BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunudd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 3238 (Cy.318)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033238w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3238 (Cy.318)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunudd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Rhagfyr 2003 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 93, 94 a 95 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[1] ("y Ddeddf"), ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2], er mwyn gweithredu Erthygl 6(1) o Gyfarwyddeb 94/62/EC[3], ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 93(2) o'r Ddeddf, ac ar ôl rhoi sylw i'r materion a bennir yn 93(6) o'r Ddeddf, fel sy'n ofynnol o dan adran 93(5), a'r materion a bennir yn adran 94(5), ac yn unol â'i ddyletswydd o dan adran 93(7), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1997" ("the 1997 Regulations") yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997[4]).

Diwygio Rheoliadau 1997
     3. Mae Rheoliadau 1997 yn cael eu diwygio, mewn perthynas â Chymru, yn unol â'r Atodlen.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003



ATODLEN
Rheoliad 3

Amendment of Part I (General)
     1.  - (1) In regulation 2(1) - 

    (2) In regulation 2(2)(a) for "undertaking" substitute "condition".

    (3) In regulation 2(3)(a) for "17(3), 31(5) and (10)" substitute "and 17(3)".

Amendment of Part II (Producers and Obligations)
     2.  - (1) In regulation 3 - 

    (2) In regulation 4 omit paragraph (4).

Amendment of Part III (Registration)
     3.  - (1) In regulation 5 omit "4(3) and (4),".

    (2) In regulation 6 - 

    (3) For regulation 7 substitute - 

    (4) Omit regulation 8.

    (5) In regulation 9, for paragraph (2) substitute - 

    (6) In regulation 11 - 

    (7) In regulation 12 - 

    (8) In regulation 13 - 

    (9) Omit regulation 14.

    (10) For regulation 15(2) substitute - 

    (11) In regulation 17(1) - 

    (12) Insert after regulation 17 - 

Amendment of Part IV (Registration of Schemes  -  Appeals)
     4.  - (1) For the heading to Part IV substitute "Appeals".

    (2) For regulation 18 substitute - 

    (3) In regulation 19(2) - 

    (4) In regulation 21, for "regulation 17(1), the decision to cancel registration" substitute "regulations 11(1), 17(1) or 21D, the decision appealed against".

Insertion of new Part IVA (Accreditation of Reprocessors and Exporters)
     5. After regulation 21 insert  - 



Amendment of Part V (Records, Returns and Certificate)
     6.  - (1) In regulation 22 - 

    (2) In regulation 24 - 

Amendment of Part VI (Agencies' Powers and Duties)
     7.  - (1) In regulation 25 - 

    (2) In regulation 25A - 

    (3) For paragraph (1) of regulation 26 substitute  - 

    (4) In regulation 27 after "compliance" insert "and signing the form referred to in regulation 6(4)(c) or 17A(2) (as the case may be)".

    (5) In regulation 28 - 

Amendment of Part X (Offences)
     8. In regulation 34 - 

Amendment of Schedule 1 (Producers)
     9. In Schedule 1 - 

Amendment of Schedule 2 (Recovery and Recycling Obligations)
     10. In Schedule 2 - 


Insertion of new Schedule 2A (Conditions of Accreditation)
     11. After Schedule 2 insert - 



Amendment of Schedule 3 ( Definitions of Waste, Recovery and Special Producers )
     12.  - (1) In the shoulder note to Schedule 3 for "Regulations 2, 4(4)" substitute "Regulation 2(1)".

    (2) For the list R1 to R13 in paragraph 2 of Schedule 3 substitute - 

R1 Use of waste principally as a fuel or for other means of generating energy;
R2 Reclamation or regeneration of solvents;
R3 Recycling or reclamation of organic substances which are not used as solvents, including composting and other biological transformation processes;
R4 Recycling or reclamation of metals and metal compounds;
R5 Recycling or reclamation of other inorganic materials;
R6 Regeneration of acids or bases;
R7 Recovery of components used for pollution abatement;
R8 Recovery of components from catalysts;
R9 Re-refining, or other reuses, of oil which is waste;
R10 Land treatment resulting in benefit to agriculture or ecological improvement;
R11 Use of wastes obtained from any of the operations listed as R1 to R10 in this paragraph;
R12 Exchange of wastes for submission to any of the operations listed as R1 to 11 in this paragraph;
R13 Storage of waste pending any of the operations listed in this paragraph, but excluding temporary storage, pending collection, on the site where it is produced".


    (3) Omit Parts III, IV and V of Schedule 3.

Amendment of Schedule 4 (Information)
     13. In Part IV of Schedule 4 - 

Amendment of Schedule 5 (Procedure on appeals)
     14.  - (1) Schedule 5 is amended as follows.

    (2) In paragraph 1 - 

    (3) In paragraph 2(1) of Schedule 5 for "6 months" substitute "2 months".

Amendment of Schedule 6 (Information in certificate of compliance)
     15.  - (1) In paragraph (d) of Schedule 6 omit ",and regulation 8" and for "undertakings" substitute "conditions".

    (2) Insert after paragraph (f) of Schedule 6 - 

Substitution of Schedule 7 (Public Register)
     16. For Schedule 7 substitute - 



Amendment of Schedule 9 (Mid-year Changes)
     17. In paragraph 16(a) of Schedule 9 for "each holding company shall comply with the requirements of a proportion of the company's recovery and recycling obligations, such proportion being calculated as provided in paragraph 17(2) below" substitute "the first group shall comply with the requirements of the company's recovery and recycling obligations for the year in which the company ceases to be a member of that group and the second group shall comply with those requirements in the following and any subsequent year in which the company is a member of the second group".

Deletion of 10 (United Kingdom's Recovery and Recycling Targets)
     18. Omit Schedule 10.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997 ("Rheoliadau 1997"), sy'n gosod rhwymedigaethau ar gynhyrchwyr ac, ar eu rhan, gweithredwyr cynllun, i adenill ac ailgylchu tunelleddau penodedig o wastraff deunydd pacio, a rhwymedigaethau cysylltiedig, er mwyn cyrraedd y targedau yn Ethygl 6(1) o Gyfarwyddeb 94/62/EC ("y Gyfarwyddeb"), y bu rhaid eu cyrraedd yn 2001. Mae diwygiad i'r Gyfarwyddeb, a fydd yn gosod targedau newydd y bydd rhaid eu cyrraedd yn 2008, yn cael ei negodi ar hyn o bryd; disgwylir cytuno arno cyn bo hir. Nid yw'r targedau sydd yn Rheoliadau 1997 ar hyn o bryd yn ddigon uchel i alluogi'r Deyrnas Gyfunol i godi ei chyfraddau adennill ac ailgylchu yn ddigonol i allu cyrraedd y targedau Cyfarwyddeb newydd arfaethedig yn 2008. Mae'r Rheoliadau hyn felly yn gosod targedau domestig dros dro, ynghyd â rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu, sy'n adlewyrchu'r targedau newydd y bydd y Deyrnas Gyfunol yn debygol o orfod eu cyrraedd yn 2008.

Mae paragraff 1 o'r Atodlen yn gwneud diwygiadau i reoliad 2 o Reoliadau 1997 sy'n mewnosod nifer o ddiffiniadau newydd ac yn diwygio eraill.

Mae paragraff 2 yn cyflwyno rhwymedigaeth newydd i weithredwyr cynllun gymryd camau rhesymol i ddiwallu'r rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu a fyddai wedi syrthio ar aelodau'r cynllun oni bai eu bod yn aelodau o'r cynllun.

Mae paragraff 3 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Rhan III o Reoliadau 1997 ynghylch cofrestru, gan gynnwys yn arbennig  - 

Mae paragraff 4 yn cyflwyno hawliau apelio ar gyfer cynhyrchwyr, ail-broseswyr ac allforwyr.

Mae paragraff 5 yn mewnosod Rhan IVA newydd yn Rheoliadau 1997 gan ei gwneud hi'n ofynnol i ail-broseswyr ac allforwyr gael eu hachredu i ddyroddi nodiadau adennill gwastraff deunydd pacio a nodiadau adennill allforio gwastraff deunydd pacio.

Mae paragraff 6 yn diwygio Rhan V o Reoliadau 1997 gan ei gwneud hi'n ofynnol cyflwyno cofnodion ac adroddiadau i'r Asiantaeth briodol gan gynhyrchwyr a gweithredwyr cynllun.

Mae paragraff 7 yn diwygio Rhan VI o Reoliadau 1997 gan sicrhau bod y rhwymedigaethau monitro sy'n gymwys i'r Asiantaeth briodol yn cynnwys monitro'r rhwymedigaethau newydd sy'n cael eu gosod ar weithredwyr cynllun ac ar ail-broseswyr achrededig ac allforwyr; ac i gynyddu cwmpas pwcirc er yr Asiantaeth i gyflwyno hysbysiadau sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r rhai sy'n eu derbyn gyflwyno gwybodaeth i'r Asiantaeth.

Mae paragraff 8 yn diwygio Rhan X o Reoliadau 1997 gan gyflwyno troseddau newydd y gall gweithredwyr cynllun, aelodau cynllun, ail-broseswyr ac allforwyr fod yn atebol amdanynt.

Mae paragraff 9 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol i Atodlen 1 i Reoliadau 1997.

Mae paragraff 10 yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 er mwyn gosod targedau adennill ac ailgylchu sy'n adlewyrchu'r diwygiadau disgwyliedig i'r targedau Cyfarwyddeb.

Mae paragraff 11 yn mewnosod Atodlen 2A newydd yn Rheoliadau 1997 sy'n gosod allan yr amodau achredu y cyfeirir atynt yn y rheoliad 21C newydd sy'n cael ei fewnosod gan reoliad 8 o'r Rheoliadau hyn.

Mae paragraff 12 yn diwygio'r gweithrediadau adennill a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau 1997 er mwyn adlewyrchu diwygiadau a wnaed gan Benderfyniad y Comisiwn 96/350/EEC.

Mae paragraff 13 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1997 gan ehangu'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn y planiau gweithredol y mae'n rhaid i gyhyrchwyr a gweithredwyr cynllun eu cyflwyno i'r Asiantaeth briodol.

Mae paragraff 14 yn diwygio Atodlen 5 i Reoliadau 1997 gan leihau'r cyfnod y gall apeliadau cael eu gwneud o fewn o 6 mis i 2 fis.

Mae paragraff 15 yn diwygio Atodlen 6 i Reoliadau 1997 gan ehangu'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn y dystysgrif gydymffurfio sy'n ofynnol o dan reoliad 23 o Reoliadau 1997.

Mae paragraff 16 yn diwygio Atodlen 7 i Reoliadau 1997 gan ei gwneud hi'n ofynnol i wybodaeth ynglycircn ag ail-broseswyr achrededig ac allforwyr gael ei gosod ar y gofrestr gyhoeddus.

Mae paragraff 17 yn diwygio Atodlen 9 i Reoliadau 1997 gan symleiddio'r trefniadau ar gyfer newidiadau yng nghanol blwyddyn sy'n effeithio ar grwpiau o gwmniau sydd â Rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau.

Mae paragraff 18 yn dileu Atodlen 10 sy'n rhestru rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu'r Deyrnas Gyfunol o dan y Gyfarwyddeb.

Mae Asesiad o Effaith y Rheoliadau wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Is-Adran yr Amgylchedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1995 p.25. Gweler adran 93(8) i gael diffiniadau "prescribed" a "regulations".back

[2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.J. Rhif L365, 31.12.94, t.10.back

[4] O.S. 1997/646, fel y'i diwygiwyd mewn perthynas â Chymru a Lloegr gan O.S. 1999/1361, O.S. 1999/3447 ac O.S. 2000/3775, ac mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2002/813 (Cy.93). Diwygiwyd Rheoliadau 1997 hefyd, mewn perthynas â Lloegr, gan O.S. 2002/732.back

[5] 1998 p.38.back

[6] S.I 2000/1973, to which there are amendments not relevant to these Regulations.back

[7] S.I 1994/1056, amended by S.I. 1995/288, 1996/593, 1998/606, 2000/1973; there are other amending instruments but none are relevant.back

[8] 1995 c.40; see Part II.back



English version



ISBN 0 11 090847 3


 
© Crown copyright 2003
Prepared 23 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033238w.html