BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003 Rhif 3117 (Cy.295)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033117w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3117 (Cy.295)

CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003

  Wedi'i wneud 2 Rhagfyr 2003 
  Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003[1], ac ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol  - 

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003 a daw i rym y diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud.

Talu ffioedd hyfforddi i Swyddogion Canlyniadau
    
2.  - (1) Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002[2] yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn lle rheoliad 3(1)(b) rhodder  -  "treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 6A(1) o'r Atodlen, ac".

    (3) Yn rheoliad 3(2)(b), yn lle "7(1)" rhodder "5(1) a 6A(1)".

    (4) Yn Rhan II o'r Atodlen, ar ôl Paragraff 6 mewnosoder paragraff newydd, sef Paragraff 6A - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Rhagfyr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Erthygl 3 a Rhan II o'r Atodlen i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 ("Gorchymyn 2002"), a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2003.

O dan erthygl 21(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003 ("Gorchymyn 2003") mae hawl swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i adennill costau mewn perthynas â gwasanaethau neu dreuliau'r person hwnnw o ran neu mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath yn dibynnu ar y canlynol, sef  - 

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan Erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn 2003.

Mewnosodir paragraff newydd, sef Paragraff 6A, yn Rhan II o'r Atodlen i Orchymyn 2002, ac mae'n caniatáu i daliad gael ei wneud i swyddog canlyniadau mewn cysylltiad â hyfforddi swyddogion llywyddu i gyflawni dyletswyddau pleidleisio ar ddiwrnod etholiad.


Notes:

[1] O.S. 2003 Rhif 284.back

[2] O.S. 2002 Rhif 3053 (Cy.288).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090825 2


 
© Crown copyright 2003
Prepared 9 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033117w.html