BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 Rhif 3053 (Cy.291)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033053w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3053 (Cy.291)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 26 Tachwedd 2003 
  Yn dod i rym 28 Tachwedd 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freiniwyd bellach ynddo[2], ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod y gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003, deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Ystod y Rheoliadau
     3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion dynodedig a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

Disgrifiadau neilltuedig
    
4. Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd ac arno label, p'un a yw wedi'i gysylltu â'r deunydd lapio neu'r cynhwysydd, neu wedi'i argraffu arno, sy'n dwyn, yn ffurfio neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw darddair ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo oni bai  - 

Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig
    
5. Heb leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig oni bai iddo gael ei farcio a'i labelu â'r manylion canlynol  - 

Dull marcio neu labelu
    
6.  - (1) Mae rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â'r dull o farcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu cynnyrch dynodedig â hwy oherwydd rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn fel petaent yn fanylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu bwyd â hwy oherwydd Rheoliadau 1996.

    (2) Rhaid i'r manylion y mae'n ofynnol iddynt ymddangos ar y label yn rhinwedd rheoliad 5(b) ac (c) o'r Rheoliadau hyn ymddangos wrth enw'r cynnyrch.

    (3) Pan gaiff cynhyrchion dynodedig sy'n pwyso llai na 20 gram yr uned eu pacio mewn deunydd pacio allanol, nid oes rhaid i'r manylion sy'n ofynnol gan reoliad 5(b) i (d) o'r Rheoliadau hyn ymddangos ond ar y deunydd pacio allanol.

Cosbi a gorfodi
    
7.  - (1) Bydd person sy'n mynd yn groes neu yn methu cydymffurfio â rheoliad 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

    (2) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
    
8. Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir i brofi  - 

Cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990
     9.  - (1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny i'r Ddeddf neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Mae adran 29 o'r Ddeddf (samplu) yn gymwys mewn perthynas â gwaith samplu cynhyrchion dynodedig i'w dadansoddi at ddibenion y Rheoliadau hyn a chyda'r addasiad bod rhaid arfer a pherfformio pwer swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi o dan yr adran honno a dyletswyddau'r swyddog hwnnw o dan unrhyw reoliadau a wneir o dan y Ddeddf, yn unol â'r dulliau a ddisgrifir yn yr Atodlen i Gyfarwyddeb 87/524/EEC.

Diwygio a dirymu
    
10.  - (1) Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru), hepgorir y darpariaethau canlynol  - 

    (2) Hepgorir y cofnodion a ganlyn sy'n ymwneud â Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977[10] (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru)  - 

    (3) Dirymir y Rheoliadau a ganlyn (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru):

    (4) Yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwydydd 1995[23], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru , yn Atodlen 2, paragraff 6, yn lle'r cyfeiriad at "Cyfarwyddeb 76/118/EEC"[24]) rhoddir cyfeiriad at "Cyfarwyddeb 2001/114/EC"[25].

    (5) Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[26], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru  - 

Darpariaeth drosiannol
     11. Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir i brofi  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
27].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003



ATODLEN 1
Rheoliad 2


CYNHYRCHION LLAETH SYDD WEDI'U DADHYDRADU A'U PRESERFIO YN RHANNOL NEU'N LLWYR A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG




Colofn 1 Colofn 2
Disgrifiadau Neilltuedig Cynhyrchion Dynodedig
     1. Partly dehydrated milk

    
Types of unsweetened condensed milk     
(a) Condensed high-fat milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 15% braster, ac nid llai na chyfanswm o 26.5% o solidau llaeth.
(b) Condensed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradedu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 7.5% braster, ac nid llai na chyfanswm o 25% o solidau llaeth.
(c) Condensed, partly skimmed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradedu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 1% a llai na 7.5% braster, ac nid llai na chyfanswm o 20% o solidau llaeth.
(ch) Condensed skimmed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1% braster, ac nid llai na chyfanswm o 20% o solidau llaeth.
Types of sweetened condensed milk     
(d) Sweetended condensed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn, neu siwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai nag 8% braster ac nid llai na chyfanswm o 28% o solidau llaeth.
(dd) Sweetened condensed, partly skimmed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu iwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 1% a llai na 8% braster, ac nid llai na 24% o gyfanswm o solidau llaeth.
(e) Sweetened condensed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu siwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1% braster ac nid llai na chyfanswm o 24% o solidau llaeth.
     2. Totally dehydrated milk

    
(a) Dried high-fat milk neu high-fat milk powder

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 42% braster.
(b) Dried whole milk neu whole milk powder

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 26% ac nid llai na 42% braster.
(c) Dried partly skimmed milk neu partly skimmed milk powder

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr â chynnwys braster o dros fwy na 1.5% a llai na 26% yn ôl pwysau.
(ch) Dried skimmed milk neu skimmed milk powder

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1.5% braster.

Nodiadau:
     1. Caiff unrhyw gynnyrch dynodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl[
28] ac unrhyw fitamin.

     2. Wrth wneud unrhyw gynnyrch dynodedig a bennir ym mharagraff 1(d) i (e), mae caniatâd i ychwanegu swm ychwanegol o lactos, heb fod yn fwy na 0.03% o ran pwysau'r cynnyrch gorffenedig.

     3. Heb leihau effaith gyffredinol Ran V o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 1995[29], preserfir cynhyrchion dynodedig drwy'r dulliau canlynol, sef  - 

     4. Penderfynir ar lefelau'r deunydd sych, cynnwys lleithder, braster, swcros, asid lactig a lactadau a gweithgarwch ffosffotas yn y cynhyrchion dynodedig yn unol â'r dulliau yng Nghyfarwyddeb 79/1067.



ATODLEN 2
Rheoliad 2


DISGRIFIADAU AMGEN I'R DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG A BENNIR YN ATODLEN 1


     1. Mae caniatâd i ddefnyddio'r term "evaporated milk" yn lle'r term "condensed milk" i gyfeirio at laeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, o leiaf 9% braster a chyfanswm o 31% o solidau llaeth.

     2. Mae caniatâd i ddefnyddio'r term "evaporated semi-skimmed milk" yn lle'r term "condensed partly skimmed milk" i gyfeirio at laeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, rhwng 4% a 4.5% braster ac nid llai na chyfanswm o 24% o solidau llaeth.

     3. Mae caniatâd i ddefnyddio'r term "semi-skimmed milk powder" neu "partly skimmed-milk powder" yn lle'r term "dried partly skimmed milk" neu "partly skimmed-milk powder" i gyfeirio at laeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr â chynnwys braster rhwng 14% a 16%.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Maent yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/114/ (OJ Rhif L19, 17.1.2002, t.19). Ymwneud â chynhyrchion llaeth penodol a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sydd naill ai'n rhannol neu'n llwyr wedi'u sychu (wedi'u dadhydradu) a'u cadw (eu preserfio) y mae'r Gyfarwyddeb honno. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Rheoliadau yn  - 

Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a rhoddwyd copi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n egluro sut y mae prif elfennau'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd a grybwyllir uchod yn cael eu trawsosod yn Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Bwyd 1990, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] OJ Rhif L327, 24.12.1979, t..29.back

[5] OJ Rhif L306, 28.10.1987, p.24.back

[6] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.back

[7] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.back

[8] O.S. 1996/1499; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398.back

[9] OJ Rhif L15, 17.1.2002, t.19 fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-bwyllgor AEE Rhif 99/2002 (OJ Rhif L298, 31.10.2002, t.10).back

[10] O.S. 1977/928; hepgorir offerynnau diwygio perthnasol O.S. 1982/1066, 1986/2299, 1989/1959, 1990/2486, 1991/1476, 1992/2596, 1995/3187, 1996/1499, 1999/1136, 2001/1787(Cy.128) and 2002/329(Cy.42)back

[11] O.S. 1982/1727.back

[12] O.S. 1985/67.back

[13] O.S. 1990/2486.back

[14] O.S. 1991/1476.back

[15] O.S. 1992/2596.back

[16] O.S. 1995/3187.back

[17] O.S. 1999/1136.back

[18] O.S. 2002/329(Cy.42).back

[19] O.S. 1977/928.back

[20] O.S. 1982/1066.back

[21] O.S. 1986/2299.back

[22] O.S. 1989/1959.back

[23] O.S. 1995/3124.back

[24] OJ Rhif L24, 30.1.1976, t.49.back

[25] OJ Rhif L15, 17.1.2002, t.19.back

[26] O.S. 1995/3187.back

[27] 1998 p.38.back

[28] OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27.back

[29] O.S. 1995/1086, diwygiad perthnasol a wnaed gan O.S. 1996/1699.back



English version



ISBN 0 11090824 4


 
© Crown copyright 2003
Prepared 5 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033053w.html