BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003 Rhif 3235 (Cy.315)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033235w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3235 (Cy.315)

BYWYD GWYLLT, CYMRU

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Rhagfyr 2003 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 7(1) a (2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn gyfeiriad at unrhyw aderyn sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 4 i'r Ddeddf ac y mae unrhyw berson yn ei gadw, yn meddu arno neu'n ei reoli.

Cofrestru
     3.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf, gadw cofrestr o adar y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt ac sy'n cael eu cadw mewn cyfeiriadau yng Nghymru.

    (2) Rhaid i gais am gofrestriad gael ei wneud gan geidwad, neu ddarpar geidwad, yr aderyn y mae'r cais yn ymwneud ag ef ar ffurflen a gafwyd oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Pan fydd yn cael cais am gofrestriad, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), nodi'r wybodaeth berthnasol ar y gofrestr.

    (4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â chofrestru unrhyw aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo oni bai ei fod wedi'i fodloni bod yr aderyn wedi'i fodrwyo neu wedi'i farcio yn unol â rheoliad 5.

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dâl rhesymol am gofrestru y mae wedi penderfynu arno o dan adran 7(2A) o'r Ddeddf fynd gyda chais a chaiff wrthod gwneud cofnod yn y gofrestr ar gyfer cais nes bod y tâl hwnnw wedi'i dalu.

    (6) Os bydd ceidwad cofrestredig aderyn yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig fod yr aderyn i beidio â chael ei gadw yn y cyfeiriad cofrestredig, gan ddatgan y dyddiad y mae hynny i fod i ddigwydd a chan nodi cyfeiriad arall yng Nghymru y mae'r aderyn i'w gadw ynddo ar ôl y dyddiad hwnnw, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar yr amod bod hysbysiad yn dod i law cyn y dyddiad hwnnw, newid y cyfeiriad cofrestredig felly o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

Terfynu cofrestriad
    
4.  - (1) Mae effaith cofrestriad yn peidio  - 

    (2) Yn rheoliad 3(6) ac ym mharagraff (1)(c) ac (ch) uchod, ystyr "ceidwad cofrestredig" mewn perthynas ag aderyn cofrestredig yw'r person sydd wedi'i gofrestru fel ceidwad aderyn yn y gofrestr a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 3(1), ac ystyr "cyfeiriad cofrestredig" yw'r cyfeiriad sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr honno fel y cyfeiriad lle mae'r yr aderyn yn cael ei gadw.

Modrwyo a marcio
    
5.  - (1) Rhaid i bob aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo gael ei fodrwyo yn unol â pharagraff (2) neu ei farcio yn unol â pharagraff (3).

    (2) Mae aderyn wedi'i fodrwyo yn unol â'r paragraff hwn  - 

    (3) Mae aderyn wedi'i farcio yn unol â'r paragraff hwn os yw'r aderyn wedi'i farcio yn unol â'r gofynion ynghylch marcio sbesimenau mewn Rheoliadau Ewropeaidd sy'n gweithredu paragraff 7 o Erthygl VI o CITES.

Dirymu a darpariaethau trosiannol
    
6.  - (1) Dirymir drwy hyn Reoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru a Modrwyo Adar Caeth Penodol) 1982[4], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

    (2) Os  - 

mae'r camau hynny i'w trin, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel petaent wedi'u cymryd o dan y Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 7(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ("y Ddeddf") yn darparu bod person sy'n cadw, neu'n meddu ar neu sydd â rheolaeth dros, unrhyw aderyn sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 4 o'r Ddeddf, nad yw wedi'i gofrestru ac nad yw wedi'i fodrwyo na'i farcio yn unol â rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno, yn euog o dramgwydd.

Mae'r pwcircer i wneud rheoliadau o dan adran 7(1) o'r Ddeddf mewn perthynas â Chymru wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol").

Mae Atodlen 4 i'r Ddeddf wedi'i diwygio gan Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) 1994 (O.S. 1994/1151).

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r gofynion sy'n gymwys i Gymru o ran cofrestru, modrwyo a marcio at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru a Modrwyo Adar Caeth Penodol) 1982 (O.S. 1982/1221) i'r graddau y mae'r Rheoliadau hynny yn gymwys i Gymru.

Mae Rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw cofrestr o adar at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf. Mae'n darparu hefyd bod rhaid i geidwad, neu ddarpar geidwad, unrhyw aderyn sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 4 i'r Ddeddf wneud cais am gofrestriad ar ffurflen a geir oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol. Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol gofrestru'r aderyn oni chaiff ei fodloni bod yr aderyn wedi'i fodrwyo neu wedi'i farcio yn unol â rheoliad 5.

Mae Rheoliad 4 yn nodi'r amgylchiadau sy'n peri bod cofrestriad yn cael ei derfynu.

Mae Rheoliad 5 yn darparu ar gyfer modrwyo neu farcio adar y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt.

Mae Rheoliad 5(2) yn darparu bod rhaid modrwyo aderyn â modrwy a geir oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, a bod rhaid i'r person sy'n gwneud y modrwyo lenwi datganiad modrwyo a'i ddychwelyd i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Rheoliad 5(3) yn darparu dull amgen y caniateir ei ddefnyddio, sef marcio aderyn yn unol â'r Rheoliadau Ewropeaidd sy'n gweithredu gofynion paragraff 7 o Erthygl VI o'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl ("CITES"). Y Rheoliad Ewropeaidd sydd ar hyn o bryd yn gweithredu'r ddarpariaeth berthnasol yn CITES yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1808/2001 dyddiedig 30 Awst 2001 sy'n gosod rheolau manwl ynglycircn â gweithredu Rheoliad y Cyngor 338/97 ar warchod rhywogaethau ffawna a fflora gwyllt drwy reoleiddio'r fasnach ynddynt (OJ L 250/1, 19.9.2001).

Mae Rheoliad 6 yn dirymu Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru a Modrwyo Adar Caeth Penodol) 1982 ("Rheoliadau 1982") mewn perthynas â Chymru. Mae'n gwneud darpariaethau trosiannol hefyd, sy'n darparu, os bydd camau wedi'u cymryd gan unrhyw berson, cyn i Reoliadau 1982 gael eu dirymu, o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hynny sy'n cael ei hailddeddfu yn y Rheoliadau hyn, mae'r camau hynny i'w trin fel petaent wedi'u cymryd o dan y Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] 1981 p.69.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back

[3] Fe'i llofnodwyd yn Washington ar 3 Mawrth 1973.back

[4] O.S. 1982/1221, a ddiwygiwyd gan O.S. 1991/478 ac O.S. 1994/ 1152.back

[5] Yn rhinwedd O.S. 1999/672.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090830 9


 
© Crown copyright 2003
Prepared 16 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033235w.html