BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040103w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif103 (Cy.10) (C.6)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 20 Ionawr 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2004.

    (2) Yn Gorchymyn hwn, cyfeirir at Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 fel "y Ddeddf".

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 6(3) o'r Ddeddf
    
2. 24 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 6(3) o'r Ddeddf ddod i rym.

Y diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 12 o'r Ddeddf
    
3. 31 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 12 o'r Ddeddf ddod i rym.

Y diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 49 o'r Ddeddf
    
4. 1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 49 o'r Ddeddf ddod i rym i'r graddau na chafodd yr adran honno ei dwyn i rym eisoes.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Ionawr 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Dyma'r chweched Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ("y Ddeddf") mewn perthynas â Chymru.

Mae erthygl 2 yn pennu 24 Ionawr 2004 fel y diwrnod y daw adran 6(3) o'r Ddeddf i rym yng Nghymru.

Mae erthygl 3 yn pennu 31 Ionawr 2004 fel y diwrnod y daw adran 12 o'r Ddeddf i rym yng Nghymru.

Mae erthygl 4 yn pennu 1 Ebrill 2004 fel y diwrnod y daw adran 49 o'r Ddeddf i rym yng Nghymru, i'r graddau nad yw'r adran honno eisoes mewn grym.

Mae adran 6(3) yn mewnosod diwygiadau ym mharagraff 16 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 sy'n galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau a rhoi cyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru ynghylch tâl a thelerau ac amodau eraill y maent yn cyflogi staff odanynt ac yn gyffredinol mewn cysylltiad â materion ynghylch cyflogi staff.

Mae adran 12 yn mewnosod adran 19A newydd yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r ddarpariaeth newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu, i'r graddau y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol i fodloni holl ofynion rhesymol, i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer pobl sy'n dymuno cwyno am y gwasanaeth y maent (neu y mae rhywun y maent yn gofalu amdano) wedi ei gael oddi wrth y GIG.

Mae adran 49 yn eithrio gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig o'r gwasanaethau y gall yr awdurdodau lleol eu darparu yn unol â deddfiadau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gofal cymunedol.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)




Y ddarpariaeth Dyddiad Cychwyn O.S. Rhif
Adran 3 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) 2002/1475
Adran 5 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 11 1 Rhagfyr 2002 2002/1475
Adran 13 17 Mawrth 2003 2003/713
Adran 16 26 Awst 2002 2002/1919
Adran 19  -  26 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 27 26 Awst 2002 2002/1919
Adran 28  -  39 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 41  -  43 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 49 3 Rhagfyr 2001 (yn rhannol) 2001/3807
Adran 50(1) 8 Ebrill 2002 2001/3752
Adran 50 (2) i (10) 19 Rhagfyr 2001 2001/3807
Adran 51 8 Tachwedd 2001 2001/3752
Adran 52 8 Tachwedd 2001 2001/3752
Adran 53 1 Ebrill 2003 2003/939
Adran 54 1 Ebrill 2003 2003/939
Adran 55 1 Ebrill 2003 2003/939
Adran 67(1) ac Atodlen 5; 1 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol) 2002/1095, 2002/1475 a 2002/1919.
Adran 67(2) ac Atodlen 6; 1 Ebrill 2002, 15 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol) 2002/1095, 2002/1312, 2002/1475 a 2002/1919
Atodlen 2 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Atodlen 3 1 Gorffennaf 2002 2002/1475

Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3752 (C.122); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S.2001/4149 (C.133); O.S. 2002/1095 (C.26); O.S. 2002/1312 (C.36); O.S. 2002/2363 (C.77); O.S. 2003/53 (C.3); O.S. 2003/850 (C.46) ac O.S. 2003/2245 (C.87).


Notes:

[1] 2001 p.15; y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod perthnasol ar gyfer gwneud y Rheoliadau hyn yn rhinwedd adran 66 o'r Ddeddf.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090859 7


  © Crown copyright 2004

Prepared 6 February 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040103w.html