BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003 Rhif 3134 (Cy.300)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033134w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3134 (Cy.300)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003

  Wedi'i wneud 28 Tachwedd 2003 
  Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Gan bod Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Ebrill 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] ar adolygiad a gyflawnwyd gan Gyngor Sir Ddinbych ar y ffiniau rhwng cymunedau Dyserth, Prestatyn, Rhuddlan a'r Rhyl yn Sir Ddinbych ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdanynt;

     a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn;

     a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

     mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2] yn awr yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - 

Enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004 sef y diwrnod penodedig ("appointed day") at ddibenion y Rheoliadau, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau
     3.  - (1) Mae'r rhannau hynny o gymuned Rhuddlan sydd yn Sir Ddinbych ac a ddangosir â llinellau croes du ar fapiau ffiniau A a B yn cael eu gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned y Rhyl.

    (2) Mae'r rhan honno o gymuned Dyserth sydd yn Sir Ddinbych ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Prestatyn.

    (3) Mae'r rhan o gymuned Rhuddlan sydd yn Sir Ddinbych ac a ddangosir wedi'i arlliwio'n ddu ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Prestatyn.

Newidiadau i Wardiau
    
4.  - (1) Estynir ward y De o gymuned y Rhyl i gynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau croes du ar fap ffiniau A.

    (2) Estynir ward y De Ddwyrain o gymuned y Rhyl i gynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau croes du ar fap ffiniau B

    (3) Estynir ward y De Orllewin o gymuned Prestatyn i gynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau croes du a'r ardal a ddangosir wedi'i arlliwio'n ddu ar fap B.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Sue Essex
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

28 Tachwedd 2003








Click here to view map


Click here to view map


EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw:

Mae printiau o'r map ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Dinbych yn Swyddfeydd y Cyngor, Rhuthun ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn darparu bod wardiau De a De Ddwyrain cymuned y Rhyl a ward De Orllewin Cymuned Prestatyn, y cyfeirir atynt yng Ngorchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 1998 ("Gorchymyn 1998"), yn cael eu hestyn fel bod eu ffiniau yn cyd-redeg â ffiniau'r cymunedau fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) ("Rheoliadau 1976") y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithrediad gorchmynion megis y gorchymyn hwn.

Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn 1998 at gymunedau Rhuddlan a Dyserth fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1972 (p.70).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan amryw offerynnau statudol. Nid yw'r diwygiadau hynny yn berthnasol i'r offeryn statudol hwn.back



English version



ISBN 0 11090848 1


 
© Crown copyright 2003
Prepared 20 January 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033134w.html