BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2003 Rhif 2530 (Cy.245)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032530w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2530 (Cy.245)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 1 Hydref 2003 
  Yn dod i rym 6 Hydref 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Hydref 2003.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[
3].

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau  -  Dehongli
     2. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o'r Prif Reoliadau (dehongli)  - 

Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau  -  Diystyru Incwm
     3. Yn Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (symiau i'w diystyried wrth gyfrifo incwm heblaw enillion)

Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau  -  Taliadau mabwysiadu
     4. Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (cyfalaf sydd i'w ddiystyru) ar ôl paragraff 23, ychwaneger y paragraff canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
11]


D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Hydref 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y Prif Reoliadau"). Mae'r Prif Reoliadau yn gosod y sail y caiff awdurdodau lleol asesu gallu personau y maent yn trefnu llety ar eu cyfer i dalu o dan ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Yn ogystal â diwygiadau i ganiatáu i breswylwyr fanteisio ar eu hawl i'r elfen Credyd Cynilion Credyd Pensiwn, maent hefyd yn gwneud nifer o ddiwygiadau amrywiol.

Mae Rheoliad 2 yn mewnosod dau ddiffiniad newydd mewn perthynas â Chredyd Pensiwn ac yn diweddaru diffiniad arall yn y Prif Reoliadau.

Mae Rheoliad 3 yn darparu i daliadau a wneir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 gael eu diystyru fel incwm. Mae hefyd yn darparu i hyd at £4.50 (neu £6.75 i gwpl) i unrhyw gredyd cynilion gael eu diystyru pan fydd gan unigolyn incwm cymhwysol nad yw'n fwy na lleiafswm y warant safonol. Pan fydd gan unigolyn incwm cymhwysol sy'n fwy na lleiafswm y warant safonol mae diystyriaeth safonol o £4.50 (£6.75 i gyplau).

Mae Rheoliad 4 yn darparu i daliadau a wneir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 gael eu diystyru fel cyfalaf.


Notes:

[1] 1948 p.29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi a chan gan adran 6 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.back

[2] Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/2977; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1996/602 ac O.S. 2002/814 (Cy.94).back

[4] O.S. 2002/ 1792.back

[5] 2002 p.16, gweler adran 1(3)(b) ac adran 3.back

[6] 2000 p.14.back

[7] 2002 p.38.back

[8] O.S. 2002/1792 ("Rheoliadau 2002"). Yn Rheoliadau 2002 cyfeirir at ddau aelod o gwpl priod neu ddi-briod fel "partners" (gweler rheoliad 1(3)). Diffinnir ymadroddion "married couple" ac "unmarried couple", at ddibenion Rheoliadau 2002, yn adran 17 o Ddeddf Credyd Pensiwn Gwladol 2002 (p.16). Ystyr "married couple" yw dyn a menyw sy'n briod â'i gilydd ac yn byw ar yr un aelwyd. Mae Rheoliad 5 o Reoliadau 2002 yn nodi'r amgylchiadau pan ymdrinnir â chwpl sy'n briod fel rhai nad ydynt yn aelodau o'r un aelwyd. Ystyr "unmarried couple" yw dyn a menyw nad ydynt yn briod â'i gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd fel gwcircr a gwraig heblaw mewn amgylchiadau a ragnodir.back

[9] 2002 p. 16.back

[10] 1994 p.21.back

[11] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090791 4


 
© Crown copyright 2003
Prepared 15 October 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032530w.html