![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003 Rhif 3246 (Cy.321) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033246w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 9 Rhagfyr 2003 | ||
Yn dod i rym | 9 Ionawr 2004 |
(2) Mae unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod y cyfnod rhwng sesiwn y bore a sesiwn y prynhawn mewn ysgol ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn i'w cymryd yn gyfystyr â chwarter diwrnod ysgol.
Y Corff Cyfrifol
3.
At ddibenion adran 52(5) o Ddeddf 2002 rhagnodir yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal uned cyfeirio disgyblion[4] fel y corff cyfrifol mewn perthynas â gwaharddiad am gyfnod penodedig o'r uned cyfeirio disgyblion honno.
Per athro neu athrawes â gofal i wahardd disgyblion
4.
Ni chaiff athro neu athrawes â gofal arfer y per o dan adran 52(2) o Ddeddf 2002 er mwyn gwahardd disgybl o'r uned cyfeirio disgyblion am gyfnod neu gyfnodau penodedig, os bydd hynny'n golygu y byddai'r plentyn yn cael ei wahardd am fwy na 45 diwrnod ysgol mewn unrhyw flwyddyn ysgol unigol.
Gwahardd disgyblion: y ddyletswydd i hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol
5.
- (1) Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig, rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol o'r materion canlynol -
(2) Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig mewn amgylchiadau y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad -
rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal hysbysu'r awdurdod addysg lleol yn ddi-oed o gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.
(3) Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl yn barhaol neu'n penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol, rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed -
(4) Ceir rhoi'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) naill ai -
(5) Ym mhob tymor rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal hysbysu'r awdurdod addysg lleol o unrhyw waharddiadau na ddônt o fewn paragraffau (2) neu (3) ac yn achos pob gwaharddiad o'r fath rhaid darparu manylion am gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.
Gwahardd disgyblion: darparu gwybodaeth i'r awdurdod addysg lleol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru
6.
- (1) Yn ystod pob tymor rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal ddarparu'r wybodaeth ganlynol am bob gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol -
(2) Rhaid i awdurdod addysg lleol ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, os bydd yn gofyn amdani, unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod hwnnw wedi'i chael oddi wrth athro neu athrawes â gofal o dan reoliad 5(5) a 6(1).
Swyddogaethau awdurdod addysg lleol mewn perthynas â disgyblion wedi'u gwahardd am gyfnod penodedig
7.
- (1) Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan hysbysir awdurdod addysg lleol o dan reoliad 5(2) o waharddiad unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig, a bod yr amgylchiadau yn golygu y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad -
(2) Ym mhob achos o'r fath rhaid i'r awdurdod addysg lleol -
(c) caniatáu i bob un o'r canlynol, sef -
fynd i gyfarfod â'r awdurdod addysg lleol a rhoi sylwadau llafar am y gwaharddiad; ac
(ch) ystyried unrhyw sylwadau llafar sy'n cael eu rhoi felly.
(3) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio, ac os yw'n ystyried y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo'n ychwanegol ystyried a ddylid ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu a ddylid ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol.
(4) Os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed -
(5) Rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan yr awdurdod addysg lleol i dderbyn disgybl a gafodd ei wahardd yn ôl i'r uned cyfeirio disgyblion.
(6) Os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu na ddylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo hysbysu'r person perthnasol a'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed am ei benderfyniad a'r rhesymau drosto.
(7) Os digwydd y canlynol -
rhaid iddo ystyried y sylwadau hynny.
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r awdurdod addysg lleol gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) -
ar ôl y dyddiad yr hysbyswyd ef o'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(2).
(9) Os gwaharddwyd disgybl am gyfnod penodedig mewn amgylchiadau lle y byddai, yn sgil y gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, rhaid i'r awdurdod addysg lleol (i'r graddau y mae'n ymarferol iddo wneud hynny) gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) cyn y dyddiad y mae'r disgybl i sefyll yr arholiad a beth bynnag dim hwyrach na'r hyn sy'n ofynnol ym mharagraff (8).
(10) Nid yw'r corff llywodraethu i gael ei ryddhau o'r ddyletswydd i gymryd unrhyw gam y cyfeirir ato ym mharagraff (2) am na chafodd ei gymryd o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraffau (8) a (9).
Apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol
8.
- (1) Rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i alluogi'r person perthnasol i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan yr athro neu'r athrawes â gofal o dan adran 52(2) i wahardd disgybl yn barhaol o uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod.
(2) Mae'r Atodlen i Reoliadau 2003 yn effeithiol, gyda'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â gwneud a gwrando ar apelau yn unol â'r trefniadau a wnaed o dan baragraff (1); ac ym mharagraffau (3) i (5) ystyr "panel apêl" yw panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel y'u haddaswyd.
(3) Nid yw panel apêl i benderfynu bod disgybl i'w dderbyn yn ôl ddim ond oherwydd i unrhyw berson fethu cydymffurfio ag unrhyw ofynion gweithdrefnol a osodwyd gan neu o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r penderfyniad o dan adran 52(2) o Ddeddf 2002 y mae'r apêl yn cael ei dwyn yn ei herbyn.
(4) Bydd penderfyniad panel apelau ar apêl yn unol â threfniadau a wnaed o dan baragraff (1) yn rhwymol ar y person perthnasol, yr athro neu'r athrawes â gofal a'r awdurdod addysg lleol.
(5) Ar apêl o'r fath caiff y panel apêl -
Gwahardd disgyblion: canllawiau
9.
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw swyddogaethau -
o dan adran 52(2) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth o'r fath, rhaid i'r cyfryw berson neu gorff roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dirymu
10.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) dirymir Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003[7].
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) i effeithio ar gymhwysiad parhaol y Rheoliadau hynny yn rhinwedd rheoliad 7 o Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Rhif 2) (Cymru) 2003[8] (disgyblion sydd wedi'u gwahardd cyn 9 Ionawr 2004).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Rhagfyr 2003
2.
Ym mharagraff 1(3), yn lle'r geiriau "i beidio â derbyn disgybl yn ôl", rhoddir "i wahardd y disgybl yn barhaol".
3.
Yn lle "rheoliad 7(1)" ym mhob man y mae'n digwydd, rhodder "rheoliad 8(1)".
4.
Yn lle paragraff 2(7) rhoddir -
o fath, y gellid yn rhesymol gymryd, a fyddai'n codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd."
5.
Yn lle paragraff 10(2) rhoddir -
6.
Ym mharagraff 14(a) hepgorir "y corff llywodraethu".
[2] 1992 p.53, a ddiwygiwyd gan baragraff 22 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.back
[3] O.S. 2003/3227 (Cy. 308) .back
[4] Sefydlir a chynhelir unedau cyfeirio disgyblion o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56).back
[7] O.S. 2003/287 (Cy.39).back
[8] O.S. 2003/2959 (Cy.277).back
© Crown copyright 2003 | Prepared 17 December 2003 |