BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 Rhif 2909 (Cy.275)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032909w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2909 (Cy.275)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 12 Tachwedd 2003 
  Yn dod i rym 13 Tachwedd 2003 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

CYFLWYNIAD
1. Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli

RHAN 2

SEFYDLU, CYFANSODDIAD, CYFARFODYDD A THRAFODION
2. Sefydlu fforwm ysgolion
3. Aelodau: cyffredinol
4. Ethol a phenodi'r aelodau ysgolion
5. Penodi'r aelodau o'r tu allan i'r ysgolion
6. Cyfarfodydd a thrafodion y fforwm ysgolion

RHAN 3

SWYDDOGAETHAU
7. Ymgynghori ynghylch materion ariannol
8. Ymgynghori ynghylch fformiwla ariannu ysgolion
9. Ymgynghori ynghylch contractau
10. Adroddiadau i ysgolion

RHAN 4

COSTAU
11. Talu costau
12. Costau'r Aelodau

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 47A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[2].



RHAN 1

CYFLWYNIAD

Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (4) Yn y Rheoliadau hyn, nid yw cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys cyfeiriad at gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd (o fewn ystyr adran 72(3) o Ddeddf 1998) ac nid yw cyfeiriad at lywodraethwr yn cynnwys cyfeiriad at aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd.



RHAN 2

SEFYDLU, CYFANSODDIAD, CYFARFODYDD A THRAFODION

Sefydlu fforwm ysgolion
    
2. Rhaid i bob awdurdod addysg lleol, yn unol â'r Rheoliadau hyn, sefydlu fforwm ysgolion i'w ardal erbyn 15 Rhagfyr 2003.

Aelodau: cyffredinol
    
3.  - (1) Rhaid bod o leiaf 15 o aelodau mewn fforwm wedi eu penodi gan yr awdurdod perthnasol.

    (2) Ni chaiff yr awdurdod perthnasol benodi mwy na chwarter holl aelodau'r fforwm yn aelodau o'r tu allan i'r ysgolion i gynrychioli cyrff perthnasol.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r fforwm gynnwys aelodau ysgolion yn unig.

    (4) Rhaid i aelodau ysgolion ac aelodau o'r tu allan i'r ysgolion gael eu penodi drwy offeryn ysgrifenedig i fod yn aelod am dymor a bennir yn yr offeryn hwnnw.

    (5) Caiff yr awdurdod perthnasol ddod ag aelodaeth unrhyw aelod ysgolion i ben cyn i'w dymor aelodaeth ddod i ben os nad yw'r aelod dan sylw bellach yn bennaeth neu yn llywodraethwr yr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol y bu'n gymwys i gael ei benodi i'r fforwm o'i herwydd.

    (6) Caiff yr awdurdod perthnasol ddod ag aelodaeth unrhyw aelod o'r tu allan i'r ysgolion i ben os nad yw bellach yn bodloni'r meini prawf cymhwyso y bu'n gymwys i gael ei enwebu ar gyfer ei benodi i'r fforwm o'u herwydd.

Ethol a phenodi'r aelodau ysgolion
    
4.  - (1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol benodi, i fod yn aelodau ysgolion, gynrychiolwyr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol sydd wedi eu hethol yn unol â gweithdrefnau a bennir gan yr awdurdod perthnasol.

    (2) Wrth bennu'r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)  - 

    (3) At ddibenion paragraff 2(c), mae'r canlynol yn gategorïau ysgol  - 

    (4) Rhaid i'r awdurdod perthnasol sicrhau i'r graddau y mae'n ymarferol bod o leiaf un aelod ysgolion yn rhiant-lywodraethwr.

    (5) Yn y rheoliad hwn  - 

Penodi'r aelodau o'r tu allan i'r ysgolion
    
5.  - (1) Os yw'r awdurdod perthnasol yn penderfynu penodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion yn aelodau'r fforwm, rhaid iddo ofyn i gyrff perthnasol am enwebiadau ar gyfer yr aelodau hynny.

    (2) Ni chaiff corff perthnasol enwebu rhywun os nad yw'n bodloni'r meini prawf cymhwyso.

    (3) O fewn mis ar ôl penodi unrhyw aelod a enwebwyd o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod perthnasol roi gwybod i gorff llywodraethu pob ysgol y mae yn ei chynnal am enw'r aelod a'r corff perthnasol mewn cysylltiad â'r penodiad hwnnw.

    (4) Wrth benodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod perthnasol, os yw o'r farn y byddai'n briodol, ofyn am enwebiadau  - 

Cyfarfodydd a thrafodion y fforwm ysgolion
    
6.  - (1) Mae'r fforwm â chworwm os yw o leiaf deugain y cant o'i holl aelodau yn bresennol mewn cyfarfod.

    (2) Y fforwm sydd i ethol ei gadeirydd cyntaf a'i olynwyr.

    (3) Bydd y cadeirydd yn dal y swydd am flwyddyn (ond ceir ei ailbenodi).

    (4) Caiff Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant[
3] enwebu arsylwr a bydd yr hawl ganddo i fynychu holl gyfarfodydd y fforwm.

    (5) Caiff yr awdurdod perthnasol os yw o'r farn y byddai'n briodol i gorff penodol gael yr hawl i fynychu cyfarfodydd y fforwm fel arsylwr, wahodd y corff hwnnw i enwebu person i fynychu cyfarfodydd y fforwm i'r diben hwnnw.



RHAN 3

SWYDDOGAETHAU

Ymgynghori ynghylch materion ariannol
     7.  - (1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol ymgynghori â'r fforwm yn flynyddol  - 

    (2) Caiff yr awdurdod perthnasol ymghynghori â'r fforwm ynghylch unrhyw faterion eraill o'r fath sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion fel y mae'n gweld yn briodol.

Ymgynghori ynghylch fformiwla ariannu ysgolion
    
8.  - (1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol ymgynghori â'r fforwm ynghylch: - 

    (2) Rhaid i'r ymgynghori o dan baragraff (1) gael ei wneud gan roi digon o amser fel bo'r safbwyntiau a fynegwyd yn gallu cael eu hystyried wrth bennu fformiwla'r awdurdod perthnasol ac wrth wneud y penderfyniad cychwynnol ynghylch cyfrannau ysgolion o'r gyllideb cyn dechrau'r flwyddyn ariannol.

Ymgynghori ynghylch contractau
    
9.  - (1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol, o leiaf dri mis cyn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro, ymgynghori â'r fforwm ynghylch amodau unrhyw gontract arfaethedig am gyflenwadau neu wasanaethau, a hwnnw'n gontract sydd wedi ei dalu neu sydd i'w dalu o'i gyllideb ysgolion os:  - 

    (2) Rhaid i'r awdurdod perthnasol, o leiaf dri mis cyn y dyddiad pan fo'n bwriadu gwneud y cytundeb terfynol, ymgynghori â'r fforwm ynghylch amodau unrhyw gytundeb lefel gwasanaeth y byddai'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol yn cael nwyddau neu wasanaethau gan yr awdurdod oddi tano ac y byddai cost y nwyddau neu'r gwasanaethau yn cael eu talu (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) o gyfraniadau'r gyllideb ysgolion.

Adroddiadau i ysgolion
     10. Rhaid i'r fforwm, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi gwybod i gyrff llywodraethu'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol am bob ymgynghoriad a wnaed o dan y Rhan hon yn y rheoliadau hyn.



RHAN 4

COSTAU

Talu costau
    
11. Yr awdurdod perthnasol sydd i dalu pob un o gostiau'r fforwm, a hynny o'i gyllideb ysgolion lleol tan 1 Ebrill 2004 ac o'i gyllideb AALl wedi hynny.

Costau'r aelodau
    
12. Rhaid i'r awdurdod perthnasol dalu yn ôl i'r aelodau bob cost resymol sy'n deillio o fynychu cyfarfodydd y fforwm.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Tachwedd 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi amryw faterion sy'n ymwneud â sefydlu fforymau ysgolion a'u swyddogaethau.

Mae rheoliad 2 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod addysg lleol sefydlu fforwm ysgolion erbyn 30 Tachwedd 2003.

Mae rheoliad 3 yn pennu'r isafswm o aelodau'r fforwm ysgolion a chyfran uchaf yr aelodau sy'n dod o'r tu allan i'r ysgolion. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau ynghylch amodau aelodaeth ac ar gyfer dod ag aelodaeth i ben yn gynnar mewn amgylchiadau penodedig.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer penodi penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion a gynhelir, sydd wedi cael eu hethol yn unol â'r gweithdrefnau y penderfynwyd arnynt gan yr awdurdod addysg lleol, i fod yn aelodau ysgolion, a hynny i sicrhau bod ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig, a gwahanol gategorïau o ysgolion yn cael eu cynrychioli'n briodol.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth bod yr awdurdod addysg lleol yn penodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion a hynny i gynrychioli cyrff perthnasol, a allai gynnwys cyrff esgobaethol ac Undebau Llafur.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion y fforymau.

Mae rheoliad 7 yn darparu i'r awdurdod ymgynghori â'r fforwm yn flynyddol ar arfer ei swyddogaethau o ran ei gyllideb ysgolion a newidiadau i'w gynllun ariannu.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth bod yr awdurdod addysg lleol yn ymgynghori â'r fforwm ysgolion ynghylch newidiadau i fformiwla ariannu ysgolion yr awdurdod.

Mae rheoliad 9 yn darparu yr ymgynghorir â'r fforwm ynghylch contractau cyflenwi a gwasanaethau cyhoeddus os yw'r pris yn mynd y tu hwnt i'r trothwy caffael a ragnodwyd ac ynghylch cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i'r ysgolion gan yr awdurdod.

Mae rheoliadau 10, 11 a 12 yn darparu bod y fforwm yn rhoi gwybod i'r ysgolion am bob ymgynghoriad a wnaethpwyd, bod costau'r fforwm yn cael eu talu o gyllideb yr AALl, a bod yr awdurdod addysg lleol yn talu costau rhesymol aelodau'r fforwm.


Notes:

[1] 1998 p.31. Mewnosodwyd adran 47A gan adran 43 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32), a chaiff ei dwyn i rym ar 1 Tachwedd 2003 gan Ran III o'r Atodlen i Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1718).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back

[3] Sefydlwyd Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant o dan adran 30 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, p.21.back

[4] O.S. 1993/3228. Diwygiwyd rheoliad 7 gan Reoliad 4 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus (Gweithfeydd, Gwasanaethau a Chyflenwi) (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/2009).back

[5] O.S. 1995/201. Diwygiwyd rheoliad 7 gan Reoliad 5 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus (Gweithfeydd, Gwasanaethau a Chyflenwi) (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/2009).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090806 6


 
© Crown copyright 2003
Prepared 18 November 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032909w.html