BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040253w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif253 (Cy.28)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 4 Chwefror 2004 
  Yn dod i rym 9 Chwefror 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2004.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Chwefror 2004.

Cymhwyso
    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau am grant sy'n cael eu gwneud ar neu ar ôl 9 Chwefror i awdurdodau tai lleol yng Nghymru.

Diwygiadau
    
3. Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996[2] yn cael eu diwygio yn unol â'r Rheoliadau canlynol.

Rheoliad 2
     4. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)  - 

Rheoliad 5
     5. Yn rheoliad 5 (diffinio person perthnasol)  - 

Rheoliad 7
    
6. Yn rheoliad 7 (gwaith am dâl)  - 

Rheoliad 10
    
7. Yn rheoliad 10 (y swm sy'n gymwys)[11]  - 

Rheoliad 12
     8. Yn rheoliad 12 (gostyngiad yn swm y grant)  - 

Rheoliad 13
     9. Yn rheoliad 13 (ceisiadau olynol)  - 

Rheoliad 18
    
10. Yn rheoliad 18(1ZA) (penderfynu incwm yn wythnosol)[14], yn lle "working families' tax credit or disabled person's tax credit" rhowch "working tax credit or child tax credit".

Rheoliad 19
     11. Yn rheoliad 19 (trin taliadau gofal plant)[15])  - 

Rheoliad 24
     12. Yn rheoliad 24(1)(j) (enillion enillwyr cyflogedig), yn lle "maternity leave" rhowch "parental leave".

Rheoliad 30
    
13. Yn rheoliad 30 (cyfalaf sy'n cael ei drin fel incwm)  - 

Rheoliad 31
    
14. Yn rheoliad 31 (incwm tybiannol)  - 

Rheoliad 40
    
15. Yn rheoliad 40 (penderfynu incwm tariff o gyfalaf)  - 

Rheoliad 43
    
16. Yn rheoliad 43 (penderfynu incwm grant)[17]  - 

Atodlen 1
     17.  - (1) Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 (symiau sy'n gymwys: lwfansau personol)[20]) yn y golofn sy'n dwyn y pennawd "(2) Amount" - 

    (2) Ym mharagraff 2 o Atodlen 1, yn y golofn sy'n dwyn y pennawd "(2) Amount"  - 

    (3) Ym mharagraff 3 o Atodlen 1 (symiau sy'n gymwys: premiwm teulu)  - 

    (4) Ym mharagraff 12(1)(a)(i)[21] o Atodlen 1 (symiau sy'n gymwys: premiymau) yn lle "disabled person's tax credit" rhowch "the disability element or the severe disability element of working tax credit as specified in regulation 20(1)(b) and (f) of the Working Tax Credit (Entitlement and Maximum Rate) Regulations 2002"[22].

    (5) Ym mharagraff 13 o Atodlen 1 (premiwm anabledd difrifol)  - 

    (6) Ym mharagraff 15 o Atodlen 1 (premiwm gofalwr) yn lle "invalid care allowance" (ym mha le bynnag y mae'n digwydd) rhowch "a carer's allowance".

    (7) Ym mharagraff 18 o Atodlen 1 (symiau sy'n gymwys: symiau premiwm a bennir yn Rhan 3)  - 

Atodlen 2
     18.  - (1) Ym mharagraff 5(1) of Schedule 2[24] (symiau sydd i'w hanwybyddu wrth benderfynu enillion) yn lle "invalid care allowance" (ym mha le bynnag y mae'n digwydd) rhowch "carer's allowance".

    (2) Yn lle paragraff 12 o'r Atodlen honno rhowch  - 

    (3) Yn lle paragraff 18[26] o'r Atodlen honno rhowch  - 

Atodlen 3
     19.  - (1) Mae Atodlen 3[28] (symiau sydd i'w hanwybyddu wrth benderfynu incwm heblaw enillion) yn cael ei diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn lle paragraff 4 rhowch  - 

    (3) Ym mharagraff 6, ar ôl is-baragraff (d) ychwanegwch  - 

    (4) Ym mharagraff 13  - 

    (5) Ym mharagraff 51 ar ôl "pensions to widows" mewnosodwch "and widowers".

    (6) Ym mharagraff 52 ar ôl "pensions to widows" mewnosodwch "and widowers".

    (7) Ym mharagraff 53  - 

    (8) Yn lle paragraff 54 rhowch  - 

    (9) Hepgorwch baragraff 55.

    (10) Ar ôl paragraff 70 ychwanegwch  - 

Atodlen 4
     20.  - (1) Yn lle paragraff 6 o Atodlen 4 rhowch - 

    (2) Ym mharagraff 9 o'r Atodlen honno [29] (cyfalaf sydd i'w anwybyddu)  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[30]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Chwefror 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 ("Rheoliadau 1996") sy'n nodi'r prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant y caiff awdurdodau tai lleol ei dalu o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ("Deddf 1996").

Mae'r diwygiadau hyn yn ganlyniad yn bennaf i newidiadau i Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971) y mae'r prawf moddion wedi'i seilio arnynt. Maent yn cymryd i ystyriaeth hefyd ddiwygiadau a wnaed i Ddeddf 1996 drwy Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Lloegr a Chymru) 2002 (O.S. 2002/1860) ("Gorchymyn 2002") a chredydau treth newydd a gyflwynwyd drwy Ddeddf Credydau Treth 2002 a Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002. Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn - 

Mae rheoliad 2 yn darparu diffiniadau newydd yn Rheoliadau 1996.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 1996 i gynnwys y rhai sy'n cael credyd pensiwn y wladwriaeth a'r rhai sydd ar seibiant tadolaeth neu seibiant mabwysiadu mewn darpariaethau ynglyn â pha bryd y mae person yn cael ei drin fel person nad yw mewn gwaith â thâl.

Mae rheoliad 7 yn cynyddu'r symiau a bennir yn rheoliad 10 o Reoliadau 1996, ac felly'n cynyddu'r swm sy'n gymwys (sy'n penderfynu yn rhannol swm y grant sy'n daladwy). Mae'r rheoliad hwn yn diwygio rheoliad 10 hefyd i ymdrin â chyflwyno credydau gwarantu o dan Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002.

Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 12 o Reoliadau 1996 er mwyn eu cysoni ag adran 21 o Ddeddf 1996 a diwygiadau a wnaed i'r adran honno gan Orchymyn 2002.

Mae rheoliad 11 yn rhoi paragraff newydd yn lle paragraff (9) yn rheoliad 19 o Reoliadau 1996 i ddarparu ar gyfer seibiant tadolaeth a seibiant mabwysiadu a'r credydau treth newydd wrth drin taliadau gofal plant.

Mae rheoliad 13 yn diwygio rheoliad 30 o Reoliadau 1996 i ddarparu bod rhaid trin unrhyw daliad sy'n cael ei wneud yn unol ag unrhyw gytundeb neu orchymyn llys o ganlyniad i anaf personol sydd i'w dalu drwy daliadau cyfnodol fel incwm yn hytrach na chyfalaf.

Mae rheoliad 15 yn diwygio rheoliad 40 o Reoliadau 1996 drwy gyflwyno incwm tariff wythnosol newydd ar gyfer personau sy'n 60 oed a throsodd.

Mae rheoliad 16 yn cynyddu'r symiau a bennir yn rheoliad 43 o Reoliadau 1996 fel rhai sydd i'w heithrio o incwm grant myfyriwr pan nad oes gan y myfyriwr fenthyciad myfyriwr. Mae'r rheoliad hwn hefyd yn ychwanegu eitemau at y rhestr o grantiau sydd i'w heithrio o incwm grant myfyriwr.

Mae rheoliad 17 yn uwchraddio'r symiau a'r premiymau sy'n gymwys yn Atodlen 1 i Reoliadau 1996.

Mae rheoliad 18 yn rhoi paragraffau 12 a 18 newydd yn Atodlen 2 i Reoliadau 1996 i drin, yn eu tro, â chyflwyno credyd gwarant a chredyd treth gwaith.

Mae rheoliadau 19 ac 20 yn gwneud amnewidiadau yn Atodlenni 3 a 4 i drin â chyflwyno credyd gwarant a chredyd treth gwaith. Mae rheoliad 19 hefyd yn ychwanegu paragraff 71 newydd at Atodlen 3 ynglyn â thaliadau sy'n cael eu gwneud i berson perthnasol o ganlyniad i anaf personol.


Notes:

[1] 1996 p. 53; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo, O.S. 1999/672, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd adran 30 gan erthygl 11 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Lloegr a Chymru) 2002 ac Atodlen 3 iddo, O.S. 2002/1860 ("Gorchymyn 2002").back

[2] O.S. 1996/2890, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119, O.S. 1997/977, O.S. 1998/808, O.S. 1999/1523, O.S. 1999/3468 (Cy.54), O.S. 2000/973 (Cy.43), O.S. 2001/2073 (Cy.145), O.S. 2001/4007 (Cy.333) ac O.S. 2002/2798(Cy.266).back

[3] 1996 p. 18; mewnosodwyd adrannau 75A a 75B o'r Ddeddf hon gan adran 3 o Ddeddf Gyflogaeth 2002 (p.22).back

[4] I gael ystyr "grant" gweler adran 1(6) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ("Deddf 1996") fel y'i diwygiwyd gan baragraff 2 o Atodlen 3 i Orchymyn 2002.back

[5] Diwygiwyd adran 31 gan baragraff 12 o Atodlen 3 i Orchymyn 2002.back

[6] 2002 p. 21.back

[7] I gael ystyr "qualifying houseboat and qualifying park home" gweler adran 58 o Ddeddf 1996 fel y'i diwygiwyd gan baragraff 25 o Atodlen 3 i Orchymyn 2002.back

[8] 2002 p. 16.back

[9] Mewnosodwyd adrannau 80A a 80B o'r Ddeddf hon gan adran 1 o Ddeddf Gyflogaeth 2002 (p.22).back

[10] Gweler adran 1(1) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002back

[11] Diwygiwyd rheoliad 10 gan O.S. 1998/808, O.S. 2000/973, O.S. 2001/2073 (Cy.145) ac O.S. 2002/2798 (Cy.266).back

[12] 2002 p. 16; i gael ystyr "married couple" neu "unmarried couple" gweler adran 17(1) a (2)(a).back

[13] I gael ystyr "occupier's certificate" gweler adran 22A o Ddeddf 1996, fel y'i mewnosodwyd gan baragraff 6 o Atodlen 3 i Orchymyn 2002.back

[14] Mewnosodwyd paragraff (1ZA) o reoliad 18 gan O.S. 2001/2073.back

[15] Mewnosodwyd rheoliad 19, paragraff (9), gan O.S. 2002/2798.back

[16] O.S. 1987/1967, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/206 ac O.S. 2003/455.back

[17] Diwygiwyd rheoliad 43 gan O. S. 1998/808, O.S. 1999/1523, O.S. 2000/973 (Cy.43), O.S. 2001/2073 (Cy.145) ac O.S. 2002/2798.back

[18] Diwygiwyd paragraff (3) gan O.S. 2000/973 (Cy.43), O.S. 2001/2073 ac O.S. 2002/2798.back

[19] O.S. 2002/3200. O.S. 2002/1857 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2814.back

[20] Diwygiwyd Atodlen 1 gan O.S. 1997/977, O.S. 1998/808, O.S. 1999/1523, O.S. 2000/973 (Cy.43), O.S. 2001/2073 (Cy.45) ac O.S. 2002/2798.back

[21] Diwygiwyd paragraff 12(1)(a)(i) gan O.S. 2002/2798.back

[22] O.S. 2002/2005.back

[23] Mewnosodwyd paragraff 18(8) gan O.S. 2001/2073.back

[24] Diwygiwyd Atodlen 2 gan O.S. 1998/808 ac O.S. 1999/3468.back

[25] 2002 p.16.back

[26] Mewnosodwyd paragraff 18 gan O.S. 1999/3468.back

[27] O.S. 2002/2005 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/701.back

[28] Diwygiwyd Atodlen 3 gan O.S. 1999/1523, O.S. 1999/3468, O.S. 2000/973, O.S. 2002/2798 a Rheoliadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[29] Diwygiwyd paragraff 9 o Atodlen 4 gan O.S. 2002/2798.back

[30] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090860 0


  © Crown copyright 2004

Prepared 11 February 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040253w.html