BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2003 Rhif 2661 (Cy.257)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032661w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2661 (Cy.257)

BWYD, CYMRU

Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2003

  Wedi'i wneud 14 Hydref 2003 
  Yn dod i rym 17 Hydref 2003 

Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw mewnforio Coed Anis penodol a draddodir o wledydd nad ydynt yn Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd yn golygu bellach bod risg o niwed i iechyd ar fin digwydd;

     Yn awr, gan hynny, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach yn arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru, ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2003 a daw i rym ar 17 Hydref 2003 a bydd yn gymwys i Gymru'n unig.

Dirymu
    
2. Caiff Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2002[2] ei ddirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Hydref 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/402) (Cy. 50) ("Gorchymyn 2002"), a oedd yn gwahardd mewnforio Coed Anis a Choed Anis Siapaneaidd i Gymru os o wlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd yr oeddent yn cael eu hanfon onid oedd amodau arbennig yn cael eu bodloni. Rhoddodd Gorchymyn 2002 ar waith Benderfyniad y Comisiwn 2002/75/EC sy'n pennu amodau arbennig ar fewnforio Coed Anis o drydydd gwledydd (OJ Rhif L33, 2.2.2002, t.31). Diddymwyd y Penderfyniad hwnnw gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/602/EC (OJ Rhif L204, 13.8.2003, t.60).


Notes:

[1] 1990 p.16; mae swyddogaethau o dan Ddeddf 1990 sy'n ymwneud â gorchmynion rheolaeth frys bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Mae paragraffau 11 a 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 yn diwygio adrannau 13 a 48 o Ddeddf 1990 yn y drefn honnoback

[2] O.S. 2002/402(Cy. 50).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090796 5


 
© Crown copyright 2003
Prepared 20 October 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032661w.html