BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040911w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif911 (Cy.94)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 24 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol  - 

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2004, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.

Cymhwysiad
    
2.  - (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran cynhyrchwyr, prynwyr a phersonau perthnasol eraill y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cymwys perthnasol iddynt.

    (2) Yn y rheoliad hwn, mae i "awdurdod cymwys perthnasol" yr ystyr a roddir i "the relevant competent authority" yn Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Darpariaethau Cyffredinol) 2002[
3].

Dehongli
     3. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2004[4].

Diwygio'r Prif Reoliadau
     4. Diwygir y prif Reoliadau yn unol â rheoliadau 5 i 15 isod.

    
5. Yn rheoliad 3 (dehongli)  - 

     6. Yn lle rheoliad 4 (ardaloedd Ynysoedd yr Alban) rhodder y rheoliad canlynol  - 

     7. Yn lle rheoliad 12 (trosglwyddo cwota heb drosglwyddo tir) rhodder y rheoliad canlynol - 

     8. Yn lle rheoliad 23(6) (gwerthwyr uniongyrchol a chynhyrchwyr at ddibenion cofrestrau a baratoir ac a gynhelir gan y Cynulliad Cenedlaethol) rhodder y paragraff canlynol  - 

     9. Yn rheoliad 26(2) (rhwymedigaeth i gofrestru gan gynhyrchwyr sy'n dal cwota cyfanwerthol) dileer y geiriau "within the extended meaning conferred by regulation 23(6))".

    
10. Yn lle rheoliad 31(3) (cosbau gweinyddol am fethu cyflwyno crynodebau cywir neu grynodebau diwygiedig) rhodder y paragraff canlynol  - 

     11. Yn lle rheoliad 31(5) (cosbau gweinyddol am gyflwyno datganiadau anghywir gan werthwyr uniongyrchol) rhodder y paragraff canlynol  - 

     12. Yn lle rheoliad 33 (atafaelu ac adfer cwota) rhodder y rheoliad canlynol  - 

     13. Yn Atodlen 1  - 

     14. Yn lle'r cyfeiriadau yn y prif Reoliadau at ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3950/92[6] a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, rhodder y cyfeiriadau at ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif. 1788/2003 a bennir mewn perthynas â hwy yng ngholofn 2.

     15. Diwygir darpariaethau'r prif Reoliadau a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn fel a bennir mewn perthynas â hwy yng ngholofn 2.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mawrth 2004



ATODLEN 1
Rheoliad 14


Diwygio'r cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor


Colofn 1 Colofn 2
Cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor 3950/92 Y cyfeiriadau newydd at Reoliad y Cyngor 1788/2003
Erthygl 9(g), yn y diffiniad o "delivery" yn rheoliad 3 Erthygl 5(f)
Erthygl 9(h), yn y diffiniad o "direct sale"yn rheoliad 3 Erthygl 5(g)
Erthygl 9(d), yn y diffiniad o "holding" yn rheoliad 3 Erthygl 5(d)
Erthygl 9(c), yn y diffiniad o "producer" yn rheoliad 3 Erthygl 5(c)
Erthygl 9(e), yn y diffiniad o "purchaser" yn rheoliad 3 Erthygl 5(e)
Erthygl 1, yn y diffiniad o "quota year" yn rheoliad 3 Erthygl 1(1)
Erthygl 2(1), yn rheoliad 5 Erthygl 10(3)
Ail is-baragraff Erthygl 2(2), yn rheoliad 7(2) Erthygl 11(2)
Erthygl 7, yn rheoliad 8(1) Erthygl 17
Erthygl 6, yn rheoliad 14(1) Erthygl 16
Erthygl 2(1), yn rheoliad 15(1) Erthygl 10(3)
Erthygl 4(2), yn rheoliad 17(1) Erthygl 6(2) a (5)
Ail is-baragraff Erthygl 2(2), yn rheoliad 17(1) Erthygl 11(2)
Erthygl 4(2), yn rheoliad 17(2)(b) Erthygl 6(2) a (5)
Erthygl 2(1), yn rheoliad 19 Erthygl 10(3)
Erthygl 2(3), yn rheoliad 21(2) Erthygl 12(4)
Erthygl 2(2), yn rheoliad 21(2) Erthygl 11(1)
Trydydd is-baragraff Erthygl 2(2), yn rheoliad 21(4) Erthygl 11(3)
Erthygl 3(2), yn rheoliad 28(2) Erthygl 1(3) ac Atodiad I
Erthygl 1, yn Atodlen 2 paragraffau 9, 17 a 19 Ym mhob achos, Erthygl 2



ATODLEN 2
Rheoliad 15


Mân ddiwygiadau


Colofn 1 Colofn 2
Darpariaethau'r prif Reoliadau Diwygiadau
Y diffiniad o "interest" rheoliad 3 Yn lle'r geiriau "except yn where used in regulation 21(2)" rhodder y geiriau "except where used in regulation 21(3)"
Rheoliad 8(1)(a)(i) Yn lle'r geiriau "in the case of a transfer made by lease before 1st March" rhodder y geiriau "in the case of a transfer made by lease"
Rheoliad 8(1)(a)(ii) Dileer y geiriau "made by lease on any date during March or"
Rheoliad 17(3)(b) Yn lle'r geiriau "14th May in any year" rhodder y geiriau "14th May in the year"
Rheoliad 21(4) Yn lle'r geiriau "following adjustment of that quota" rhodder y geiriau "following adjustment of the quantity delivered"
Rheoliad 23(1)(b)(ii) (2)(b)(ii) Ym mhob achos, dileer y a geiriau "or, where there is more than one such address, each such address and his or her principal trading address"
Rheoliad 31(4) Yn lle'r geiriau "and regulation 31" rhodder y geiriau "and regulation 30"



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2004, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2002 (O.S. 2002/897 (Cy.103)). Maent yn gymwys o ran cynhyrchwyr, prynwyr a phersonau perthnasol eraill y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cymwys perthnasol mewn perthynas â hwy sef fel y diffinnir "the relevant competent authority" gan Reoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Darpariaethau Cyffredinol) 2002 (O.S. 2002/458). Gall y daliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt gynnwys tir mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig y tu allan i Gymru.

Mae'r Rheoliadau'n gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.123) a hefyd ddyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn achos C-401/99 Peter Heinrich Thomsen v Amt für ländliche Räume Husum [2002] ECR I-5775. Cadarnhaodd dyfarniad Thomsen, mewn perthynas â lesydd pan ddaw les i ben, yn gyffredinol dim ond "cynhyrchydd" a gaiff ddal y cwota llaeth hwnnw sef "producer" o fewn ystyr yr hyn sydd bellach yn Erthygl 5(c) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003.

Mae'r Rheoliadau  - 

Mae copi o'r map y cyfeirir ato yn y diffiniad o "Scottish Islands area" ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd ac yn swyddfeydd Adran Materion Amgylcheddol a Gwledig Gweithrediaeth yr Alban, Pentland House, 47 Robb's Loan, Caeredin, EH4 1TY.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol yn y cyfeiriad a nodir uchod.


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) Gorchymyn 1999 (O.S. 1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae pwcircer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau amaethyddol sy'n cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn y Deyrnas Unedig ond sydd y tu allan i Gymru wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2002/458.back

[4] O.S. 2002/897 (Cy. 103).back

[5] OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.123.back

[6] OJ Rhif L405, 31.12.92, t.1.back

[7] 1998 p.38.back



English version




ISBN 0 11 090913 5


  © Crown copyright 2004

Prepared 31 March 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040911w.html