rheoliad 5 gan O.S. 1999/1862, ac O.S. 2001/3510, ac mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2001/3669 (Cy.300).back

[5] Diwygiwyd Rheoliad 9 gan O.S. 1999/1862 a chan O.S. 2001/3669 (Cy.300).back

[6] Diwygiwyd Atodlen 4 gan O.S. 1999/1862.back

[7] Diwygiwyd Atodlen 6 gan O.S. 1997/616 a chan O.S. 2001/3669 (Cy.300).back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090790 6


 
© Crown copyright 2003
Prepared 15 October 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032529w.html