[New search]
[Help]
2004 Rhif1000 (Cy.106)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
30 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a 143(4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi[1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2].
Cymhwyso, enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
Prisio ar sail y contractiwr
2.
- (1) Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989[3] fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (1B) mewnosoder -
"
(1C) Paragraph (2C) of this regulation applies in relation to a hereditament shown in a non-domestic rating list compiled on or after the 1st of April 2005 the rateable value of which is being ascertained using the contractor's basis of valuation."
(3) Ar ôl paragraff (2B) mewnosoder -
"
(2C) In applying the provisions of the Act referred to in paragraph (2) of this regulation in circumstances where paragraph (1C) of this regulation applies, the appropriate rate shall be assumed to be -
(a) in the case of a defence hereditament, an educational hereditament or a healthcare hereditament, 3.3%; and
(b) in any other case, 5.0%".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Paragraff 2 o Atodlen 6 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988") yn darparu bod gwerth ardrethol hereditament annomestig yn cael ei benderfynu trwy gyfeirio at y rhent y gellid disgwyl yn rhesymol ei ddefnyddio, yn ôl yr amcangyfrif, i osod yr hereditament o flwyddyn i flwyddyn.
Yn yr achosion hynny lle nad oes tystiolaeth fwy uniongyrchol o werth rhent, yn hytrach, penderfynir ar werth ardrethol hereditament annomestig trwy ddatgyfalafu cyfanswm gwerth cyfalaf amcangyfrifedig yr hereditament (yr enw ar hyn yw "sail prisio'r contractiwr"). Rhagnodir y cyfraddau datgyfalafu gan Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988. Y prif Reoliadau a wnaed o dan y per hwn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 (fel y'u diwygiwyd) ("Rheoliadau 1989"), y mae Rheoliad 2 ohonynt yn rhagnodi'r cyfraddau presennol.
I'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, mae'r p er i wneud Rheoliadau o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 wedi'i drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Drwy ddibynnu ar y p er hwn, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn i ddiwygio, gydag effaith o 1 Ebrill 2005, y cyfraddau datgyfalafu a ragnodwyd gan Reoliad 2 o Reoliadau 1989.
Notes:
[1]
1988 p.41.back
[2]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 143(1) a 143(4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2(2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddi.back
[3]
O.S. 1989/2303.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090919 4
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
7 April 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041000w.html