BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040219w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif219 (Cy.23)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 3 Chwefror 2004 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2004 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN I

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Ymgymeriadau a eithrir a'u cymhwysiad i asiantaethau cyflogi
4. Datganiad o ddiben
5. Arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
6. Adolygiad o'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
7. Dogfennau'r asiantaeth

RHAN II

PERSONAU COFRESTREDIG
8. Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
9. Penodi rheolwr
10. Ffitrwydd y rheolwr
11. Y person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol a hyfforddiant
12. Hysbysu tramgwyddau

RHAN III

RHEDEG ASIANTAETHAU GOFAL CARTREF
13. Rhedeg yr asiantaeth
14. Y trefniadau ar gyfer darparu gofal personol
15. Ffitrwydd y gweithwyr
16. Staffio
17. Y llawlyfr staff a'r cod ymddygiad
18. Darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth
19. Dull adnabod gweithwyr
20. Cofnodion
21. Cwynion
22. Barn y staff ynglycircn â'r ffordd y mae'r asiantaeth yn cael ei rhedeg
23. Adolygu ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu
24. Ffitrwydd y fangre
25. Y sefyllfa ariannol
26. Hysbysu digwyddiadau
27. Hysbysu absenoldeb
28. Hysbysu newidiadau
29. Marwolaeth person cofrestredig

RHAN IV

AMRYWIOL
30. Cydymffurfio â'r rheoliadau
31. Tramgwyddau
32. Pennu swyddfeydd priodol
33. Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
34. Diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002
35. Darpariaethau trosiannol

YR ATODLENNI

  1. Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y datganiad o ddiben

  2. Yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â darparwyr cofrestredig a rheolwyr asiantaeth a phersonau sydd wedi'u henwi i ddirprwyo dros y person cofrestredig

  3. Yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â gweithwyr gofal cartref

  4. Y cofnodion sydd i'w cadw ar gyfer archwiliad.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(6), 12(2), 14(1)(d), 15(3), 16(1) a (3), 22(1), (2)(a) i (d), ac (f) i (j), (5)(a) a (7)(a) i (h) a (j), 25, 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1], ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - 



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall  - 

i ddarparu gofal personol yn eu cartrefi eu hunain i bersonau nad ydynt yn gallu ei ddarparu iddynt eu hunain heb gymorth oherwydd eu hafiechyd, eu llesgedd neu eu hanabledd;

ac er mwyn penderfynu ar unrhyw berthynas o'r fath, trinnir llys-blentyn person fel plentyn iddo, ac mae cyfeiriadau at "priod" yn cynnwys cyn-briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel petai ef neu hi yn wcirc r i'r person (neu yn ôl y digwydd) yn wraig i'r person;

rhaid dehongli "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") yn unol â rheoliad 8(2)(a).

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad  - 

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, mae'r termau "cyflogi" a "chyflogaeth" yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio a boed o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau neu mewn modd nad yw o dan gontract.

Ymgymeriadau sydd wedi'u heithrio a'u cymhwysaid i asiantaethau cyflogi
     3.  - (1) At ddibenion y Ddeddf, mae ymgymeriad wedi'i eithrio o'r diffiniad o "domiciliary care agency" yn adran 4(3) o'r Ddeddf  - 

    (2) Ni fydd darpariaethau'r Rheoliadau hyn sydd ym mharagraff (3) yn gymwys i asiantaethau gofal cartref i'r graddau y maent hefyd yn asiantaethau cyflogi.

    (3) Y rheoliadau hynny yw 13 (Rhedeg yr asiantaeth), 14 (Y trefniadau ar gyfer darparu gofal personol), 16 (Staffio), 17 (Y llawlyfr staff a'r cod ymddygiad), ac 19 (Dull adnabod y gweithwyr).

Datganiad o ddiben
    
4.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r asiantaeth ddatganiad sydd wedi'i ysgrifennu ar bapur (a hwnnw'n ddatganiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y "datganiad o ddiben" a rhaid iddo gynnwys  - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod y datganiad o ddiben ar gael ym mangre'r asiantaeth i'w archwilio gan unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi at ddibenion yr asiantaeth.

Arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
    
5.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth a rhaid iddo gynnwys  - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig  - 

Adolygiad o'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
    
6.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig  - 

    (2) Onid yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn bod y diwygiad yn effeithiol.

Dogfennau'r asiantaeth
    
7. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofrestriad mewn perthynas â'r asiantaeth o dan Ran II o'r Ddeddf yn cael ei nodi ym mhob gohebiaeth a dogfennau eraill sy'n cael eu paratoi mewn cysylltiad â busnes yr asiantaeth.



RHAN II

PERSONAU COFRESTREDIG

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
    
8.  - (1) Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth onid yw'n ffit i wneud hynny.

    (2) Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth oni bai bod y person  - 

    (3) Dyma'r gofynion  - 

    (4) Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth - 

Penodi rheolwr
    
9.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r asiantaeth - 

    (2) Pan fydd  - 

yn cynnig bod, neu'n debyg o fod, neu wedi bod, yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu ragor, rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r asiantaeth tra bydd y darparydd neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn absennol.

    (3) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r asiantaeth, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith  - 

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig enwebu person i fod â gofal dros yr asiantaeth ar bob adeg y mae'r asiantaeth ar agor ar gyfer busnes a phan fydd y person cofrestredig yn absennol o'r fangre.

    (5) Ni cheir enwebu person at ddibenion paragraff (4) oni bai bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 ar gael mewn perthynas ag ef ac wedi ei hysbysu i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac eithrio bod rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol ym mharagraffau 10 ac 11 o Atodlen 3 fod ar gael yn lle'r wybodaeth sy'n ofynnol ym mharagraff 8 o Atodlen 2.

Ffitrwydd y rheolwr
    
10.  - (1) Ni chaiff person reoli asiantaeth oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

    (2) Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth oni bai  - 

Person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol a hyfforddiant
    
11.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i natur a maint yr asiantaeth a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, redeg yr asiantaeth neu (yn ôl y digwydd) ei rheoli â gofal, cymhwysedd a medr digonol.

    (2) Os yw'r darparydd cofrestredig  - 

o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod gan yr unigolyn yr arbenigedd, y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am redeg yr asiantaeth.

    (3) Os yw'r asiantaeth yn cael ei rhedeg gan unigolion mewn partneriaeth, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod un o'u plith yn ymgymryd â hyfforddiant fel sy'n ofynnol gan baragraff (2).

    (4) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r arbenigedd, y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli'r asiantaeth.

Hysbysu tramgwyddau
    
12. Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith  - 



RHAN III

RHEDEG ASIANTAETHAU GOFAL CARTREF

Rhedeg yr asiantaeth
    
13. Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod yr asiantaeth yn cael ei rhedeg, a bod y gofal personol a drefnir gan yr asiantaeth, yn cael eu darparu yn y fath fodd ag y bydd  - 

Trefniadau ar gyfer darparu gofal personol
    
14.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig, ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth, neu os nad yw ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth yn ymarferol, ar ôl ymgynghori â pherson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth, baratoi cynllun ysgrifenedig ("y cynllun cyflenwi gwasanaeth") a rhaid iddo  - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig  - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, sicrhau bod y gofal personol y mae'r asiantaeth yn trefnu iddo gael ei ddarparu i unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth yn diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth a bennir yn y cynllun cyflenwi gwasanaeth.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig, at ddibenion darparu gofal personol i ddefnyddwyr gwasanaeth, ac i'r graddau y bo'n ymarferol  - 

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y trefniadau sy'n cael eu gwneud i ddarparu gofal personol i ddefnyddiwr gwasanaeth  - 

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cofnodi'r meddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio wrth ddarparu gofal personol i ddefnyddwyr gwasanaeth ac ar gyfer trafod y meddyginiaethau hynny, eu cadw'n ddiogel, eu rhoi a'u gwaredu yn ddiogel.

    (7) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas, gan gynnwys hyfforddi staff, i sicrhau bod gweithwyr gofal cartref yn gweithredu system weithio ddiogel, gan gynnwys mewn perthynas â chodi defnyddwyr gwasanaeth a'u symud.

    (8) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas, drwy roi hyfforddiant i'r staff neu drwy fesurau eraill, i atal defnyddwyr gwasanaeth rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn perygl o gael niwed neu gael eu cam-drin.

    (9) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw neu unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.

    (10) Ar unrhyw achlysur pan fydd defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei atal yn gorfforol gan berson sy'n gweithio fel gweithiwr gofal cartref at ddibenion yr asiantaeth, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.

Ffitrwydd y gweithwyr
    
15.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw berson yn gweithio fel gweithiwr gofal cartref at ddibenion yr asiantaeth oni bai  - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw berson nad yw'n weithiwr gofal cartref ond ei fod yn ofynnol iddo fel arall at ddibenion yr asiantaeth i ymweld â defnyddiwr gwasanaeth yn ei gartref yn gweithio i'r asiantaeth onid oes gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 a 9 o Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person.

    (3) Nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth oni bai  - 

    (4) Ni fydd paragraffau 1(b) a (2), i'r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 4 o Atodlen 3, yn gymwys tan 31 Hydref 2004 mewn perthynas â gweithiwr a gafodd ei gyflenwi gan yr asiantaeth neu a weithiodd iddi ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 1 Mehefin 2003 hyd at 31 Mai 2004.

Staffio
    
16.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig, o roi sylw i natur yr asiantaeth, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, sicrhau  - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob aelod o'r staff  - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael ag unrhyw agwedd ar berfformiad aelod o'r staff y cafwyd ei fod yn anfoddhaol.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff a'r gweithwyr gofal cartref nad ydynt yn aelodau o'r staff, yn cael goruchwyliaeth briodol.

Y llawlyfr staff a'r cod ymddygiad
    
17.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi llawlyfr staff a darparu copi ohono i bob aelod o'r staff a phob gweithiwr gofal cartref nad yw'n aelod o'r staff.

    (2) Rhaid i'r llawlyfr a baratoir yn unol â pharagraff (1) gynnwys datganiad ynglycircn â'r canlynol - 

Darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth
    
18.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y rhoddir i ddefnyddiwr gwasanaeth cyn darparu unrhyw ofal personol  - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) yn cael ei darparu hefyd, os yw'n briodol, i berthnasau neu ofalwyr y defnyddiwr gwasanaeth.

Dull adnabod gweithwyr
    
19. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob gweithiwr gofal cartref sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth yn cael ei gyfarwyddo bod rhaid iddo gyflwyno i'r defnyddiwr gwasanaeth adnabyddiaeth sy'n dangos enw, enw'r asiantaeth a ffotograff diweddar ohono tra bydd yn darparu gofal personol i ddefnyddiwr gwasanaeth.

Cofnodion
    
20.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion a bennir yn Atodlen 4 yn cael eu cadw a'u bod - 

    (2) Yn ychwanegol at y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ymdrechu i sicrhau bod copi o gynllun cyflenwi gwasanaeth a chofnod manwl o'r gofal personol a ddarparwyd i'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu cadw yng nghartref y defnyddiwr gwasanaeth a'u bod yn cael eu cadw'n gyfoes, mewn cyflwr da ac mewn modd diogel.

Cwynion
    
21.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn ("y weithdrefn gwyno") ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu ar ei ran.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwyno i bob defnyddiwr gwasanaeth ac, os bydd yn gofyn amdano, i unrhyw gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth.

    (3) Rhaid i'r copi o'r weithdrefn gwyno gynnwys  - 

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y bydd ymchwiliad llawn i bob cwyn a wneir o dan y weithdrefn gwyno.

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r person a wnaeth y gwcirc yn am y camau sydd i'w cymryd (os oes rhai), a hynny o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gwcirc yn, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod o bob cwyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliadau a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i hynny a bydd gofynion rheoliad 20(1) yn gymwys i'r cofnod hwnnw.

    (7) Rhaid i'r person cofrestredig roi i'r Cynulliad Cenedlaethol pan fydd yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis a ddaeth i ben ar ddyddiad y cais a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i bob cwyn.

Barn y staff ynghylch rhedeg yr asiantaeth
    
22.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw fater sy'n ymwneud â rhedeg yr asiantaeth i'r graddau y gall effeithio ar iechyd neu les y defnyddwyr gwasanaeth, neu'r gofal personol sy'n cael ei ddarparu iddynt.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i alluogi'r staff i roi gwybod i'r person cofrestredig neu, heb gyfeirio at yr asiantaeth, i'r Cynulliad Cenedlaethol am eu barn ar unrhyw fater y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo.

Adolygu ansawdd y gofal a ddarperir
    
23.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig gyflwyno a chynnal system ar gyfer adolygu bob hyn a hyn fel y bo'n briodol ansawdd y gwasanaeth a gofal personol y mae'r asiantaeth yn trefnu iddo gael ei ddarparu.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad y mae'r person cofrestredig wedi'i gynnal at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth.

    (3) Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr.

Ffitrwydd y fangre
    
24. Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio mangre'r asiantaeth at ddibenion asiantaeth onid yw'n addas at ddibenion asiantaeth cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

Y sefyllfa ariannol
    
25.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg yr asiantaeth mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd yr asiantaeth yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig hefyd roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth arall y bydd yn gofyn amdano o dro i dro er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth, gan gynnwys  - 

Hysbysu digwyddiadau
    
26.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os bydd digwyddiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn digwydd a rhaid rhoi'r hysbysiad hwnnw o fewn 24 awr o roi gwybod i'r person cofrestredig fod digwyddiad o'r fath wedi digwydd, neu o'r amser y daeth y person hwnnw yn ymwybodol fel arall o'r ffaith bod digwyddiad o'r fath wedi digwydd.

    (2) Y digwyddiadau yw  - 

    (3) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig o fewn 48 awr.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau ei bod yn ofynnol i'r personau sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth roi gwybod i'r person cofrestredig ar unwaith fod unrhyw un o'r digwyddiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) wedi digwydd.

Hysbysu absenoldeb
    
27.  - (1) Os yw  - 

i fod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.

    (2) Ac eithrio mewn argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb gychwyn neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu  - 

    (3) Os yw'r absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi yn sgil argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

    (4) Os bydd  - 

wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, ac na roddwyd hysbysiad o'r absenoldeb i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r swyddfa honno, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

    (5) Pan fydd y darparydd cofrestredig neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn dychwelyd i'r gwaith, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 7 diwrnod wedi iddo ddychwelyd.

Hysbysu newidiadau
    
28. Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny  - 

Marwolaeth person cofrestredig
    
29.  - (1) Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru ar gyfer asiantaeth, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i'r person cofrestredig sy'n goroesi hysbysu yn ysgrifenedig swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed o'r farwolaeth.

    (2) Os un person yn unig sydd wedi'i gofrestru ar gyfer asiantaeth, a bod y person hwnnw yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig  - 

    (3) Caiff cynrychiolwyr personol y darparydd cofrestredig ymadawedig redeg yr asiantaeth heb fod wedi'u cofrestru ar ei chyfer  - 

    (4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol estyn y cyfnod a bennwyd ym mharagraff (3)(a) am unrhyw gyfnod pellach, heb fod yn hirach na blwyddyn, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno, a rhaid iddo hysbysu'r cynrychiolwyr personol yn ysgrifenedig o unrhyw benderfyniad o'r fath.

    (5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i gymryd gofal llawnamser o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth yn ystod unrhyw gyfnod pryd y byddant, yn unol â pharagraff (3), yn rhedeg yr asiantaeth, heb fod wedi'u cofrestru ar ei chyfer.



RHAN IV

AMRYWIOL

Cydymffurfio â'r rheoliadau
    
30. Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.

Tramgwyddau
    
31.  - (1) Bydd torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliadau 4 i 7, 9 ac 11 i 28 yn dramgwydd.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn person a oedd ar un adeg, ond nad yw bellach, yn berson cofrestredig, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 20.

Pennu swyddfeydd priodol
    
32. Caiff y Cynulliad bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â mangre'r asiantaeth sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru.

Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
    
33.  - (1) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[4] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 2(1)  - 

    (3) Yn rheoliad 9  - 

    (4) Ym mharagraff 1 o Atodlen 1, mewnosoder  - 

Diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002
     34.  - (1) Diwygir Rheoliadau Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002[5] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn y paragraff o dan y pennawd "Arrangement of Regulations", ychwaneger y canlynol ar y diwedd "15. Annual fee- domiciliary care agencies".

    (3) Yn rheoliad 2(1)(a)  - 

    (4) Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (3C), mewnosoder  - 

    (5) Ar ôl rheoliad 14 (Ffi Flynyddol  -  asiantaethau nyrsys), mewnosoder y rheoliad canlynol  - 

Darpariaethau trosiannol
    
35.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bobl y mae'n ofynnol iddynt yn rhinwedd darpariaethau'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn fod yn gofrestredig o dan y Ddeddf ond nad oedd angen iddynt fod yn gofrestredig yn union cyn 1 Mawrth 2004.

    (2) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth o'r fath, caiff person a oedd yn union cyn 20 Chwefror 2004 yn rhedeg neu'n rheoli asiantaeth barhau i redeg neu reoli'r asiantaeth heb fod yn gofrestredig o dan y Ddeddf  - 

    (3) Yn y rheoliad hwn ystyr "penderfyniad terfynol" yw'r dyddiad 28 diwrnod ar ôl caniatáu neu wrthod y cofrestriad ac, os caiff apêl ei gwneud, y dyddiad pan ddyfarnir yn derfynol ar yr apêl neu pan roddir y gorau iddi.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Chwefror 2004



ATODLEN 1
Rheoliad 4(1)(ch)


YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN


     1. A yw'r asiantaeth yn cael ei rhedeg gan unigolyn, gan bersonau mewn partneriaeth neu gan gorff.

     2. Natur y gwasanaethau y mae'r asiantaeth yn eu darparu.

     3. Yr ardal ddaearyddol y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau ynddi.

     4. Ystod cymwysterau'r gweithwyr gofal personol sydd i fod i ymweld â chartrefi defnyddwyr gwasanaeth.

     5. O dan ba amgylchiadau y caiff yr asiantaeth roi terfyn ar ddarparu gwasanaethau i ddefnyddiwr gwasanaeth.

     6. Y trefniadau i ganslo'r cyflenwad o weithiwr gofal cartref gan y defnyddiwr gwasanaeth neu'r asiantaeth.

     7. Ffioedd yr asiantaeth.

     8. Y trefniadau a fydd yn gymwys yn ystod salwch neu reswm arall dros absenoldeb gweithwyr gofal cartref sydd i fod i weini yng nghartrefi defnyddwyr gwasanaeth.

     9. Y gofynion ynglycircn â dalennau amser.

     10. Y weithdrefn gwyno a sefydlwyd yn unol â rheoliad 21.

     11. Y gweithdrefnau i ddiogelu defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr gofal cartref.

     12. Y gweithdrefnau i ddiogelu eiddo'r defnyddwyr gwasanaeth.

     13. Y gweithdrefnau ar gyfer rhoi meddyginiaeth, neu helpu i'w rhoi.

     14. Y gofynion i amddiffyn iechyd a diogelwch gweithwyr gofal cartref.

     15. Y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd digwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 27 yn digwydd.

     16. Y trefniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth fynegi eu barn ynglycircn â'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan yr asiantaeth.

     17. Strwythur rheoli'r asiantaeth.

     18. A yw'r asiantaeth, ac os felly i ba raddau, yn darparu gwasanaethau drwy bersonau heblaw cyflogeion yr asiantaeth.



ATODLEN 2
Rheoliadau 8(3)(c), 9(5), a 10(2)(c)


YR WYBODAETH SY'N OFYNNOL MEWN PERTHYNAS Â DARPARWYR A RHEOLWYR COFRESTREDIG ASIANTAETH A PHERSONAU SYDD WEDI'U HENWI I DDIRPRWYO AR GYFER PERSON COFRESTREDIG


     1. Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn.

     2. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

     3. Naill ai - 

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 133(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno.

     4. Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr sy'n ymwneud â'r cyfnod cyflogaeth diwethaf nad oedd wedi para llai na thri mis.

     5. Os yw person wedi gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad o'r rhesymau pam y daeth y swydd honno neu'r swyddogaeth honno i ben ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.

     6. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.

     7. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.

     8. Os unigolyn yw'r person, adroddiad gan ymarferydd meddygol cyffredinol ynghylch a yw'r person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol (yn ôl y digwydd) i redeg, rheoli neu fod â gofal dros asiantaeth.

     9. Manylion cofrestriad gydag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth ohono.

     10. Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.



ATODLEN 3
Rheoliad 15(1)(b) a (2)


YR WYBODAETH A'R DDOGFENNAETH SYDD I FOD AR GAEL MEWN PERTHYNAS Â GWEITHWYR GOFAL CARTREF


     1. Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn.

     2. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y perthynas agosaf.

     3. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

     4. Naill ai  - 

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 113(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno.

     5. Os yw'r person wedi gweithio ar unrhyw adeg yn y cyfnod o bum mlynedd cyn iddo gael ei gyflogi gan yr asiantaeth, dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys, os yw'r person wedi gweithio o'r blaen am fwy na thri mis mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, tystlythyr sy'n ymwneud â'r swydd ddiwethaf o'r fath a ddaliwyd.

     6. Os yw'r person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam daeth y swydd honno neu'r swyddogaeth honno i ben, ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.

     7. Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu gofal personol i'r defnyddwyr gwasanaeth hynny y mae'r gweithiwr i ddarparu gofal personol iddynt.

     8. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.

     9. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth a manylion unrhyw gyflogaeth gyfredol heblaw at ddibenion yr asiantaeth.

     10. Datganiad gan y person ynglycircn â'i gyflwr o ran iechyd corfforol a meddyliol.

     11. Datganiad gan y darparydd cofrestredig, neu'r rheolwr cofrestredig, yn ôl y digwydd, fod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni.

     12. Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.



ATODLEN 4
Rheoliad 20


Y COFNODION SYDD I'W CADW AR GYFER ARCHWILIAD


Cofnodion ariannol
     1. Cofnod o holl drafodion busnes yr asiantaeth.

     2. Bonion neu gopïau o'r holl dderbynebau a roddwyd.

     3. Manylion y ffioedd sy'n daladwy gan bob defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â darparu gofal personol.

     4. Cofnodion treth a chyfraniadau yswiriant gwladol sy'n ymwneud â phob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.

Cofnodion eraill
     5. Cofnod o'r holl wybodaeth a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cofrestru mewn perthynas â'r asiantaeth.

     6. Manylion pob honiad o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall a wnaed yn erbyn un o gyflogeion yr asiantaeth, neu unrhyw weithiwr gofal cartref sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth, gan gynnwys manylion yr ymchwiliadau a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd yn sgil hynny.

     7. Manylion unrhyw ataliad corfforol a ddefnyddiwyd ar ddefnyddiwr gwasanaeth.

     8. Y cynllun cyflenwi gwasanaeth a luniwyd ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaeth a chofnod manwl o'r gofal personol a roddwyd iddo.

     9. Cofnod personél sy'n ymwneud â phob person sy'n cael ei gyflogi gan yr asiantaeth, neu sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") ac maent yn gymwys mewn perthynas ag asiantaethau gofal cartref ("asiantaethau") yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, a fydd yn cofrestru personau sy'n rhedeg neu'n rheoli asiantaethau ac yn archwilio mangreoedd asiantaethau. Mae Rhan II yn darparu hefyd fod person sy'n rhedeg neu'n rheoli asiantaeth heb fod wedi'i gofrestru ar gyfer hynny yn cyflawni tramgwydd. Mae'r Ddeddf yn darparu hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru. O dan adran 13 o'r Ddeddf rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei fodloni bod yr asiantaeth yn cydymffurfio â'r rheoliadau ac y bydd yn parhau i wneud hynny os yw'n mynd i ganiatáu cais am gofrestriad.

Mae rheoliad 3 yn eithrio ymgymeriadau penodol o'r diffiniad o asiantaeth gofal cartref yn adran 4 o'r Ddeddf. Ymgymeriadau yw'r rhain sy'n cael eu rhedeg gan unigolyn yn unig a hwnnw'n unigolyn nad yw'n cael ei gyflogi gan gorff i redeg ymgymeriad, ac nad yw'n cyflogi neb arall at ddibenion yr ymgymeriad ac y mae'n trefnu gofal personol i lai na phedwar defnyddiwr gwasanaeth. Mae rheoliadau 4 i 6 yn ymwneud â datganiad o ddiben yr asiantaeth a'i harweiniad defnyddiwr gwasanaeth. Rhaid bod gan bob asiantaeth ddatganiad o ddiben ac arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i'r asiantaeth (rheoliadau 4 a 5). Rhaid i'r person cofrestredig roi sylw i'r datganiad o ddiben wrth wneud trefniadau staffio ar gyfer yr asiantaeth (rheoliad 16), a sicrhau bod mangre'r asiantaeth yn addas at ddibenion cyrraedd y nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben (rheoliad 24). Mae'r datganiad a'r arweiniad i'w cadw o dan sylw ac i'w diwygio os bydd angen (rheoliad 6).

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r ffaith bod asiantaeth wedi'i chofrestru gael ei nodi ar ei gohebiaeth.

Mae Rhan II o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynglycircn â ffitrwydd personau sy'n rhedeg neu'n rheoli'r asiantaeth, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol ynglycircn â'r materion a nodir yn atodlen 2 fod ar gael mewn perthynas â'r personau hyn. Os corff yw'r person sy'n rhedeg asiantaeth, rhaid iddo enwi person cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael mewn perthynas ag ef (rheoliad 8). Mae rheoliad 9 yn darparu bod rhaid i reolwr gael ei benodi ar gyfer asiantaeth o dan amgylchiadau penodol, ac mae rheoliad 11 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg asiantaeth, a'r angen i bersonau cofrestredig ymgymryd â hyfforddiant priodol.

Mae Rhan III o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynglycircn â rhedeg asiantaethau, ac yn benodol ynghylch y trefniadau ar gyfer darparu gofal personol (rheoliad 14), ffitrwydd gweithwyr (rheoliad 15), gofynion staffio (rheoliad 16), darparu llawlyfr a chod ymddygiad i'r staff a gwybodaeth i'r defnyddwyr gwasanaeth (rheoliadau 17 a 18), yr adnabyddiaeth sydd i'w gyflwyno gan weithwyr (rheoliad 19), cadw cofnodion (rheoliad 20), gweithdrefnau cwyno'r asiantaeth (rheoliad 21), holi barn y staff ynglycircn â'r ffordd y mae'r asiantaeth yn cael ei rhedeg (rheoliad 23) ac adolygu gweithrediadau asiantaeth (rheoliad 23).

Mae Rhan III hefyd yn gwneud darpariaeth ynglycircn â ffitrwydd mangreoedd asiantaethau (rheoliad 24), gosod gofynion ynglycircn â sefyllfa ariannol asiantaethau (rheoliad 25) ac yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol o ddigwyddiadau penodedig sy'n ymwneud ag asiantaeth (rheoliadau 26 i 29).

Mae Rhan IV o'r Rheoliadau yn ymdrin â materion amrywiol megis cyflawni rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau pan fydd gan asiantaeth fwy nag un person cofrestredig (rheoliad 30), tramgwyddau o dan y Rheoliadau (rheoliad 31), pennu swyddfeydd priodol y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau i roi hysbysiad (rheoliad 32), diwygiadau i'r Offerynnau Statudol ynglycircn â gwneud ceisiadau am gofrestriad a thalu ffioedd cofrestru i gymryd i ystyriaeth gymhwysiad y Ddeddf i asiantaethau (rheoliadau 33 a 34), ac mae'n gwneud darpariaeth drosiannol hefyd (rheoliad 35).


Notes:

[1] 2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, sy'n cael ei ddiffinio yn adran 121(1), mewn perthynas â Chymru, fel y Cynulliad, ac mewn perthynas â Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Diffinnir ystyr "prescribed" a "regulations" yn adran 121(1) o'r Ddeddf; diffinnir "the Assembly" yn adran 5(b) o'r Ddeddf.back

[2] Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar gyfer y gofyniad i ymgynghori.back

[3] 1973 p.35.back

[4] O.S. 2002/919 (Cy.107) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/710 (Cy.86) a 2003/2517 (Cy.242).back

[5] O.S. 2002/921 (Cy.109) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/710 (Cy.86), 2003/781 (Cy.92) a 2003/2517 (Cy.242).back

[6] 1988 p.38.back

[7] 1997 p.50.back



English version



ISBN 0 11090870 8


  © Crown copyright 2004

Prepared 24 February 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040219w.html