BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003 Rhif 3233 (Cy.313)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033233w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3233 (Cy.313)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Rhagfyr 2003 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2004 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(5) fel y'i cymhwysir i ysgolion annibynnol, a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1], ac a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Cymhwyso'r Rheoliadau hyn
    
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn mewn cysylltiad â  - 

Gweithdrefn gwneud cais
    
4.  - (1) Er mwyn i ysgol annibynnol gael ei dynodi yn ysgol grefyddol ei chymeriad, rhaid i berchennog yr ysgol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am orchymyn o dan adran 69(3).

    (2) Rhaid i'r cais  - 

    (3) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael cais am orchymyn, o dan y Rheoliadau hyn, caiff ymgynghori ag unrhyw gorff crefyddol y mae'n ei farnu'n briodol ynghylch cais yr ysgol.

Gweithdrefn ddynodi
    
5.  - (1) Os bydd perchennog ysgol yn gwneud cais am orchymyn o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddynodi'r ysgol yn ysgol grefyddol ei chymeriad os  - 

    (2) Os yw perchennog ysgol yn gwenud cais am orchymyn yn unol â'r Rheoliadau yma, ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys, mi all y Cynulliad Cenedlaethol serch hynny ddynodi ysgol sydd â chymeriad crefyddol os yw yn ei ystyried yn addas i wneud hynny, gan ystyried y canlynol - 

    (3) At ddibenion y rheoliad hwn nid yw unrhyw gyfeiriad at addysg mewn ysgol yn cael ei darparu yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl addysg gael ei gwneud yn unol â'r daliadau crefyddol hynny.

Newidiadau mewn dynodiadau a datganiadau
    
6.  - (1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg o'r farn bod gorchymyn a wnaed yn flaenorol o dan adran 69(3) yn cynnwys camgymeriad perthnasol, neu y methyd yn anghywir i ddynodi unrhyw ysgol; mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud pa bynnag orchymyn o dan yr adran honno y mae'n ystyried yn briodol at ddibenion cywiro'r camgymeriad.

    (2) Cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) sydd yn effeithio dynodiad ysgol arbennig neu'r datganiad o grefydd priodol neu enwad crefyddol mewn perthynas â ysgol arbennig, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori gyda pherchennog yr ysgol honno, a gall ymgynghori gydag unrhyw gorff crefyddol y mae'n ystyried yn briodol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Rhagfyr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn gorchymyn o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel y'i cymhwysir i ysgolion annibynnol erbyn adran 124B, a fewnosodwyd i fewn i Ddeddf Safonnau a Fframwaith Ysgolion 1998 gan Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyflogaeth Athrawon Mewn Ysgolion gyda Chymeriad Crefyddol) 2003 yn dynodi ysgol annibynnol yn ysgol grefyddol ei chymeriad. Mae adran 124B(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn darparu bod rhaid i orchymyn o dan adran 69(3) ddatgan y crefydd neu'r enwad crefyddol y darperir yr addysg neu y rheolir yr ysgol yn unol â'i daliadau.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i berchennog ysgol annibynnol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am orchymyn o dan adran 69(3) ac mae'n dangos beth y mae'n rhaid ei gynnwys yn y cais hwnnw. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori ag unrhyw gorff crefyddol y mae'n barnu ei fod yn briodol ynghylch cais yr ysgol.

Mae rheoliad 5(1) yn nodi'r amgylchiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud gorchymyn sy'n dynodi ysgol annibynnol yn ysgol grefyddol ei chymeriad. Mae rheoliad 5(2) yn nodi'r amgylchiadau sy'n caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud gorchymyn sy'n dynodi'r ysgol annibynnol yn ysgol o gymeriad crefyddol.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddiwygio gorchymyn dynodi mewn perthynas ag ysgol os yw'n fodlon ei fod yn sylweddol anghywir a phryd y mae'n rhaid iddo ymgynghori â pherchennog yr ysgol ynghylch y gwaith diwygio hwnnw.

Nid yw datganiad bod enwad crefyddol ysgol yn Gatholig Rhufeinig yn penderfynu a yw'r ysgol honno yn Ysgol Gatholig yn ôl cyfraith ganonig.


Notes:

[1] 1998 p.31; mewnosodwyd adran 124B gan Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyflogaeth Athrawon Mewn Ysgolion gyda Chymeriad Crefyddol) 2003 (O.S. 2003/2037).back

[2] O.S. 1999/672.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090839 2


 
© Crown copyright 2003
Prepared 17 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033233w.html