BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040452w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif452 (Cy.43)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 24 Chwefror 2004 
  Yn dod i rym 25 Chwefror 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 12 a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 25 Chwefror 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anheddau yng Nghymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Diwygiadau i Reoliadau 1998
     3. Mae Rheoliadau 1998 yn cael eu diwygio fel a ganlyn:

    (1) Yn rheoliad 2, ar ôl y diffiniad o "Class B", mewnosodwch y canlynol  - 

    (2) Yn rheoliad 3 Rhif wch y geiriad presennol yn baragraff (1) ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosodwch  - 

    (3) Ar ôl diwedd rheoliad 5 mewnosodwch y canlynol  - 

    (4) Ym mharagraff 3 o'r Atodlen yn lle'r geiriau "section 168(8) to (10) and (12) of the Income and Corporation Taxes Act 1988"[3] rhowch y geiriau "sections 67 and 69 of the Income Tax (Earnings and Pensions) Act 2003[4] in relation to the benefits code".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Chwefror 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") (Disgowntiau: darpariaeth arbennig i Gymru), fel y'i hamnewidiwyd gan adran 75(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, yn rhoi pwcircer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi, drwy reoliadau, un neu ragor o ddosbarthau ar anheddau yng Nghymru at ddibenion penodol fel y'u nodir yn is-adrannau (3) a (4) o'r adran honno. Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adrannau 12 a 113(1) o Ddeddf 1992 ac maent yn rhagnodi dosbarth newydd ar anheddau.

Rhagnododd Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998 ("Rheoliadau 1998") ddau ddosbarth ar anheddau (Dosbarth A a Dosbarth B) at ddibenion adran 12 o Ddeddf 1992. Yr oedd y dosbarthau hynny yn gymwys ar gyfer pob blwyddyn ariannol a oedd yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 1998. Yn rheoliad 3 mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1998 drwy ragnodi dosbarth ychwanegol ar anheddau (Dosbarth C) a fydd yn gymwys ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004. Mae Dosbarth C yn cynnwys pob annedd drethadwy yng Nghymru sydd heb ei meddiannu ac sydd i raddau helaeth heb ei dodrefnu. Effaith rhagnodi Dosbarth C yw caniatáu i awdurdodau bilio yng Nghymru leihau neu derfynu, o 1 Ebrill 2004 ymlaen, y disgownt treth gyngor ar gyfer anheddau trethadwy sydd heb eu meddiannu ac sydd i raddau helaeth heb eu dodrefnu.

Mae rheoliad 3(4) yn diwygio Rheoliadau 1998 i ddiweddaru diffiniadau penodol yn y Rheoliadau hynny drwy gyfeirio at Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003.


Notes:

[1] 1992 p.14. Amnewidiwyd adran 12 gan adran 75(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae adran 113(1) wedi'i diwygio gan adran 127(1) o'r Ddeddf honno a pharagraffau 40, 52(1) a 52(2) o Atodlen 7 iddi.back

[2] O.S. 1998/105. Gweler adran 75(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ar gyfer effaith barhaol y Rheoliadau hyn.back

[3] 1988 p.1.back

[4] 2003 p.1.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090891 0


  © Crown copyright 2004

Prepared 17 March 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040452w.html