BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003 Rhif 2962 (Cy.279)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032962w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2962 (Cy.279)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 18 Tachwedd 2003 
  Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 85A(3) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

Rôl fforwm
     3.  - (1) Rôl fforwm yw  - 

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn  - 

Grwpiau o ysgolion
     4.  - (1) At ddibenion y Rheoliadau hyn rhaid rhannu ysgolion yn grwpiau fel a ganlyn  - 

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag awdurdod at grwcirc p o ysgolion yn gyfeiriad at un o'r grwpiau o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod fel a bennir ym mharagraff (1).

Aelodaeth fforwm a phresenoldeb
    
5.  - (1) Rhaid i'r fforwm gynnwys  - 

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn rhaid i "aelodau craidd" fforwm gynnwys  - 

    (3) Rhaid i aelodau sy'n dod o fewn paragraff (2)(b) gael eu henwebu gan yr awdurdod esgobaethol priodol yr Eglwys yng Nghymru sy'n cynnwys ardal yr awdurdod ac os yw'r ardal yn dod o fewn mwy nag un esgobaeth  - 

    (4) Rhaid i aelodau sy'n dod o fewn paragraff (2)(c) gael eu henwebu gan awdurdod esgobaethol priodol esgobaeth yr Eglwys Gatholig sy'n cynnwys ardal yr awdurdod ac, os yw'r ardal yn dod o fewn mwy nag un esgobaeth o'r fath, mae paragraffau (3)(a) a (b) i fod yn gymwys  - 

    (5) Rhaid i'r awdurdod benderfynu nifer aelodau y fforwm sy'n dod o fewn is-baragraffau (a), ac (ch) i (dd) o baragraff (2).

    (6) Rhaid penodi aelodau yn unol â pharagraff (1)(b) ar argymhelliad aelodau craidd y fforwm yn unig.

    (7) Yn ychwanegol, caiff yr aelodau craidd wahodd partïon eraill â buddiant i gyfarfod o'r fforwm os ydynt o'r farn bod hynny'n briodol ar ôl ystyried y materion sy'n codi i'w trafod.

Deiliadaeth aelodau
    
6.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, rhaid i'r personau a benodwyd yn aelodau craidd fforwm ddal swydd a'i gadael yn unol â thelerau eu penodiad phan beidiant â bod yn aelodau craidd o'r fforwm, maent i fod yn gymwys i gael eu hailbenodi.

    (2) Ni ddylid penodi neb yn aelod craidd am gyfnod penodedig sy'n hwy na phedair blynedd.

    (3) Rhaid i aelod craidd adael ei swydd  - 

    (4) O ran personau a benodir yn aelod arall  - 

    (5) Rhaid i bob aelod o fforwm adael ei swydd os caiff y fforwm ei ddiddymu yn unol â rheoliad 12(2).

Ethol i swydd
    
7.  - (1) Yng nghyfarfod cyntaf y fforwm a phob cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) rhaid i'r aelodau craidd ethol cadeirydd ac is-gadeirydd.

    (2) Mae'r cadeirydd a'r is-gadeirydd i ddal eu swyddi tan y cyfarfod nesaf ar ôl y dyddiad sydd flwyddyn ar ôl y cyfarfod pan etholwyd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd, a phan beidiant â dal swydd maent i fod yn gymwys i gael eu hailethol.

    (3) Os daw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn wag yn achlysurol rhaid i'r aelodau craidd yn eu cyfarfod nesaf ethol un o'u haelodau i lenwi'r swydd wag honno a mae'r aelod a etholir i ddal y swydd tan ddyddiad y cyfarfod y byddai'r cadeirydd neu is-gadeirydd wedi peidio â'i dal pe na bai'r swydd wedi dod yn wag.

    (4) Rhaid i gadeirydd neu is-gadeirydd beidio â dal swydd os yw'n ymddiswyddo drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r ysgrifennydd.

    (5) Caiff swydd cadeirydd ac is-gadeirydd eu dal gan berson a allai fod yn aelod o'r fforwm neu beidio.

Ysgrifennydd fforwm
    
8. Rhaid i'r aelodau craidd benodi person, a enwebwyd gan yr awdurdod, nad yw'n aelod o'r fforwm, i weithredu yn ysgrifennydd y fforwm.

Cyfarfodydd fforwm
    
9.  - (1) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn, caiff yr aelodau craidd reoleiddio eu gweithdrefnau eu hunain.

    (2) Rhaid i fforwm gyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Aelodau dirprwyol
    
10.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (7) caiff unrhyw aelod o'r fforwm enwebu aelod dirprwyol i fynychu cyfarfodydd y fforwm yn ei absenoldeb.

    (2) Rhaid i enwebiad o dan baragraff (1) gael ei wneud drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r ysgrifennydd, ac y mae i bara'n effeithiol hyd nes y caiff ei dynnu'n ôl.

    (3) Caiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(a) ond enwebu aelod dirprwyol sydd ei hunan yn aelod neu swyddog o'r awdurdod.

    (4) Ni chaiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(b) neu (c) enwebu aelod dirprwyol onid yw'r corff a enwebodd yr aelod hwnnw yn cydsynio â'r enwebiad a gynigir.

    (5) Caiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(ch) enwebu aelod dirprwyol sydd yn bennaeth neu'n llywodraethwr (nad yw'n llywodraethwr wedi'i benodi gan yr awdurdod ac sy'n aelod o'r awdurdod) ysgol sydd yn yr un grwcirc p o ysgolion â'r ysgol y mae'r aelod o dan sylw yn llywodraethwr neu'n bennaeth arni.

    (6) Caiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(d) ond enwebu aelod dirprwyol sydd ei hunan yn gynrychiolydd sy'n rhiant-lywodraethwr.

    (7) Ni chaiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(dd) enwebu aelod dirprwyol onid yw'r awdurdod yn cydsynio â'r enwebiad a gynigir.

Cyngor ac argymhellion fforwm
    
11. Rhaid i fforwm ddosbarthu ei gyngor a'i argymhellion i bob awdurdod derbyn a phob ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod, a rhaid iddo drefnu bod cyfryw gyngor ac argymhellion ar gael i unrhyw berson arall sydd â buddiant.

Cyd-fforymau
    
12.  - (1) Caiff awdurdod sefydlu cyd-fforwm gydag un neu fwy o awdurdodau addysg lleol eraill.

    (2) Os bydd awdurdod, ar ôl iddo sefydlu fforwm, wedyn yn penderfynu sefydlu cyd-fforwm yn unol â pharagraff (1), rhaid diddymu'r fforwm sydd yn bodoli cyn ffurfio'r cyd-fforwm.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gyd-fforwm gyda'r addasiadau a bennir yn yr Atodlen.

Is-bwyllgorau
    
13.  - (1) Os sefydlir is-bwyllgor, yn unol ag adran 85A(2) o'r Ddeddf, y fforwm sydd i fod yn gyfrifol am benderfynu'r calynol ar gyfer yr is -bwyllgor:



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Tachwedd 2003



YR ATODLEN
Rheoliad 12


ADDASIADAU I'R RHEOLIADAU SY'N GYMWYS I GYD-FFORYMAU


     1. Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at awdurdod i'w darllen, mewn perthynas â chyd-fforwm neu sefydlu cyd-fforwm, fel cyfeiriadau at yr awdurdodau addysg lleol dros yr ardal y mae'r cyd-fforwm wedi ei sefydlu neu i'w sefydlu ar ei chyfer.

     2. Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at fforwm i'w darllen, mewn perthynas â chyd-fforwm, fel cyfeiriadau at gyd-fforwm a sefydlwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

     3. Rhaid i aelod dirprwyol, a enwebwyd o dan reoliad 10(3), fod yn aelod neu swyddog o'r un awdurdod addysg lleol â'r aelod neu'r swyddog sy'n enwebu.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ar gyfer sefydlu fforymau derbyn.

Mae rheoliad 3 yn disgrifio rôl fforwm. Dyma yw ei rôl: ystyried y trefniadau derbyn presennol o fewn ardal fforwm; hybu cytundeb ar faterion derbyn; ystyried y dogfennau ar dderbyn a gyhoeddir gan bob awdurdod derbyn; monitro derbyn plant wedi'u gwahardd, plant sy'n derbyn gofal, plant ag anghenion addysgol arbennig a phlant sy'n cyrraedd y tu allan i'r cylch derbyn arferol; ac ystyried unrhyw faterion derbyn eraill sy'n codi.

Mae rheoliad 4 yn sefydlu'r grwpiau o ysgolion a gynrhychiolir fel aelodau craidd y fforwm. Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer aelodaeth y fforwm. Ffurfir yr aelodaeth o aelodau craidd ac aelodau eraill, a benodir gan yr awdurdod. Penodir yr aelodau sy'n cynrychioli esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru ac esgobaeth yr Eglwys Gatholig yn dilyn enwebiad. Mae rheoliad 5(8) yn galluogi'r aelodau craidd i wahodd partïon eraill â buddiant i ddod i gyfarfod o'r fforwm.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer cyfnod yr aelodau yn eu swydd. Rhaid peidio â phenodi aelod craidd am gyfnod hwy na phedair blynedd a rhaid iddo adael ei swydd yn ystod y cyfnod hwn os yw'n peidio â bod yn aelod o'r corff y mae'n ei gynrychioli, neu os caiff ei symud o'i swydd yn dilyn argymhelliad yr aelodau craidd. Bydd person a benodwyd yn dilyn enwebiad yn peidio â bod yn aelod os yw'r corff a'i enwebodd o'r farn na ddylai mwyach fod yn aelod. Penderfynir ar gyfnod swydd yr aelodau eraill gan yr aelodau craidd. Bydd swydd pob aelod yn dod i ben os diddymir y fforwm o ganlyniad i sefydlu cyd-fforwm.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer ethol cadeirydd ac is-gadeirydd yng nghyfarfod cyntaf y fforwm. Gall y cadeirydd a'r is-gadeirydd fod yn aelodau o'r fforwm neu beidio, a phan beidiant â dal eu swyddi gellir eu hailethol. Cânt ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r ysgrifennydd i'r perwyl hwnnw. Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer penodi ysgrifennydd i'r fforwm, a enwebir gan yr awdurdod, ond rhaid iddo beidio â bod yn aelod o'r fforwm.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r fforwm gyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau yn y Rheoliadau caiff yr aelodau craidd reoleiddio eu gweithdrefnau eu hunain ar gyfer cyfarfodydd. Mae rheoliad 10 yn galluogi aelod i enwebu aelod arall i fynychu'r cyfarfodydd yn ei absenoldeb.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i fforwm roi cyngor i bob awdurdod derbyn ac ysgolion o fewn ei ardal, a threfnu bod y cyngor hwnnw ar gael i unrhyw berson arall y gall fod ganddo fuddiant. Mae rheoliad 12 yn galluogi awdurdodau i ffurfio cyd-fforymau, ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod ddiddymu fforwm sy'n bodoli cyn sefydlu cyd-fforwm. Mae'r Rheoliadau hyn i fod yn gymwys i gyd-fforwm gyda'r addasiadau hynny a nodir yn yr Atodlen. Mae rheoliad 13 yn galluogi fforwm i benderfynu cyfansoddiad a gweithdrefn ar gyfer is-bwyllgor a sefydlir gan awdurdod o dan adran 85A(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.


Notes:

[1] 1998 p.31. Mewnosodwyd adran 85(A) gan adran 46 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Ar gyfer diffiniad "prescribed" a "regulations" gweler adran 142 o Ddeddf 1998.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back

[3] O.S. 1999/2242 (Cy.2) a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2263 (Cy.164).back

[4] 1989 p.41.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090811 2


 
© Crown copyright 2003
Prepared 27 November 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032962w.html