BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cefnffordd Llundain  -  Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040079w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif79 (Cy.9)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Llundain  -  Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004

  Wedi'i wneud 15 Ionawr 2004 
  Yn dod i rym 19 Chwefror 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 10 a 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980[1] a phob pwcirc er galluogi arall[2]:-

     1. Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

    
2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

    
3. Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd, a chaiff ei ddosbarthu fel ffordd ddosbarthiadol, o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Powys fod gefnffordd newydd ar agor i draffig trwodd.

    
4. Yn y Gorchymyn hwn : - 

    (1) Mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

    (2) ystyr "y gefnffordd" ("the trunk road") yw Cefnffordd Llundain  -  Abergwaun (A40);

     5. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Chwefror 2004 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Llundain  -  Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004.



Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth


S C SHOULER
Pennaeth yr Is-adran Gweinyddu Ffyrdd

Llywodraeth Cynulliad Cymru
15 Ionawr 2004



ATODLEN 1
Llwybr y gefnffordd newydd
Llwybr y gefnffordd newydd yw llwybr rhwng Bwlch a Chrucywel yng nghyffiniau'r eiddo a elwir Heol Draw Cottage, ger Tretwcirc r yn Sir Powys oddeutu 0.80 cilomedr o hyd gan ddechrau ar bwynt ar y gefnffordd bresennol oddeutu 200 metr i'r gogledd orllewin o ddiwedd y wal ar ochr de ddwyrain y fynedfa i'r eiddo a elwir Dan-y-Myarth gan barhau i gyfeiriad y de ddwyrain hyd at bwynt ar y gefnffordd bresennol sy'n cyd-ddigwydd â llinell ganol y fynedfa i gae Rhif 8248 gyferbyn â'r fynedfa i Westy Gliffaes.



ATODLEN 2
Y darn o'r gefnffordd a fydd yn peidio â bod yn gefnffordd
Y darn o'r gefnffordd a fydd yn peidio â bod yn gefnffordd yw'r darn hwnnw o'r gefnffordd a leolir rhwng pwynt oddeutu 13 metr o ddechrau'r wal/giât ar ochr de ddwyrain yr eiddo a elwir Heol Draw Cottage, ger Tretwcirc r, hyd at bwynt ar y gefnffordd bresennol 26 metr o ddechrau'r wal/giât ar ochr de ddwyrain yr eiddo a elwir Heol Draw Cottage, ger Tretwcirc r.


Notes:

[1] 1980 p.66.back

[2] Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, rhoddwyd y pwerau hyn bellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.back



English version



ISBN 0 11090854 6


  © Crown copyright 2004

Prepared 22 January 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040079w.html