BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040106w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif106 (Cy.13)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 20 Ionawr 2004 
  Yn dod i rym 31 Ionawr 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru'n unig a deuant i rym ar 31 Ionawr 2004.

Diwygio Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994 [3] yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 2(1), rhoddir y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o "the Commission Decision" - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Ionawr 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Gwneir y Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac maent yn diwygio darpariaethau Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994. Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi cyfundrefn y Gymuned ar gyfer graddio carcasau moch ac a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3220/84 (OJ Rhif L301, 20.11.84, t.1) fel y'i diwygiwyd. Ceir y rheolau manwl yn Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2976/85 (OJ Rhif L285, 25.10.85, t.39) a Phenderfyniad y Comisiwn 88/234/EEC (OJ Rhif L105, 26.4.88, t.15), fel y'u diwygiwyd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn awdurdodi dull newydd o raddio cyfansoddiad carcasau moch drwy ddefnyddio offer a elwir yn "graddio carcasau'n gwbl awtomatig drwy ddulliau uwchsain" ("AUTOFOM") ac yn tynnu'n ôl yr awdurdodiad ar gyfer defnyddio offer a elwir yn "Ultra-FOM". Mae defnyddio AUTOFOM yn ychwanegol at y dulliau eraill a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 88/234/EEC, fel y'i diwygiwyd.

Paratowyol Arfarniad Rheoliadol ac fe'i hadneuwyd yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Bwyd a Datblygu Amaethyddol, Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1994/2155.back

[4] OJ Rhif L105, 26.4.88, t.15.back

[5] OJ Rhif L234, 24.8.88, t.11.back

[6] OJ Rhif L358, 8.12.92, t.22.back

[7] OJ Rhif L208, 19.8.93, t.36.back

[8] OJ Rhif L150, 16.6.94, t.34.back

[9] OJ Rhif L271, 22.10.03, t.24.back

[10] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090856 2


  © Crown copyright 2004

Prepared 27 January 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040106w.html