BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003 Rhif 3047 (Cy.290)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033047w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3047 (Cy.290)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 26 Tachwedd 2003 
  Yn dod i rym 28 Tachwedd 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac yntau wedi ystyried y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, ac wedi ymgynghori fel sy'n ofynnol yn Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3], ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

Cwmpas y Rheoliadau
     3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion siwgr penodedig, y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl ac sydd yn barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

Disgrifiadau neilltuedig
    
4. Ni chaiff neb werthu bwyd gyda label, boed honno wedi ei glynu wrth y deunydd lapio neu'r cynhwysydd ai peidio, neu wedi ei hargraffu arno, os yw'n dangos neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ymadrodd sy'n deillio ohono, neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo heblaw - 

Labelu a disgrifio cynhyrchion siwgr penodedig
    
5. Heb iddo leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch siwgr penodedig os nad yw wedi ei farcio neu ei labelu â'r manylion canlynol - 

Y dull o farcio neu labelu
    
6. Rhaid i Reoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â sut y mae bwyd yn cael ei farcio neu ei labelu) fod yn gymwys i'r manylion y mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu marcio ar gynnyrch siwgr penodedig, neu eu rhoi ar ei label, fel pe baent yn fanylion y mae Rheoliadau 1996 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio ar fwyd neu eu rhoi ar label arno.

Cosbau a gorfodi
    
7.  - (1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn, neu berson nad yw'n cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

    (2) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Amddiffyniad o ran allforio
    
8. Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir os bydd yn profi  - 

Cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990
     9. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, wedi eu haddasu fel bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn  - 

Dirymu a diwygio canlyniadol
    
10.  - (1) Dirymir y Rheoliadau canlynol drwy hyn (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru):

    (2) Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) - 

    (3) Hepgorir y darnau canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 yn narpariaethau'r Rheoliadau a nodir isod, i'r graddau y mae'r Rheoliadau'n gymwys i Gymru - 

    (4) Yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995[18]), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, hepgorir paragraff (2) yn rheoliad 12.

    (5) Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru - 

    (6) Yn Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001[19], yn rheoliad 5(1)(c), yn lle'r cyfeiriad at Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 rhoddir cyfeiriad at Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003.

Darpariaeth drosiannol
     11. Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir os bydd yn profi  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
20]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003



ATODLEN 1
Rheoliad 2


CYNHYRCHION SIWGR PENODEDIG A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG




Colofn 1 Colofn 2
Disgrifiadau Neilltuedig Cynhyrchion Siwgr Penodedig
     1. Semi-white sugar

Swcros wedi ei buro a'i grisialu, o ansawdd da sy'n deg ei fasnachu, gyda'r nodweddion canlynol:

    (a) nid yw'r polareiddio yn llai na 99.5°Z

    (b) nid yw'n cynnwys mwy na 0.1% o siwgr gwrthdro o ran pwysau

    (c) nid yw'n colli mwy na 0.1% o ran pwysau ar ôl ei sychu

     2. Sugar neu white sugar

Swcros wedi ei buro a'i grisialu, o ansawdd da sy'n deg ei fasnachu, gyda'r nodweddion canlynol:

    (a) nid yw'r polareiddio yn llai na 99.7°Z

    (b) nid yw'n cynnwys mwy na 0.04% o siwgr gwrthdro o ran pwysau

    (c) nid yw'n colli mwy na 0.06% o ran pwysau ar ôl ei sychu

    (ch) nid yw'r math o liw yn fwy na naw pwynt, wedi ei bennu yn unol â pharagraff (2) o Atodlen 2

     3. Extra-white sugar

Mae gan y cynnyrch yr un nodweddion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2(a), (b) ac (c) yn yr Atodlen hon ac nad yw cyfanswm y pwyntiau a bennir yn ôl darpariaethau paragraffau 2 i 4 o Atodlen 2 yn fwy na wyth, ac nid yn fwy:

 -  na phedwar o ran y math o liw,

 -  na chwech o ran cynnwys mwynau,

 -  na thri o ran y lliw yn y toddiant

     4. Sugar solution

Toddiant dyfrllyd swcros gyda'r nodweddion canlynol:

    (a) nid yw'r sylwedd sych yn llai na 62% o ran pwysau

    (b) nid yw'n cynnwys mwy na 3% o siwgr gwrthdro (cymhareb ffrwctos i ddecstros = 1.0 ± 0.2) o ran pwysau'r sylwedd sych

    (c) nid yw'r mwynau dargludedd yn fwy na 0.1% o ran pwysau'r sylwedd sych, wedi ei bennu yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 2

    (ch) nid yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 45 o unedau ICUMSA

     5. Invert sugar solution

Toddiant dyfrllyd swcros wedi ei wrthdro yn rhannol drwy hydrolysis, nad siwgr gwrthdro yw'r gyfran fwyaf ohono, gyda'r nodweddion canlynol:

    (a) nid yw'r sylwedd sych yn llai na 62% o ran pwysau

    (b) nid yw'n cynnwys mwy na 3% o siwgr gwrthdro (cymhareb ffrwctos i ddecstros = 1.0 ± 0.1) ond heb fod yn fwy na 50% o ran pwysau'r sylwedd sych

    (c) nid yw'r mwynau dargludedd yn fwy na 0.4% o ran pwysau'r sylwedd sych, wedi ei bennu yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2

     6. Invert sugar syrup

Toddiant dyfrllyd swcros, wedi ei grisialu ai peidio, sydd wedi ei wrth-droi yn rhannol drwy hydrolysis, y mae'n rhaid iddo gynnwys mwy na 50% o siwgr gwrthdro (cyniferydd ffrwctos/decstros = 1.0 ± 0.1), o ran pwysau'r sylwedd sych, ond y mae'n rhaid fel arall bodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 5(a) ac (c) yn yr Atodlen hon.
     7. Glucose syrup

Toddiant dyfrllyd sacaridau maethol wedi ei buro a'i grynhoi, sydd wedi ei gael o starts neu inswlin neu'r ddau, gyda'r nodweddion canlynol:

    (a) nid yw'r sylwedd sych yn llai na 70% o ran pwysau

    (b) nid yw'r decstros cyfwerth yn llai nag 20% o'r sylwedd sych o ran pwysau ac wedi ei fynegi fel D-glwcos

    (c) nid yw'r mwynau wedi eu sylffadu yn fwy nag 1% o'r sylwedd sych o ran

     8. Dried glucose syrup

Surop glwcos wedi ei sychu yn rhannol, gydag o leiaf 93% sylwedd sych o ran pwysau, ond rhaid iddo fel arall fodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 7(b) ac (c) yn yr Atodlen hon.
     9. Dextrose neu dextrose monohydrate

D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu sy'n cynnwys un molecwl o ddwr crisialu, gyda'r nodweddion canlynol:

    (a) decstros (D-glwcos) heb fod yn llai na 99.5% o sylwedd sych o ran pwysau

    (b) sylwedd sych heb fod yn llai na 90% o ran pwysau

    (c) mwynau wedi eu sylffadu heb fod yn fwy na 0.25% o sylwedd sych o ran pwysau

     10. Dextrose neu dextrose anhydrous

D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu nad yw'n cynnwys dwcirc r crisialu, gyda o leiaf 98% o sylwedd sych o ran pwysau, ond y mae'n rhaid iddo fel arall fodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 9(a) ac (c) yn yr Atodlen hon.
     11. Fructose

D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu gyda'r nodweddion canlyniadol:

    yn cynnwys o leiaf 98% o ffrwctos

yn cynnwys ar y mwyaf 0.5% o glwcos

ni chollir mwy na 0.5% o ran pwysau ar ôl ei sychu

mwynau dargludedd heb fod yn fwy na 0.1% o ran pwysau wedi ei bennu yn unol â pharagraff (2) o Atodlen 2


Nodiadau:
     1. Ceir defnyddio'r disgrifiad neilltuedig "sugar" neu "white sugar" fel ymadrodd arall ar gyfer y disgrifiad neilltuedig "extra-white sugar" yn achos y cynnyrch a ddisgrifir ym mharagraff 3 uchod.

     2. Yn achos surop siwgr gwrthdro sy'n cynnwys crisialau yn y toddiant, rhaid ychwanegu'r ymadrodd goleddfu "crystallised" at ddisgrifiad y cynnyrch.

     3. Os bydd cynnyrch siwgr penodedig a ddisgrifir ym mharagraff 7 neu 8 uchod yn cynnwys mwy na 5% o ffrwctos ar sail sylwedd sych, rhaid i'r disgrifiad neilltuedig fod naill ai yn "glucose-fructose syrup" neu "fructose-glucose syrup", neu naill ai yn "dried glucose-fructose syrup" neu "dried fructose-glucose syrup" yn ôl y digwydd er mwyn adlewyrchu pa un yw'r gyfran fwyaf, y glwcos ynteu'r ffrwctos.

     4. Ceir rhoi ymadroddion goleddfu a ddefnyddir yn gyffredin ar y cynhyrchion a ddisgrifir ym mharagraffau 1 i 11 uchod, yn ogystal â'r disgrifiad neilltuedig ar yr amod na fydd hynny yn debygol o gamarwain y defnyddiwr o'i herwydd.

     5. Ceir defnyddio'r disgrifiad "white" mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch a ddisgrifir ym mharagraff 4 uchod os nad yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 25 o unedau ICUMSA wedi ei bennu yn unol â dull y Comisiwn Rhyngwladol dros Ddulliau Unffurf o Ddadansoddi Siwgr ("ICUMSA") wedi ei osod ym mharagraff 3 o Bennod A yn yr Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69[
21].

     6. Ceir defnyddio'r disgrifiad "white" mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r cynhyrchion a ddisgrifir ym mharagraff 5 a 6 uchod os nad oes mwy na 0.1% o fwynau dargludedd ac os nad yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 25 o unedau ICUMSA wedi ei bennu fel y'i gosodir ym mharagraff 1 o Bennod A yn yr Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69.

     7. Caiff cynhyrchion siwgr penodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 88/344/EEC ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-Wladwriaethau sy'n ymwneud â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwydydd a chynhwysion bwyd[22] neu Gyfarwyddeb y Cyngor 89/107 ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-Wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd a awdurdodir i'w defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl.[23]



ATODLEN 2

DULLIAU DADANSODDI


     1. Dull 1 yw'r dull o bennu faint a gollir wrth sychu siwgr lledwyn, siwgr neu siwgr gwyn, a siwgr claerwyn.

     2. Y dull o bennu math o liw siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn yw dull Sefydliad Brunswick dros Dechnoleg Amaethyddol a'r Diwydiant Siwgr fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 2, o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibenion pennu'r nifer o bwyntiau, mae un pwynt yn cyfateb i 0.5 o unedau.

     3. Y dull o bennu faint o fwynau a gynhwysir mewn siwgr claerwyn, toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro, surop siwgr gwrthdro a ffrwctos yw dull ICUMSA fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 1, o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibenion pennu'r nifer o bwyntiau, mae un pwynt yn cyfateb i 0.0018% o fwynau.

     4. Y dull o bennu'r lliw mewn toddiant siwgr claerwyn a thoddiant siwgr yw dull ICUMSA fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 3 o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibeion pennu'r nifer o bwyntiau at ddibenion paragraff 3 o Atodlen 1, mae un pwynt yn cyfateb i 7.5 o unedau.

     5. Dull 2 yw'r dull o bennu faint o sylwedd sych a gynhwysir mewn surop glwcos, surop glwcos wedi ei sychu, decstros neu ddecstros monohydrad a decstros neu ddecstros anhydrus.

     6. Dull 3 yw'r dull o bennu faint o sylwedd sych a gynhwysir mewn toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro.

     7. Dull 4 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn siwgr lledwyn.

     8. Dull 5 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn.

     9. Dull 7 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro.

     10. Dull 9 yw'r dull o bennu faint o fwynau wedi eu sylffadu a gynhwysir mewn surop glwcos, surop glwcos wedi ei sychu, decstros neu ddecstros monohydrad, a decstros neu ddecstros anhydrus.

     11. Dull 10 yw'r dull o bennu i ba raddau y mae siwgr lledwyn, siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn wedi eu polareiddio.

     12. At ddibenion yr Atodlen hon - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53) ac eithrio Erthygl 2.2 sy'n ymwneud â labelu cynhyrchion bach sydd wedi eu pecynnu ymlaen llaw. Maent yn dirymu a disodli Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976, fel y'u diwygiwyd, mewn cysylltiad â Chymru.

Mae'r Rheoliadau - 

Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Ceir copïau o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.back

[5] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.back

[6] O.S. 1996/1499.back

[7] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53. O ran ymgorffori Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC yng Nghytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd gweler OJ Rhif L298, 31.10.02, t.10.back

[8] O.S. 1976/509.back

[9] O.S. 1982/255.back

[10] O.S. 1982/1727.back

[11] O.S. 1985/67.back

[12] O.S. 1990/2486.back

[13] O.S. 1991/1476.back

[14] O.S. 1992/2596.back

[15] O.S. 1995/3187.back

[16] O.S. 1999/1136.back

[17] O.S. 2002/329 (Cy.42).back

[18] O.S. 1995/3124.back

[19] O.S. 2001/1440 (Cy.102).back

[20] 1998 p.38.back

[21] OJ Rhif L163, 1.7.1969, t.1.back

[22] OJ Rhif L157, 24.6.1988, t.28.back

[23] OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27.back

[24] OJ Rhif L239, 22.9.79, t.24.back



English version



ISBN 0 11090820 1


 
© Crown copyright 2003
Prepared 5 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033047w.html