BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Dwr Mwynol Naturiol, Dw r Ffynnon a Dw r Yfed wedi'i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 3042 (Cy.287)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033042w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3042 (Cy.287)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵ r Ffynnon a Dŵ r Yfed wedi'i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 26 Tachwedd 2003 
  Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999
    
2. Diwygir Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999[3] mewn perthynas â Chymru yn unol â rheoliadau 3 i 21 isod.

     3. Yn rheoliad 2 (dehongli)  - 

     4. Ym mharagraff (c) o reoliad 3 (esemptiadau), yn lle'r geiriau "human consumption" rhoddir y geiriau "drinking by humans".

    
5. Yn rheoliad 4 (adnabod fel dŵr mwynol naturiol)  - 

     6. Yn rheoliad 5 (gwahardd rhag gwerthu) ar ôl y geiriau "any water" mewnosodir y geiriau "bottled in a bottle".

    
7. Yn rheoliad 10 (labelu dŵr mwynol naturiol)  - 

     8. Yn lle rheoliad 11 (dŵr ffynnon) rhoddir y rheoliad canlynol  - 

     9. Yn rheoliad 12 (dŵr yfed wedi'i botelu)  - 

     10. Yn rheoliad 13 (gorfodi)  - 

     11. Yn lle rheoliad 16 (dadansoddi) rhoddir y rheoliad canlynol  - 

     12. Yn rheoliad 17 (tramgwyddau a chosbau), yn lle'r ymadrodd "10(1) or (5), 11(1) or (3), 12" rhoddir yr ymadrodd "10(1) or (5), 11(1), (2), (3) or (5), 12(1) or (2)".

    
13. Yn rheoliad 18 (amddiffyniadau)  - 

     14. Ym mharagraff (3) o reoliad 19 (cymhwyso darpariaethau eraill) yn lle'r gair "it" rhoddir y geiriau "the bottle in which it is bottled".

    
15.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ym mharagraff 2(c) ym mhob un o Rannau I a II o Atodlen 1 (adnabod dyfroedd mwynol naturiol), ar ôl yr ymadrodd "numbers 1 to 9" mewnosodir yr ymadrodd "and 12".

    (2) Cyn 25 Rhagfyr 2003, bydd paragraff 2(c) ym mhob un o Rannau I a II o Atodlen 1 yn effeithiol fel pe bai'r diwygiadau a wneir gan baragraff (1) a rheoliad 19 heb eu gwneud.

    
16. Yn Atodlen 2 (manylion anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac elfennau hybrin), yn y cofnod yn yr ail golofn gyferbyn a'r cofnod sy'n ymwneud â'r "Fluoride F" yn y golofn gyntaf  -  yn lle'r ymadrodd "µg/l" rhoddir yr ymadrodd "mg/l".

    
17. Ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 3 (Y gofynion ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed gan gynnwys crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig paramedrau)  - 

     18. Yn lle Tabl A yn Rhan II o Atodlen 3 (crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig dŵr ffynnon a dŵr yfed) a'r nodyn sy'n gysylltiedig ag ef, rhoddir y darpariaethau canlynol  - 

     19. Yn lle Tabl B yn Rhan II o Atodlen 3 a'r nodiadau sy'n gysylltiedig ag ef rhoddir y darpariaethau canlynol  - 

     20. Yn lle Tabl B yn Rhan II o Atodlen 3 a'r nodiadau sy'n gysylltiedig ag ef rhoddir y darpariaethau canlynol  - 

     21. Yn lle Tabl D yn Rhan II o Atodlen 3 rhoddir y darpariaethau canlynol  - 

Diwygiadau canlyniadol
    
22.  - (1) Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990[5] (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt) diwygir y cyfeiriad yn yr ail golofn, gyferbyn â'r cyfeiriad yn y golofn gyntaf i Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999, mewn perthynas â Chymru er mwyn iddynt ddarllen "S.I. 1999/1540 as amended by S.I.2003/[ ]".

    (2) Mewn perthynas â Chymru, yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995[6] ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o "water", ar ôl y dyddiad "1999" mewnosodir y geiriau "as amended by the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Amendment) (Wales) Regulations 2003".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig. Maent yn diwygio Rheoliadau Dŵ r Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵ r Yfed wedi'i Botelu 1999 (O.S. 1999/1540, "y prif Reoliadau"), sy'n ymestyn i Brydain Fawr gyfan ac a ddiwygiwyd eisoes gan Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/656).

    
2. Mewn perthynas â dŵ r ffynnon a dŵ r yfed wedi'i botelu, mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC. Mae'r Gyfarwyddeb honno yn berthnasol i ansawdd dŵ r a fwriedir i'w yfed gan bobl (OJ Rhif L330, 5.12.1998, t. 32).

    
3. Mae'r Rheoliadau hyn  - 

    (a) yn diwygio'r prif Reoliadau  - 

      (i) yn rheoliad 2(1) (y brif ddarpariaeth ddehongli), drwy ddiwygio diffiniadau'r termau "bottle", "parameter" a "prescribed concentration or value", drwy fewnosod diffiniad o'r term "Directive 98/83" a rhoi diffiniad newydd o'r term "drinking water" yn lle'r hen un (rheoliad 3(a)),

      (ii) drwy roi fersiwn ddiwygiedig o reoliad 2(2) yn lle'r hen un, er mwyn tynnu unrhyw eiriau diangen a gwella'r drafftio (rheoliad 3(b)),

      (iii) drwy ychwanegu darpariaeth drosiannol (rheoliad 2(5)) sy'n gosod sut mae'r termau "Schedule 3", "parameter" a "prescribed concentration or value" fel y'u defnyddir yn rheoliad 2(1) i'w dehongli cyn 25 Rhagfyr 2003 (rheoliad 3(c)),

      (iv) drwy fewnosod darpariaeth (rheoliad 2(6)) sy'n rhagnodi sut mae cyfeiriadau yn y prif Reoliadau at farcio neu labelu potel i'w dehongli (rheoliad 3(c)),

      (v) drwy addasu geiriad paragraff (c) o reoliad 3 (esemptiadau) (rheoliad 4),

      (vi) drwy addasu paragraff (2) o reoliad 4 (adnabod fel dŵ r mwynol naturiol) drwy gynnwys ynddo sail ychwanegol y caiff yr awdurdod perthnasol neu'r Ysgrifennydd Gwladol ei defnyddio i dynnu cydnabyddiaeth o ddŵ r fel dŵ r mwynol naturiol (rheoliad 5(a)),

      (vii) drwy roi fersiwn ddiwygiedig o baragraff (5) yn lle'r hen un er mwyn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau perthnasol i roi gwybod i'r Asiantaeth Safonau Bwyd pan fydd yn cydnabod neu'n tynnu cydnabyddiaeth o ddŵ r fel dŵ r mwynol naturiol (rheoliad 5(b)),

      (viii) drwy fewnosod gofyniad newydd (rheoliad newydd 4(7A)) bod rhaid i'r awdurdodau perthnasol roi gwybod i'r Asiantaeth Safonau Bwyd am hysbysiadau iddynt am newidiadau o ran disgrifiadau masnachol o ddŵr mwynol naturiol neu enwau ffynhonnau neu darddle (rheoliad 5(c)),

      (ix) drwy egluro rheoliadau 5 (gwahardd rhag gwerthu) a 10 (labelu dŵr mwynol naturiol) (rheoliadau 6 a 7),

      (x) drwy roi fersiwn ddiwygiedig o reoliad 11 (dŵ r ffynnon) yn lle'r hen un er mwyn addasu'r gofynion sy'n berthnasol i botelu a gwerthu dŵr ffynnon a marcio a labelu poteli sy'n dwyn y dynodiad "spring water"; gan ychwanegu darpariaeth drosiannol sy'n gosod sut mae'r term "Schedule 3", fel y'i defnyddir yn rheoliad 11, i'w ddehongli cyn 25 Rhagfyr 2003; a chan ychwanegu darpariaeth cydnabyddiaeth gilyddol mewn perthynas â dŵ r ffynnon sy'n cael ei botelu mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig (rheoliad 8),

      (xi) drwy roi fersiwn ddiwygiedig o reoliad 12 (dŵ r yfed wedi'i botelu) yn lle'r hen un er mwyn addasu'r gofynion sy'n berthnasol i botelu a gwerthu dŵ r yfed wedi'i botelu; gan ychwanegu darpariaeth drosiannol sy'n gosod sut mae'r term "Schedule 3", fel y'i defnyddir yn rheoliad 12, i'w ddehongli cyn 25 Rhagfyr 2003; a chan ychwanegu darpariaeth cydnabyddiaeth gilyddol mewn perthynas â dŵ r ffynnon sy'n cael ei botelu mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig (rheoliad 9),

      (xii) drwy roi fersiwn ddiwygiedig o baragraff (1) o reoliad 13 (gorfodi) yn lle'r hen un er mwyn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau bwyd, o 25 Rhagfyr 2003 ymlaen, i fonitro ansawdd dŵ r ffynnon a dŵ r yfed wedi'i botelu yn unol â gofynion penodedig Cyfarwyddeb 98/83/EC (rheoliad 10(a)),

      (xiii) drwy adolygu'r meini prawf a ddefnyddir i asesu dŵr fel rhan o'r gwaith gwirio y mae'n rhaid ei wneud arno o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliad 13(2)(a) i sicrhau ei fod yn ddŵ r mwynol naturiol (rheoliad 10(b)),

      (xiv) drwy adolygu'r rhestr o ddarpariaethau'r prif Reoliadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(3) at eu dibenion hwy ni ddosberthir awdurdodau penodedig yn awdurdodau bwyd (rheoliad 10(c)),

      (xv) drwy roi fersiwn ddiwygiedig o reoliad 16 yn lle'r hen un er mwyn darparu, a hynny'n effeithiol o 25 Rhagfyr 2003 ymlaen, fod rhaid i'r dulliau dadansoddi a ddefnyddir i wirio cydymffurfedd dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi'i botelu ag Atodlen 3 yn cael eu gwneud yn unol ag Erthygl 7.5 o Gyfarwyddeb 98/83/EC (rheoliad 11),

      (xvi) drwy wneud newidiadau canlyniadol i reoliadau 17 a 18, sy'n darparu ar gyfer tramgwyddau a chosbau ac amddiffyniadau yn y drefn honno (rheoliadau 12 a 13),

      (xvii) drwy wneud mân ddiwygiad eglurhaol i reoliad 19(3) (sy'n gwahardd gwerthu poteleidiau o ddŵr mwynol naturiol, dŵr ffynnon a dŵr yfed nas marciwyd neu nas labelwyd yn unol â rheoliad 38 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996, O.S. 1996/1499 fel y'i diwygiwyd) (rheoliad 14),

      (xviii) drwy adolygu, o 25 Rhagfyr 2003 ymlaen, y manylion a bennir yn Rhannau I a II o Atodlen I (manylion y mae'n rhaid i berson eu rhoi os yw'n gwneud cais am gael cydnabod dŵr yn ddŵr mwynol naturiol) (rheoliad 15),

      (xix) drwy gywiro gwall teipograffyddol yn Atodlen 2 (manylion anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac elfennau hybrin) (rheoliad 16),

      (xx) drwy adolygu'r gofynion ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi'i botelu, gan gynnwys y gofynion ar gyfer crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig paramedrau, a gynhwysir yn Atodlen 3 (rheoliadau 17 i 21), a

    (b) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 (O.S. 1990/2463, fel y'u diwygiwyd eisoes) a Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd Cyffredinol) 1995 (O.S. 1995/1763, fel y'u diwygiwyd eisoes) (rheoliad 22).

     4. Cafodd arfarniad rheoliadol o effaith y Rheoliadau hyn ar gostau busnes ei baratoi, yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru a rhoddwyd copi ohono yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.

    
5. Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau a hysbyswyd i'r Comisiwn Ewropeaidd o dan Gyfarwyddeb 98/34/EC o Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau a rheolau ar wasanaethau cymdeithas wybodaeth (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t. 37).


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.back

[3] O.S. 1999/1540, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/656.back

[4] Rhif OJ L330, 5.12.98, t.32.back

[5] O.S.1990/2463; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.back

[6] O.S.1995/1763; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090817 1


 
© Crown copyright 2003
Prepared 5 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033042w.html