BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2003 Rhif 3119 (Cy.297)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033119w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3119 (Cy.297)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2003

  Wedi'u gwneud 2 Rhagfyr 2003 
  Yn dod i rym 3 Rhagfyr 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 74A a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1] (o'i darllen ynghyd â rheoliad 14 o Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau ac Esemptiadau Trosiannol a Dilynol) (Lloegr a Chymru) 2000[2] ac erthyglau 2 a 6 o Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002[3]) ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru[4]), ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd[5] a chan ei fod wedi'i ddynodi[6]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[7] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno a grybwyllwyd ddiwethaf (i'r graddau nad oes modd gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a bennwyd uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 3 Rhagfyr 2003.

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001[8] yn unol â pharagraff (2) a pharagraff (3).

    (2) Yn lle Rhan II o'r Tabl a nodir yn Atodlen 3 (ychwanegion a ganiateir a darpariaethau ynglycircn â'u defnyddio) rhoddir y Rhan sydd wedi'i nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

    (3) Yn Rhan IX o Atodlen 3  - 

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001
    
3.  - (1) Caiff Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 eu diwygio, i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru, yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Yn lle paragraff (1) o reoliad 7 (cyfyngiadau ar amrywiadau) rhodder y paragraff canlynol  - 

    (3) Yn lle paragraff (1) o reoliad 24 (addasu adran 74A(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) rhodder y paragraff canlynol  - 

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999
     4. Caiff Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999[14] eu diwygio i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unol â rheoliadau 5 a 6.

     5. Yn Rhan I o Atodlen 2 (dulliau dadansoddi) ym mharagraff 3(e)(ii) yn lle'r ymadrodd "and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003" rhodder yr ymadrodd ", the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) (No. 2) Regulations 2003".

    
6. Yn Rhan II o Atodlen 3 (ffurflen tystysgrif ddadansodi) yn nodyn (11)(a) yn lle'r ymadrodd "and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003" rhodder yr ymadrodd ", the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) (No.2) Regulations 2003".

Diwygiadau Canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999
    
7. Caiff Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999[15] eu diwygio i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unol â rheoliadau 8 i 11.

     8. Yn rheoliad 7 (Addasu Deddf Amaethyddiaeth 1970 at rai dibenion)  - 

     9. Ym mhob un o reoliadau 11, 11A ac 11B yn lle'r ymadrodd "and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003" rhodder yr ymadrodd ", the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) (No.2) Regulations 2003".

    
10. Yn y fersiwn a addaswyd o is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth a nodir yn rheoliad 9 yn lle'r ymadrodd "and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003" rhodder yr ymadrodd ", the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) (No.2) Regulations 2003".

    
11. Yn rheoliad 10 (addasu adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) yn lle'r fersiwn a addaswyd o is-adran (17) o adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir yn y rheoliad rhodder yr is-adran ganlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
16]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Rhagfyr 2003



YR ATODLEN
Rheoliad 2(2)


Y RHAN A RODDIR YN LLE RHAN II O'R TABL A NODIR YN ATODLEN 3 I REOLIADAU PORTHIANT (CYMRU) 2001









EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio ymhellach Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343 (Cy. 15), fel y'u diwygiwyd eisoes).

     2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/7/EC sy'n diwygio'r amodau ar gyfer awdurdodi canthacsanthin mewn porthiant yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC (OJ Rhif L22, 25.1.2003, t. 28).

     3. Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu'r dulliau rheoli yn Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 sy'n rheoleiddio presenoldeb ychwanegion mewn porthiant drwy bennu lefelau uchaf newydd mewn bwyd ar gyfer y lliwydd canthacsanthin (rheoliad 2(2) a'r Atodlen).

     4. Maent hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 871/2003 sy'n awdurdodi'n barhaol ychwanegyn newydd sef ocsid manganomanganig mewn porthiant (OJ Rhif L125, 21.5.2003, t.3) a Rheoliad Comisiwn (EC) Rhif 877/2003 sy'n awdurdodi dros dro'r defnydd o'r rheolydd asidedd "Benzoic acid" mewn porthiant (OJ Rhif L126, 22.5.2003, t.24) (rheoliad 2(3)).

     5. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau 7(1) a 25(1) o Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (rheoliad 3) a diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (rheoliadau 4 i 11)

     6. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/7/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael oddi wrth Uned Bwydydd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN.


Notes:

[1] 1970 p.40. Mae adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion "the Ministers", "prescribed" a "regulations"; diwygiwyd y diffiniad o "the Ministers" gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S.1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p. 68), Atodlen 4, paragraff 6.back

[2] O.S. 2000/656.back

[3] O.S. 2002/794.back

[4] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672.back

[5] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 o Reoliad y CE mae'r ymadrodd "food law" yn ymestyn i fwyd a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt.back

[6] O.S. 1999/2788.back

[7] 1972 p.68.back

[8] O.S. 2001/343 (Cy. 15), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1797 (Cy.172), O.S. 2003/989 (Cy. 138) ac O.S. 2003/1850 (Cy. 200).back

[9] O.S. 2001/2253 (Cy. 163).back

[10] O.S. 2001/3461 (Cy. 280).back

[11] O.S. 2002/1797 (Cy.. 172).back

[12] O.S. 2003/989 (Cy.. 138).back

[13] O.S. 2003/1850 (Cy. 200).back

[14] O.S. 1999/1663, diwygiwyd gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy. 163), O.S. 2002/1797 (Cy. 172), O.S. 2003/1677 (Cy. 180) ac O.S. 2003/1850 (Cy. 200).back

[15] O.S. 1999/2325, diwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2001/2253 (Cy. 163), O.S. 2001/3461 (Cy. 280), O.S. 2002/1797 (Cy. 172), O.S. 2003/989 (Cy. 138), O.S. 2003/1677 (Cy. 180) ac O.S. 2003/1850 (Cy. 200).back

[16] 1998 p.38.back

[17] 1990 c.16.back



English version



ISBN 0 11090841 4


 
© Crown copyright 2003
Prepared 22 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033119w.html