OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 3132 (Cy.299)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003
|
Wedi'i wneud |
28 Tachwedd 2003 | |
|
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2) |
Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Ebrill 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] ar adolygiad a gyflawnwyd gan Gyngor Sir Powys ar y ffiniau rhwng cymunedau Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir yn Sir Powys ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdanynt;
a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2] yn gwneud y Gorchymyn canlynol: -
Enwi a chychwyn
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004 sef y diwrnod penodedig ("appointed day") at ddibenion y Rheoliadau, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "map ffiniau A" ("boundary map A") yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio "Map A Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr "map ffiniau B" ("boundary map B") yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio "Map B Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr "Powys" ("Powys") yw Sir Powys; ac
ystyr "y Rheoliadau" ("the Regulations") yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976[3].
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau
3.
- (1) Caiff y rhan o gymuned Llanbister sydd ym Mhowys ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.
(2) Caiff y rhan o Bowys sydd yng nghymuned Abaty Cwm-hir ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Sue Essex
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
28 Tachwedd 2003
Click here to view image 1 of 2
Click here to view image 2 of 2
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw:
(i) y bydd yr ardaloedd hynny yng nghymuned Llanbister ym Mhowys yng nghyffiniau gerllaw Fron a Sign (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yn dod yn rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys; a
(ii) y bydd ardal yng nghymuned Abaty Cwm-hir ym Mhowys yng nghyffiniau Porth, Porth Bungalow, Brynrhyg a Croft yr Onen (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yn dod yn rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.
Cafodd printiau o'r map ffiniau eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys yn Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys a swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) ("Rheoliadau 1976") y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a'u gweithredu.
Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 1998 at gymunedau Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.
Notes:
[1]
1972 (p.70).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan amryw offerynnau statudol. Nid yw'r diwygiadau hynny yn berthnasol i'r offeryn statudol hwn.back
English version
ISBN
0 11090849 X
|