[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 Rhif 3227 (Cy.308) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033227w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 9 Rhagfyr 2003 | ||
Yn dod i rym | 9 Ionawr 2004 |
(2) Mae unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod y cyfnod rhwng sesiwn y bore a sesiwn y prynhawn mewn ysgol at ddibenion y Rheoliadau hyn i'w cymryd yn gyfystyr â chwarter diwrnod ysgol.
Per pennaeth i wahardd disgyblion
3.
Ni chaiff pennaeth arfer ei ber o dan adran 52(1) o Ddeddf 2002 er mwyn gwahardd disgybl o'r ysgol am gyfnod neu gyfnodau penodedig, os bydd hynny'n golygu y byddai'r plentyn yn cael ei wahardd am fwy na 45 diwrnod ysgol mewn unrhyw flwyddyn ysgol unigol.
Gwahardd disgyblion: y ddyletswydd i hysbysu'r person perthnasol, y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol
4.
- (1) Os bydd pennaeth ysgol a gynhelir yn gwahardd unrhyw ddisgybl, rhaid i'r pennaeth gymryd camau rhesymol yn ddi-oed i hysbysu'r person perthnasol o'r materion canlynol -
(2) Os yw'r pennaeth yn penderfynu y dylai unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig gael ei wneud yn waharddiad parhaol, rhaid iddo yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol -
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys os bydd y pennaeth -
(b) yn gwahardd disgybl yn barhaol, neu
(c) yn penderfynu y dylai unrhyw waharddiad ar ddisgybl gael ei wneud yn barhaol.
(4) Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r pennaeth hysbysu'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu yn ddi-oed o'r materion canlynol -
ac (yn y naill achos a'r llall) y rhesymau drosto.
(5) Ym mhob tymor rhaid i'r pennaeth hysbysu'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu o unrhyw waharddiadau na ddônt o fewn paragraff (3) ac yn achos pob gwaharddiad o'r fath rhaid iddo ddarparu manylion am gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.
Gwahardd disgyblion: darparu gwybodaeth i'r awdurdod addysg lleol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru
5.
- (1) Yn ystod pob tymor rhaid i'r corff llywodraethu ddarparu'r wybodaeth ganlynol am bob gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol -
(2) Rhaid i awdurdod addysg lleol ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, os bydd yn gofyn amdani, unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod hwnnw wedi'i chael oddi wrth bennaeth o dan reoliad 4(4) neu (5) neu oddi wrth gorff llywodraethu o dan reoliad 5(1).
Swyddogaethau'r corff llywodraethu mewn perthynas â disgyblion sydd wedi'u gwahardd
6.
- (1) Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys os hysbysir corff llywodraethu ysgol a gynhelir o dan reoliad 4(4) -
(ch) o wahardd unrhyw ddisgybl os byddai'r disgybl yn sgil y gwaharddiad wedi'i wahardd o'r ysgol am gyfanswm o fwy na 5 diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol a bod y person perthnasol yn mynegi dymuniad i roi sylwadau yn unol â rheoliad 4(1)(c).
(2) Ym mhob achos o'r fath rhaid i'r corff llywodraethu -
(c) cynnull cyfarfod a chaniatáu i'r canlynol, sef -
i fynd i'r cyfarfod hwnnw a rhoi sylwadau llafar am y gwaharddiad; ac
(ch) ystyried unrhyw sylwadau llafar sy'n cael eu rhoi felly.
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu ystyried a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio, ac os yw'n ystyried y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo'n ychwanegol ystyried a ddylid ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu a ddylid ei dderbyn yn ôl erbyn ddyddiad penodol.
(4) Os bydd y corff llywodraethu'n penderfynu na ddylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed -
(5) Rhaid i'r pennaeth gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan y corff llywodraethu i dderbyn disgybl a gafodd ei wahardd yn ôl i'r ysgol.
(6) Os bydd y corff llywodraethu'n penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed -
(7) Os digwydd y canlynol -
rhaid iddynt ystyried y sylwadau hynny.
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r corff llywodraethu gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) -
ar ôl y dyddiad yr hysbyswyd ef o'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(4).
(9) Os yw disgybl wedi'i wahardd mewn amgylchiadau lle byddai, yn sgil y gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, rhaid i'r corff llywodraethu (i'r graddau y mae'n ymarferol iddo wneud hynny) gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) cyn y dyddiad y mae'r disgybl i sefyll yr arholiad a beth bynnag dim hwyrach na'r hyn sy'n ofynnol gan baragraff (8).
(10) Nid yw'r corff llywodraethu i gael ei ryddhau o'r ddyletswydd i gymryd unrhyw gam y cyfeirir ato ym mharagraff (2) am na chafodd ei gymryd o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraffau (8) a (9).
(11) Ceir rhoi'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b) naill ai -
Apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol
7.
- (1) Rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i alluogi'r person perthnasol i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan y corff llywodraethu o dan reoliad 5 i beidio â derbyn disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol yn ôl i ysgol a gynhelir gan yr awdurdod.
(2) Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â gwneud a gwrando ar apelau yn unol â'r trefniadau a wnaed o dan baragraff (1); ac ym mharagraffau (3) i (5) ystyr "panel apêl" yw panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen.
(3) Nid yw panel apêl i benderfynu bod disgybl i'w dderbyn yn ôl i'r ysgol ddim ond oherwydd methiant i gydymffurfio ag unrhyw ofynion gweithdrefnol a osodwyd gan neu o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r canlynol -
(4) Bydd penderfyniad panel apêl ar apêl yn unol â threfniadau a wnaed o dan baragraff (1) yn rhwymol ar y person perthnasol, y corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod addysg lleol.
(5) Ar apêl o'r fath caiff y panel apêl -
Gwahardd disgyblion: canllawiau
8.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw rai o swyddogaethau -
o dan adran 52(1) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth o'r fath, rhaid i'r cyfryw berson neu gorff roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Diwygiadau Canlyniadol
9.
- (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999[6] fel a ganlyn -
(2) Diwygir Rheoliad 9(4)(d) o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion)1995[7] fel a ganlyn -
Diwygio Rheoliadau 1999
10.
- (1) Diwygir Rheoliad 1(2) o Reoliadau 1999 drwy -
(2) Ar ôl y geiriau "local schools budget" yn y diffiniad o B yn rheoliad 2 o Reoliadau 1999 mewnosodir -
(3) Ar ôl rheoliad 4(b) o Reoliadau 1999 mewnosodir -
Dirymu
11.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae Rheoliadau Addysg (Aelodau Lleyg Pwyllgorau Apêl) 1994[8] (i'r graddau na ddirymwyd hwy eisoes), Rheoliadau Addysg (Gwaharddiadau o'r Ysgol) (Cyfnodau a Ragnodwyd) 1999[9] a Rheoliadau Addysg (Gwaharddiadau o'r Ysgol) (Cyfnodau a Ragnodwyd) (Diwygio) (Cymru) 2000[10] drwy hyn yn cael eu dirymu.
(2) Mae'r rheoliadau a ddirymir gan baragraff (1) i barhau'n effeithiol mewn perthynas ag unrhyw waharddiad y mae adrannau 64 i 68 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 18 iddi[11]) yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 7 o Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Rhif 2) (Cymru) 2003[12] (disgyblion sydd wedi'u gwahardd cyn 9 Ionawr 2004).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[13]).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003
oni ddangosir i'r gwrthwyneb yn y naill achos neu'r llall.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), mae unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y person perthnasol i'r awdurdod addysg lleol, sy'n datgan nad yw'n bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â derbyn y disgybl yn ôl, yn derfynol.
(4) Os yw'r person perthnasol yn ddisgybl o oedran ysgol gorfodol ac yntau'n 11 oed neu'n hn ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd ac yn un o'i rieni, bydd hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan is-baragraff (3) gan riant yn cael ei drin fel hysbysiad terfynol p'un a yw'r disgybl wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r fath neu beidio.
Cyfansoddiad y panelau apêl
2.
- (1) Mae panel apêl yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod addysg lleol o dan reoliad 7(1) i fod yn banel apêl a ffurfiwyd yn unol â'r paragraff hwn.
(2) Mae panel apêl i fod yn banel a ffurfiwyd o dri neu bum aelod a benodwyd gan yr awdurdod addysg lleol o blith y canlynol -
(3) Allan o aelodau panel apêl -
(4) At ddibenion y paragraff hwn a pharagraff 4 mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw'n berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swyddogaeth wirfoddol arall).
(5) Caiff yr awdurdod addysg lleol benodi digon o bobl o dan y paragraff hwn i alluogi dau banel apêl neu fwy i eistedd ar yr un pryd.
(6) Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os cafodd ei ddatgymhwyso yn rhinwedd is-baragraff (7).
(7) Datgymhwysir y bobl a ganlyn rhag bod yn aelodau panel apêl -
o fath y gellid yn rhesymol gymryd y byddai'n codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd.
(8) Nid yw person a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol fel pennaeth neu athro neu athrawes i'w gymryd, o achos y gyflogaeth honno yn unig, fel un a chanddo gysylltiad o'r fath â'r awdurdod a grybwyllir yn is-baragraff (7)(ch).
(9) Os bydd unrhyw aelod, ar unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sy'n cynnwys pum aelod ddechrau ystyried apêl, -
caiff y panel barhau i ystyried a phenderfynu'r apêl ar yr amod nad yw nifer gweddill yr aelodau yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (3)(a) yn cael eu bodloni.
(10) Rhaid i banel apêl gael ei gadeirio gan y person a benodwyd yn aelod lleyg.
Lwfansau i aelodau
3.
- (1) At ddibenion talu lwfansau colled ariannol o dan adran 173(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[14] mae'r ddarpariaeth honno i fod yn gymwys i unrhyw aelod o'r panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2; ac yn yr adran honno, fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at ddyletswydd wedi'i chymeradwyo i'w ddarllen fel cyfeiriad at bresenoldeb mewn cyfarfod o'r panel apêl.
(2) Mae adran 174(1) o'r Ddeddf honno i fod yn gymwys mewn perthynas â phanel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 ac yn yr adran honno, fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at daliadau yn ôl y graddau y penderfynir arnynt gan y corff o dan sylw i'w ddarllen fel cyfeiriad at daliadau yn ôl y graddau y penderfynir arnynt gan yr awdurdod addysg lleol.
Dyletswydd i hysbysebu am aelodau lleyg
4.
- (1) Rhaid i unrhyw awdurdod addysg lleol y mae'n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan reoliad 7(1), yn ôl y cyfnodau a bennir yn is-baragraff (2), sicrhau cyhoeddi hysbyseb ar gyfer aelodau lleyg o'r panel apêl a ffurfiwyd gan yr awdurdod hwnnw.
(2) Rhaid cyhoeddi hysbyseb cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau pan ddyroddwyd yr hysbyseb ddiwethaf o dan Reoliadau Addysg (Aelodau Lleyg Pwyllgorau Apêl) 1994[15] ac wedyn bob tair blynedd yn dilyn y dyddiad pan gyhoeddwyd hysbyseb ddiwethaf (neu pan gyhoeddwyd hysbyseb olaf cyfres o hysbysebion) yn unol â'r paragraff hwn.
(3) Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) -
(4) Cyn penodi unrhyw aelod lleyg rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried unrhyw bobl sy'n gymwys i gael eu penodi sydd wedi cyflwyno cais i'r awdurdod wrth ymateb i'r hysbyseb ddiweddaraf neu i gyfres o hysbysebion a osodwyd yn unol â'r paragraff hwn yn nodi eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer penodiad o'r fath.
Indemniad
5.
Rhaid i unrhyw awdurdod addysg lleol y mae'n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan reoliad 7(1) indemnio aelodau unrhyw banel apêl y mae'n ofynnol ei ffurfio at ddibenion y trefniadau hynny yn erbyn unrhyw gostau cyfreithiol rhesymol a threuliau a wariwyd yn rhesymol gan yr aelodau hynny mewn cysylltiad ag unrhyw benderfyniad neu gamau a wnaethant yn ddidwyll yn unol â'u swyddogaethau fel aelodau o'r panel hwnnw.
Y weithdrefn ar apêl
6.
Yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon, ystyr "apêl" yw apêl o dan reoliad 7(1) ac ystyr "y dyddiad cau ar gyfer apelau" yw'r pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan adneuir yr apêl.
7.
Rhaid i apêl fod ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r seiliau dros ei gwneud.
8.
- (1) Rhaid i'r panel apêl gyfarfod i ystyried apêl ar ddyddiad y caiff yr awdurdod addysg lleol ei benderfynu.
(2) Rhaid i'r dyddiad a bennir beidio â bod yn hwyrach na'r dyddiad cau ar gyfer apelau.
9.
- (1) At ddibenion pennu'r amser (yn unol â pharagraff 8) y mae gwrandawiad apêl i ddigwydd, rhaid i'r awdurdod addysg lleol gymryd camau rhesymol i ganfod unrhyw amserau sy'n digwydd ar neu cyn y dyddiad cau ar gyfer apelau pan na fyddai -
yn gallu bod yn bresennol.
(2) Pan fydd yr awdurdod addysg lleol yn unol ag is-baragraff (1) wedi canfod unrhyw amserau o'r fath yn achos unrhyw berson o'r fath, rhaid iddo, wrth bennu amser y gwrandawiad, ystyried yr amserau hynny er mwyn sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, fod y person hwnnw'n gallu ymddangos a rhoi ei sylwadau yn y gwrandawiad.
10.
- (1) Rhaid i'r panel apêl ganiatáu i'r person perthnasol a'r disgybl sydd wedi'i wahardd, os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, roi sylwadau ysgrifenedig, ymddangos a rhoi sylwadau llafar, ac i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad neu gael cwmni ffrind.
(2) Rhaid i'r panel hefyd ganiatáu -
(3) Caiff y panel apêl o dro i dro ohirio'r gwrandawiad.
11.
Rhaid gwrando ar yr apelau mewn preifatrwydd; ond -
12.
Ceir cyfuno dwy apêl neu fwy ac ymdrin â hwy yn yr un gweithrediadau os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwyluso'r gwaith oherwydd yr un yw'r materion a godir yn yr apelau neu eu bod yn gysylltiedig.
13.
Os bydd anghytundeb rhwng aelodau panel apêl, mae'r apêl o dan ystyriaeth i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwrir, ac yn achos nifer cyfartal o bleidleisiau, mae cadeirydd y panel i gael ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
14.
Rhaid rhoi gwybod am benderfyniad panel apêl a'r seiliau dros ei wneud -
15.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau 7 i 14, rhaid i bob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio gael eu penderfynu gan yr awdurdod addysg lleol.
(2) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol wrth osod unrhyw derfynau amser mewn cysylltiad ag apelau, roi sylw i ba mor ddymunol yw sicrhau bod apelau yn cael eu cwblhau yn ddi-oed.
16.
Ym mharagraff 1(2) a 14 ystyr "diwrnod gwaith" yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sydd yn wyl banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971[16].
[2] 1992 p.53, fel y'i diwygiwyd gan baragraff 22 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.back
[7] O.S. 1995/2089; offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2802.back
[10] O.S. 2000/3026 (Cy. 194).back
[12] O.S. 2003/2959 (Cy. 277).back
© Crown copyright 2003 | Prepared 18 December 2003 |