BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040070w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif70 (Cy.6)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 14 Ionawr2004 
  Yn dod i rym 31 Ionawr 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(10) a 64(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1] ac sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994
    
2. Mae Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygio rheoliad 10: cofrestrau cyhoeddus
     3. Yn rheoliad 10 (manylion i'w cynnwys mewn cofrestrau cyhoeddus), ar ddiwedd paragraff (1)(g) rhodder:

Diwygio rheoliad 12: offer symudol
    
4.  - (1) Yn rheoliad 12 (offer symudol)  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Ionawr 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Trwyddedu Diwygio Gwastraff 1994 ("Rheoliadau 1994") mewn perthynas â Chymru.

Mae rheoliad 10 o Reoliadau 1994 yn rhagnodi'r manylion y mae'n rhaid i bob awdurdod rheoli gwastraff eu rhoi ar y gofrestr gyhoeddus y mae'n ei chadw o dan adran 64(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu categori pellach i'r manylion hynny, sef y sgoriau a ddaw allan o unrhyw werthusiad risg ar gyfer safle y mae trwydded rheoli gwastraff yn perthyn iddo.

Mae rheoliad 12 o Reoliadau 1994 yn rhagnodi mathau o offer sydd i'w trin fel offer symudol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r disgrifiad o'r math o offer a ragnodir yn rheoliad 12(1)(d) o Reoliadau 1994 ac yn ychwanegu'r mathau canlynol:


Notes:

[1] 1990 p.43. Diffinnir "prescribed", at ddibenion adran 64(1), yn adran 64(8).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1994/1056; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1995/288 ac O.S. 1996/634.back

[4] 1991 p.57; addaswyd adran 104(1) gan O.S. 1996/3001, O.S 1997/1331 ac O.S. 1997/1332.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090852 X


  © Crown copyright 2004

Prepared 20 January 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040070w.html