BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003 Rhif 3044 (Cy.288) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033044w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 26 Tachwedd 2003 | ||
Yn dod i rym | 28 Tachwedd 2003 |
(2) Er gwaethaf y ffaith bod bwyd yn cael ei bennu yng Ngholofn 2 o Atodlen 1, ni chaiff ei drin fel cynnyrch mêl penodol at ddibenion y Rheoliadau hyn hyn -
(3) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 2001/110 yr un ystyr yn y rheoliadau hyn ag yn y Gyfarwyddeb honno.
Disgrifiadau neilltuedig
3.
Ni chaiff neb werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo unrhyw fwyd sydd â label, p'un a yw wedi'i atodi i'r papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arno, sy'n dwyn, neu sy'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ddeilliad ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n debyg iawn iddo oni bai -
Labelu a disgrifio cynhyrchion mêl penodol
4.
- (1) Heb niweidio cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu i'r defnyddiwr olaf nac i sefydliad arlwyo unrhyw gynnyrch mêl penodol oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu gyda'r manylion canlynol -
(2) Ni chaiff neb werthu i'r defnyddiwr olaf nac i sefydliad arlwyo unrhyw fêl wedi'i hidlo neu fêl pobydd sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu â gwybodaeth sy'n ymwneud â tharddiad blodeuol neu lysieuol, tarddiad rhanbarthol, tiriogaethol neu dopagraffaidd neu unrhyw feini prawf ansawdd penodol.
(4) Lle, yn unol â nodyn 2 o Atodlen 1, defnyddiwyd y disgrifiad neilltuedig "honey" yn enw cynnyrch bwyd cyfansawdd sy'n cynnwys mêl pobydd, ni chaiff neb werthu bwyd cyfansawdd oni bai bod y rhestr o gynhwysion yn cynnwys y term "baker's honey".
Gwerthu mêl wedi'i hidlo neu fêl pobydd mewn cynwysyddion neu becynnau swmpus
5.
- (1) Nii chaiff neb werthu mêl wedi'i hidlo neu fêl pobydd mewn cynwysyddion neu becynnau swmpus oni bai bod y cynwysyddion neu'r pecynnau swmpus hynny wedi'u labelu â'u priod ddisgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch ac oni bai bod unrhyw ddogfennau masnach yn dangos yn glir y disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch.
(2) At ddibenion y paragraff hwn mae dogfennau masnach yn cynnwys yn holl ddogfennau sy'n ymwneud â gwerthu, cludo, storio neu ddosbarthu'r cynnyrch.
Dull marcio neu labelu
6.
Bydd Rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â'r dull o farcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol i gynnyrch mêl penodol gael ei farcio neu ei labelu â hwy yn ôl rheoliadau 4(1)(a) i (c) a (3) o'r Rheoliadau hyn fel petaent yn fanylion y mae'n ofynnol i fwyd gael ei farcio neu'i labelu gyda hwy yn ôl Rheoliadau 1996.
Cosbau a gorfodi
7.
- (1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn yn fwriadol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi ac yn gweithredu'r rheoliadau hyn yn ei ardal.
Amddiffyn mewn perthynas ag allforion
8.
Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi -
Cymhwyso darpariaethau amrywiol y Ddeddf
9.
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn -
Diwygio a dirymu
10.
- (1) Mae Rheoliadau Mêl 1976[8], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn cael eu dirymu.
(2) Bod y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Mêl 1976 (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru), yn cael eu hepgor -
(3) Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, yn lle'r cyfeiriad at Gyfarwyddeb 74/409/EEC yn Atodlen 6, rhodder cyfeiriad at Gyfarwyddeb 2001/110.
(4) Yn Rheoliadau 1996, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dirymir Rheoliad 4(2)(c).
Darpariaethau trosiannol
11.
Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[16]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003
Colofn 1 | Colofn 2 |
Disgrifiadau neilltuedig | Cynnyrch mêl penodol |
1a.
blossom honey neu } 1b. nectar honey } |
mêl a geir o neithdar planhigion |
2.
honeydew honey |
mêl a geir yn bennaf o ysgarthiadau pryfed sy'n sugno planhigion (Hemiptera) ar y rhannau o blanhigion sy'n fyw neu secretiadau'r rhannau o blanhigion sy'n fyw |
3.comb honey | mêl sy'n cael ei storio gan wenyn yng nghelloedd diliau heb chwiler sydd newydd eu wedi'i hadeiladu neu haenau sylfaen dil tenau sydd wedi'u gwneud yn unig o g yr gwenyn ac a werthir mewn diliau cyfan wedi'u selio neu rannau o ddiliau o'r fath |
4a.
chunk honey neu } 4b. cut comb in honey } |
mêl sy'n cynnwys un neu ragor o ddarnau o fêl dil |
5.
drained honey |
mêl a geir drwy draenio diliau heb chwiler a'u capanau wedi'u tynnu |
6.
extracted honey |
mêl a geir trwy allgyrchu diliau heb chwiler a'u capanau wedi'u tynnu |
7.
pressed honey |
mêl a geir trwy wasgu diliau heb chwiler gyda neu heb ddefnyddio gwres cymedrol heb fod yn fwy na 45°C |
8.
filtered honey |
mêl a geir trwy ddileu deunyddiau anorganig neu organig estron yn y fath ffordd fel y bydd rhan helaeth o'r paill yn cael ei ddileu |
9.
baker's honey |
mêl sy'n -
(b) a allai -
(ii) bod wedi dechrau eplesu neu sydd wedi eplesu, neu (iii) sydd wedi'u gorgynhesu |
1.
Cynnwys siwgr |
|
1.1.
Cynnwys ffrwctos a glwcos (swm y ddau) |
|
- mêl blodau | Dim llai na 60 g/100 g |
- mêl melwlith, cyfuniadau o fêl melwlith gyda mêl blodau | Dim llai na 45 g/100 g |
1.2.
Cynnwys swcros |
|
- yn gyffredinol | Dim mwy na 5g/100 g |
- ffug acesia (Robinia pseudoacacia), alffalffa (Medicago sativa), Banksia Menzies (Banksia menziesii), Gwyddfid Ffrainc (Hedysarum), gwm coch (Eucalyptus camadulensis), lledrwydden (Eucryphia lucida, Eucryphia milliganii), Citrus spp. | dim mwy na 10 g/100g |
- lafant (Lavandula spp.), tafod y fuwch (Borago officinalis) | dim mwy na 15 g/100g |
2.
Cynnwys y lleithder |
|
- yn gyffredinol | dim mwy na 20% |
- grug (Calluna) a mêl pobydd yn gyffredinol | dim mwy na 23% |
- mêl pobydd o flodau'r grug (Calluna) | dim mwy na 25% |
3.
Cynnwys annhoddadwy mewn d r |
|
- yn gyffredinol | dim mwy na 0.1 g/100g |
- mêl wedi'i wasgu | dim mwy na 0.5 g/100 g |
4.
Dargludedd trydanol |
|
- mêl na restrir mohono isod a chyfuniadau o'r mathau hyn o fêl | dim mwy na 0.8 mS/cm |
- mêl melwith a mêl castan a chyfuniadau o'r rhain ac eithrio gyda'r rhai a restrir isod | dim mwy na 0.8 mS/cm |
- eithriadau mefusbren (Arbutus unedo), grug clochog (Erica), coeden eucalyptwus, pisgwydden (Tilia spp.), grug (Calluna vulgaris), manuka neu jelly bush (Leptospermum), coeden de (Melaleuca spp.) | |
5.
Asid rhydd |
|
- yn gyffredinol | dim mwy na 50 o filli cyfwerthyddion o asid i bob 1000 gram |
- mêl pobydd | dim mwy na 80 filli cyfwerthyddion o o asid i bob 1000 gram |
6.
Gweithgarwch diastas a chynnwys hydroxymethylfurfural (HMF) a benderfynir ar ôl prosesu a blendio |
|
(a) Gweithgarwch diastas (graddfa Schade) |
dim llai nag 8 |
- yn gyffredinol, ac eithrio mêl pobydd | |
- mêl sydd â chynnwys ensym isel naturiol (e.e. mêl sitrws) a chynnwys HMF o ddim mwy na 15 mg/kg | dim llai na 3 |
(b) HMF |
|
- yn gyffredinol, ac eithrio mêl pobydd | dim mwy na 40 mg/kg (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau o (a), ail indent) |
- mêl o darddiad a ddatganwyd o ranbarthau sydd â hinsawdd drofannol a cyfuniadau o'r mathau hyn o fêl | dim mwy na 80 mg/kg |
Nodyn 2: Ni cheir dileu paill neu gyfansoddyn sy'n benodol i fêl ac eithrio lle na ellir osgoi hyn wrth ddileu deunydd anorganig neu organig estron.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.
[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.47, fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-Bwyllgor yr AEE Rhif 99/2002.back
[5] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.back
[6] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.back
[7] O.S. 1996/1499; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398.back
[8] O.S. 1976/1832, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/2486, O.S. 1991/1476, O.S 1992/2596 ac O.S. 1996/1499.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 5 December 2003 |