BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040554w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif554 (Cy.57)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 2 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 5 Mawrth 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 [1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad[2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2004, byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 5 Mawrth 2004.

Diwygiad o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995
    
2. Yn Atodlen 3 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[4]), yn y cofnod am E425 yn lle'r geiriau yn nhrydedd golofn y cofnod hwnnw, rhodder y geiriau "Foods in general (except those referred to in Schedules 6, 7 and 8, and jelly confectionery, including jelly mini-cups)".

Diwygiadau canlyniadol
     3.  - (1) Hepgorir paragraff (2) o reoliad 3 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003[5].

    (2) Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 i'w dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1997[6], Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999[7], Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001[8]), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001[9] Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001[10]), Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001[11], Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002[12], Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002[13]), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003[14], Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003[15]), Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003[16], Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003[17], Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Powdr (Cymru) 2003[18], Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003[19], Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003[20]), Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004[21] a'r Rheoliadau hyn:



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[26]).


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Mawrth 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes ("y prif Reoliadau") sy'n gymwys i Brydain Fawr gyfan.

    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Cyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 2003/52/EC[27] yn diwygio Cyfarwyddeb 95/2/EC[28] o ran amodau defnydd ychwanegyn bwyd E425 Konjac.

     3. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i E425 Konjac gael ei ddefnyddio mewn Bwydydd yn gyffredinol (ac eithrio mewn rhai bwydydd a bennir yn y prif Reoliadau) ond nid mewn cyffaith jeli. Mae cyffaith jeli yn cynnwys teisennau cwpan jeli.

    
4. Nid oes asesiad o effaith y rheoliadau wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn gan na fydd gan yr offeryn effaith ar gostau busnes. Mae nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/52 yn cael eu trosi yn y rheoliadau hyn wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11 Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, c.1.back

[4] O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S. 1999/1136, O.S. 2001/1787 (Cy.128), O.S. 2002/329 (Cy.42) ac O.S. 2003/945 (Cy.126).back

[5] O.S. 2003/945 (Cy.126).back

[6] O.S. 1997/1413.back

[7] O.S. 1999/1136.back

[8] O.S. 2001/1440 (Cy.102).back

[9] O.S. 2001/1787 (Cy.128).back

[10] O.S. 2001/2679 (Cy.220).back

[11] O.S. 2001/3909 (Cy.321).back

[12] O.S. 2002/329 (Cy.42).back

[13] O.S. 2002/330 (Cy.43).back

[14] O.S. 2003/945 (Cy.126).back

[15] O.S. 2003/1713 (Cy.181).back

[16] O.S. 2003/3047 (Cy.290).back

[17] O.S. 2003/3041 (Cy.286).back

[18] O.S. 2003/3053 (Cy.291).back

[19] O.S. 2003/3037 (Cy.285).back

[20] O.S. 2003/3044 (Cy.288).back

[21] O.S. 2004/553 (Cy.56)back

[22] O.S. 1966/1073; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back

[23] O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back

[24] O.S. 1996/1499; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.back

[25] O.S. 1984/1566; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back

[26] 1998 p.38.back

[27] OJ Rhif L178, 17.7.2003, t.23.back

[28] OJ Rhif L61, 18.3.1995, t.1.back



English version



ISBN 0 11090877 5


  © Crown copyright 2004

Prepared 12 March 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040554w.html