BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 Rhif 3237 (Cy.317)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033237w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3237 (Cy.317)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Rhagfyr 2003 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(1), (2) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

    (3) Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003[
3].

Dehongli
     2. Yn y Rheoliadau hyn - 

Ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol yn darparu gwybodaeth i'w hawdurdodau addysg lleol
     3. O fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais yn ysgrifenedig gan yr awdurdod addysg lleol y cynhelir ysgol ganddo, rhaid i'r corff llywodraethu roi i'r awdurdod y cyfryw wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ag y gofynnir amdani.

Personau Rhagnodedig
    
4.  - (1) At ddibenion adran 537A(4) o Ddeddf 1996, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhagnodi'r personau canlynol fel personau y caiff ddarparu gwybodaeth am ddisgyblion unigol iddynt - 

    (2) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) uchod yw  - 

    (3) Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol at y diben hwnnw.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003



YR ATODLEN
Rheoliad 3


DARPARU GWYBODAETH AM DDISGYBLION UNIGOL




RHAN 1

Pob Disgybl
     1. Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl  - 

     2. Cod post y cartref lle mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.

     3. A yw'r wybodaeth am grwcircp ethnig y disgybl a ddarparwyd yn rhinwedd yr Atodlen hon yn cael ei darparu gan  - 

     4. Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.

     5. A yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref ac, os felly, gyda phwy.

     6. A yw'r disgybl yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith.

     7. A gafodd yr wybodaeth am lefel rhugledd y disgybl yn y Gymraeg a faint o Gymraeg y mae'r disgybl yn ei siarad gartref a ddarparwyd yn rhinwedd y Rhan hon ei darparu gan  - 

     8. A yw'r disgybl yn astudio unrhyw bwnc, heblaw'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, drwy gyfrwng y Gymraeg.

     9. A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996[
10], wedi gwneud cais ac wedi'i gael yn gymwys i gael prydau am ddim yn yr ysgol.

     10. A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(1) a 512ZB o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais ac wedi'i gael yn gymwys am laeth am ddim yn yr ysgol.

     11. A oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarhnad o  - 

     12. Lle mae'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, y ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.

     13. A yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, wedi bod yn blentyn sy'n derbyn gofal yr awdurdod lleol tra bu ar Gofrestr yr ysgol, ac, os felly, enw'r awdurdod lleol yr oedd y disgybl yn derbyn gofal ganddo yn fwyaf diweddar.

     14. Yn achos ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty a yw'r disgybl yn byrddio yn yr ysgol ac os felly, a yw'r disgybl yn byrddio am saith noson yr wythnos neu am lai na saith noson yr wythnos.

     15. A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol neu fwy nag un ysgol, a lle mae'r disgybl wedi'i gofrestru fel disgybl mewn mwy nag un ysgol, a yw'r wybodaeth yn cael ei llunio gan yr ysgol y mae'r disgybl yn mynd iddi am y rhan fwyaf o'i amser.

     16. A yw'r disgybl yn ddisgybl rhan-amser, ac at ddibenion y paragraff hwn, ystyr "rhan-amser" yw bod y disgybl yn mynychu llai na deg sesiwn ysgol mewn unrhyw wythnos pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.

     17. Yn achos ysgol nad yw'n ysgol arbennig, a yw'r disgybl yn cael addysg  - 



RHAN 2

Disgyblion Chweched Dosbarth
     1. Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl chweched dosbarth yn yr ysgol  - 

     2. Mewn perthynas â phob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disbygl yn ei astudio  - 



RHAN 3

Disgyblion sydd wedi'u Gwahardd
     1. Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol o'r ysgol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd parhaol yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth arno  - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Os bydd awdurdod addysg lleol yn anfon cais ysgrifenedig at gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, mae'r Rheoliadu hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu roi gwybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen mewn perthynas â disgyblion yn yr ysgol i'r awdurdod. Rhaid i'r corff lywodraethu roi'r gwybodaeth i'r awdurdod o fewn pedwar diwrnod ar ddeg.

Mae Rheoliad 4 yn rhagnodi yn ogystal i ba bersonau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi gwybodaeth am ddisgyblion unigol o dan adran 537A(4) o Ddeddf Addysg 1996.


Notes:

[1] 1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.44), adran 20, ac fe'i disodlwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (1998 p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2003/2453 (Cy.237).back

[4] O.S. 1995/2089.back

[5] 2000 p.21.back

[6] 1989 p.41.back

[7] Amnewidiwyd adran 337 gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 80.back

[8] 1973 p.50. Amnewidiwyd Adran 2 gan adran 25(1) o Ddeddf Cyflogaeth 1988 ac amnewidiwyd adrannau 8, 9 a 10 gan adran 45 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19).back

[9] 1998 p.38.back

[10] Amnewidiwyd adrannau 512 a 512ZB, ynghyd ag adran 512ZA, gan adran 512 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), adran 201(1).back

[11] ISBN 0 7504 27574.back



English version



ISBN 0 11 090838 4


 
© Crown copyright 2003
Prepared 17 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033237w.html