BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2003 Rhif 2754 (Cy.265)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032754w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2754 (Cy.265)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2003

  Wedi'u gwneud 29 Hydref 2003 
  Yn dod i rym 31 Hydref 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(c), (d) ac (f), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi[1] ac a freiniwyd ynddo bellach[2]ac yntau wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2003; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Hydref 2003.

Diwygio Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995
    
2. I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995[4]) yn unol â Rheoliadau 3 i 8.

     3. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) - 

     4. Ym mharagraff (5) (esemptiadau)  - 

     5. Yn rheoliad 6 (staenio sgil-gynhyrchion anifeliaid mewn storfeydd oer, safleoedd torri, cyfleusterau prosesu helgig neu ladd-dai)  - 

     6. Yn rheoliad 7 (staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn safleoedd sgil-gynhyrchion anifeiliaid) yn lle paragraffau (2) a (3) rhodder y paragraffau canlynol  - 

     7. Yn rheoliad 9 (storio a phacio sgil-gynhyrchion anifeiliaid), yn lle paragraff (3) rhodder y paragraff canlynol  - 

     8. Yn rheoliad 10 (cyfyngu ar symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid), yn lle paragraff (2) rhodder y paragraff canlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
15]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Hydref 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny ("Rheoliadau 1995") yn ymestyn i Brydain Fawr yn ei chyfanrwydd.

    
2. I raddau helaeth iawn mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ganlyniad i Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 3 Hydref 2002 sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl ("y Rheoliad Cymunedol", OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1) ac ar y Rheoliadu sy'n darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliad hwnnw mewn perthynas â Chymru, sef Rheoliadau Sgil-gynhyrchion (Cymru) Anifeiliaid 2003 (O.S. 2003/2756 (Cy.267)).

    
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1995 drwy wneud y canlynol  - 

     4. Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] 1990 p. 16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672), fel y'i darllenir ag adran 40(3) Deddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] O.S.1995/614, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1955, O.S.1996/3124, O.S.1997/2073, O.S.2000/656, O.S.2002/1472 (Cy.146) ac O.S. 2003/1849 (Cy.199).back

[5] O.S.2003/2756 (Cy.267).back

[6] OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1.back

[7] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1.back

[8] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.back

[9] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.back

[10] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24.back

[11] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.30.back

[12] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.42.back

[13] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.44.back

[14] O.S.1996/3124, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/3023, O.S.1998/994, O.S.1999/683, O.S.2000/656, O.S.2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1660 (Cy.119), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2219 (Cy.159), O.S. 2002/47 (Cy.6), O.S. 2002/1387 (Cy.136) ac O.S. 2002/1476 (Cy.148).back

[15] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090805 8


 
© Crown copyright 2003
Prepared 17 November 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032754w.html