BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040670w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif670 (Cy.63)

LANDLORD A THENANT

Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 9 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 98 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.

Cymhwyso
    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn unig  - 

Diwygiadau
    
3. Diwygir Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) 1993[3] fel a ganlyn - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mawrth 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) 1993 sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn mewn perthynas â hawliadau am ryddfreinio ar y cyd ac adnewyddu Lesddaliad a wneir o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p.28) ("Deddf 1993"). Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i hawliadau o'r fath a wneir mewn perthynas â thir ac adeiladau yng Nghymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau i rym.

Mae'r diwygiadau yn digwydd o ganlyniad i ddiwygiadau a wneir i adrannau 13 a 39 o Ddeddf 1993 gan adran 120 ac Atodlen 14 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) sy'n diddymu'r prawf preswylio yn Neddf 1993: un o'r rheolau cymhwyso i denantiaid sy'n gwneud hawliadau am ryddfreinio ar y cyd ac adnewyddu les. Yn achos hawliad am adnewyddu les, roedd y prawf preswylio yn Neddf 1993 yn ei gwneud yn ofynnol i bob tenant unigol sy'n gwneud yr hawliad fod wedi meddiannu'r fflat y gwnaed yr hawliad mewn perthynas â hi fel unig gartref neu brif gartref am y deuddeg mis diwethaf neu am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o dair blynedd yn y deng mlynedd diwethaf. Yn achos hawliadau am ryddfreinio ar y cyd, roedd y prawf yn ei gwneud yn ofynnol i ddim llai nag un hanner o'r tenantiaid y gwnaed yr hawliad ar y cyd ganddynt fod wedi meddiannu eu fflatiau fel eu hunig neu eu prif gartref am y deuddeg mis diwethaf neu am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o dair blynedd yn y deng mlynedd diwethaf.

Mewn perthynas ag adnewyddu les, mae'r prawf wedi'i ddisodli gan ofyniad bod yn rhaid i'r tenant fod wedi bod yn brydleswr hir ar y fflat am ddwy flynedd. Mewn perthynas â rhyddfreinio ar y cyd, nid yw'r prawf wedi'i ddisodli gan neu'i ddiwygio gan unrhyw ofyniad arall.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).


Notes:

[1] 1993 p. 28.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 98 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2(2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1993/2407.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090883 X


  © Crown copyright 2004

Prepared 16 March 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040670w.html