BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041011w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 31 Mawrth 2004 | ||
Yn dod i rym | 1 Hydref 2004 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu |
4. | Cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu |
5. | Rheidrwydd asesu |
6. | Gweithdrefn asesu |
7. | Cynllun |
8. | Adolygu darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu |
9. | Cyfrifoldebau awdurdodau lleol am leoliadau y tu allan i'r ardal |
10. | Amgylchiadau pan ganiateir talu cymorth ariannol |
11. | Swm y cymorth ariannol |
12. | Trefn penderfynu talu cymorth ariannol |
13. | Gwybodaeth am gymorth ariannol |
14. | Adolygu, amrywio a dod â chymorth ariannol i ben |
15. | Cyfrinachedd, cadwraeth a mynediad at gofnodion |
16. | Diwygio Rheoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991 |
ATODLEN | Gwasanaethau y gellir eu darparu |
ond nid yw'n cynnwys person os nad yw'r plentyn bellach yn blentyn, neu os yw'r person yn llys-riant neu'n rhiant naturiol y plentyn, neu a oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn; ac
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
(3) Yn rheoliadau 8 i 15, ystyr "plentyn" ("child") yw plentyn mabwysiadol, ac mae cyfeiriadau at blentyn person yn gyfeiriadau at blentyn, heblaw llysblentyn y person, a fabwysiadwyd neu y mae caniatâd i'w fabwysiadu gan y person hwnnw.
Darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu
3.
- (1) At ddibenion adran 2(6) o Ddeddf 2002 (diffinio "adoption support services")[7], rhagnodir y gwasanaethau a ganlyn -
(ch) gwasanaethau y gellir eu darparu i riant mabwysiadol neu blentyn mabwysiadol mewn perthynas ag anghenion therapiwtig y plentyn;
(d) cymorth er mwyn sicrhau bod y berthynas rhwng y plentyn a'i riant mabwysiadol yn parhau, gan gynnwys -
(2) At ddibenion paragraff 3(1) o Atodlen 4 i Ddeddf 2002, y trefniadau mae'n ofynnol i awdurdodau lleol eu gwneud yw trefniadau er mwyn darparu unrhyw wasanaeth a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen ar gyfer personau sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen hwnnw.
(3) Mae'n ofynnol gwneud y trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) o ran unrhyw wasanaeth p'un a yw'r awdurdod lleol wedi penderfynu darparu'r gwasnanaeth i unrhyw berson ai peidio.
Cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu
4.
- (1) Rhaid i'r awdurdod lleol benodi person ("cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu") i gyflawni'r swyddogaeth a bennir ym mharagraff (2).
(2) Swyddogaethau cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu yw cynghori personau yr effeithir arnynt pan fydd plentyn yn cael ei fabwysiadu neu pan fwriedir mabwysiadu plentyn a rhoi gwybodaeth iddynt am y canlynol -
(3) Caiff awdurdodau lleol dim ond penodi person yn gynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysaidu os yw'n fodlon fod ei wybodaeth a phrofiad am -
yn ddigonol at ddibenion rôl cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
Rheidrwydd asesu
5.
- (1) Rhaid i awdurdod lleol, ar gais oedolyn neu blentyn a bennir yn yr Atodlen, asesu ei anghenion o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
(2) Caiff awdurdod lleol, ar gais unrhyw berson arall, gynnal asesiad o'i anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu.
(3) Pan fydd awdurdod lleol yn ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol, rhaid i'r awdurdod, cyn cwblhau'r adroddiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan rheoliad 7(2)(e) o Reoliadau 1983, asesu anghenion y plentyn o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
(4) Pan fydd awdurdod lleol yn cynnig lleoli plentyn i'w fabwysiadu gyda ddarpar fabwysiadwr, rhaid i'r awdurdod, cyn cwblhau'r adroddiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan reoliad 9(1) o Reoliadau 1983, asesu anghenion pob aelod o'r teulu mabwysiadol o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
(5) Os digwydd y canlynol -
rhaid iddo, cyn cwblhau'r adolygiad, asesu anghenion pob aelod o'r teulu mabwysiadol o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
(6) Pan fydd awdurdod lleol ("yr awdurdod lleoli") yn ystyried lleoli plentyn sydd o dan ofal gyda ddarpar fabwysiadwr sy'n preswylio yn ardal awdurdod lleol arall ("yr awdurdod adennill"), rhaid i'r awdurdod lleoli ymgynghori yn ysgrifenedig â'r awdurdod adennill am y lleoliad ac am ganlyniadau'r gwaith asesu a wnaed yn unol â pharagraffau (3) a (4) ac yn enwedig am allu'r asiantaethau yn ardal yr awdurdod adennill i ddarparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu a nodwyd.
(7) Rhaid i'r awdurdod adennill yng Nghymru ymateb yn ysgrifenedig i'r ymgynghoriad a wnaed yn unol â pharagraff (6) cyn pen wyth niwrnod ar hugain ar ôl ei gael.
(8) Pan fydd awdurdod adennill wedi ymateb yn ysgrifenedig i'r ymgynghoriad a wnaed yn unol â pharagraff (6), rhaid i'r sylwadau ysgrifenedig hyn gael eu hystyried gan y panel mabwysiadu wrth ystyried lleoli plentyn yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau 1983 a chan yr asiantaeth fabwysiadu wrth ystyried ei benderfyniad yn unol â rheoliad 11 o Reoliadau 1983.
(9) Pan fydd cais y person o dan baragraff (1) neu (2) yn ymwneud â gwasanaeth penodol a bennir yn rheoliad 3(1), neu os ymddengys i'r awdurodd lleol fod modd asesu anghenion y person am wasanaethau cymorth mabwysiadu drwy gyfeirio at wasanaeth penodol a bennir felly, caiff yr awdurdod gynnal yr asesiad drwy gyfeirio at y gwasanaeth hwnnw yn unig.
(10) Nid oes rhaid i'r awdurdod lleol o dan baragraff (1) asesu anghenion person oni bai -
(c) nad yw is-baragraffau (a) a (b) yn gymwys ac mae'r person yn byw yn ardal yr awdurdod lleol.
(11) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd plentyn mabwysiadol -
(12) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd plentyn mabwysiadol -
Gweithdrefn asesu
6.
- (1) Rhaid i'r asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth mabwysiadu gael ei gynnal gan berson a chanddo'r cymwysterau a'r profiad addas, ynghyd â'r sgiliau angenhreidiol at ddibenion yr asesiad.
(2) Wrth asesu, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried y canlynol -
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol, pan fydd yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny -
(4) Rhaid i'r awdurdod lleol, gan ystyried yr asesiad, benderfynu -
ac, yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad o'r penderfyniad yn ysgrifenedig yn unol â pharagraff (5), yn ogystal â'r rhesymau drosto.
(5) Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) gael ei roi -
i'r plentyn;
(c) mewn unrhyw achos arall pan fydd y person yn blentyn, i -
os nad yw person yn dod o fewn penawdau (i) i (iii) o'r is-baragraff hwn, y person sy'n bwriadu mabwysiadu'r plentyn.
(6) Pan fydd yr asesiad yn ymwneud â darparu gwybodaeth yn unig, ni fydd y gofyniad ym mharagraff (4) i roi hysbysiad yn gymwys pan na fydd yr awdurdod lleol yn ei hystyried yn briodol rhoi hysbysiad.
(7) Pan fydd yr asesiad yn ymwneud ag angen person am gymorth ariannol, rhaid rhoi'r hysbysiad a roddir mewn perthynas â phenderfyniad yr awdurod lleol ynghylch darparu cymorth ariannol yn ychwanegol at unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â rheoliadau 12 a 13.
Cynllun
7.
- (1) Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu darparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu i berson, rhaid iddo, ac eithrio pan fydd y gwasanaethau i'w darparu ar un achlysur -
(2) At ddibenion paratoi'r cynllun, rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori â -
y bwrdd iechyd lleol hwnnw neu'r awdurdod addysg lleol hwnnw.
Adolygu darpariaeth gwasanaethau cymorth mabwysiadu
8.
- (1) Pan fydd yr awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i berson, neu pan fydd wedi eu darparu yn ystod y ddeuddeng mis blaenorol, rhaid iddo adolygu'r ddarpariaeth os daw'n hysbys iddo fod amgylchiadau'r person wedi newid.
(2) Mae paragraffau (1) i (4) o reoliad 6 yn gymwys i adolygiad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i asesiad o dan rheoliad 6.
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol, o ran yr adolygiad -
(4) Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu amrywio'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu i'r person, neu ddiwygio'r cynllun, rhaid iddo roi hysbysiad yn unol â pharagraff (5) o reoliad 6; ac y mae paragraffau (6) a (7) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys i'r paragraff hwn fel y maent yn gymwys i baragraff (5) o'r rheoliad hwnnw.
Cyfrifoldebau awdurdodau lleol am leoliadau y tu allan i'r ardal
9.
- (1) Pan fydd awdurdod lleol ("yr awdurdod lleoli") -
caiff yr awdurdod adennill, yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5), adennill o'r awdurdod lleoli dreuliau darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys o ran treuliau darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, gan gynnwys cymorth ariannol, i'r graddau mai darparu cyngor a gwybodaeth neu ddarparu cynghorydd cymorth mabwysiadu yw'r gwasanaethau hynny.
(3) Bydd paragraff (1) ond yn gymwys o ran y treuliau darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i'r graddau -
(4) Pan fydd awdurdod lleoli yn talu treuliau darparu gwasnaethau cymorth mabwysiadu -
rhaid i'r awdurdod lleoli barhau i wneud felly am hyd at dair blynedd o ddyddiad y lleoli, yn ddarostyngedig i reoliad 14.
(5) Pan fydd cymorth ariannol sy'n unol â rheoliad 3(1)(a) neu lwfans mabwysiadu yn unol â Rheoliadau Lwfansau Mabwysiadu 1991[9] yn cael ei dalu gan yr awdurdod lleoli cyn gwneud y gorchymyn mabwysiadu, rhaid i'r awdurdod lleoli barhau i wneud y taliadau hynny, yn ddarostyngedig i reoliad 14.
(6) Mae cyfeiriadau ym mharagraff (3) at wasanaethau cymorth mabwysiadu yn cynnwys unrhyw lwfans a drinnir yn gymorth ariannol sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, yn rhinwedd rheoliad 16(2).
Amgylchiadau pan ganiateir talu cymorth ariannol
10.
- (1) Caniateir talu cymorth ariannol ond i bersonau o'r disgrifiad canlynol a dim ond pan fydd un neu ragor o'r amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2) yn bodoli -
(2) Dyma'r amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) -
(3) Ym mhob achos cyn y gellir talu cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r rhieni mabwysiadol gytuno ar -
ac os rhoddir yr wybodaeth yn llafar, i'w chadarnhau yn ysgrifenedig cyn pen saith niwrnod,
(b) llunio datganiad blynyddol o'u hamgylchiadau ariannol ac anghenion ac amgylchiadau ariannol y plentyn a'i roi i'r awdurdod lleol.
(4) Ni thelir cymorth ariannol i ddiwallu unrhyw anghenion i'r graddau y mae unrhyw fudd-dal neu lwfans sy'n gymwys i'r rhieni mabwysiadol oherwydd iddynt fabwysiadu'r plentyn, yn daladwy neu ar gael iddynt o ran yr anghenion hynny.
Swm y cymorth ariannol
11.
- (1) Swm unrhyw gymorth ariannol fydd y swm y mae'r awdurdod lleol yn penderfynu arno yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Wrth benderfynu ar swm y cymorth ariannol rhaid i'r awdurdod lleol ystyried -
(3) Ac eithrio pan fydd paragraffau (4) a (5 yn gymwys, rhaid i'r cymorth ariannol sy'n daladwy gan yr awdurdod lleol beidio â chynnwys unrhyw elfen o ad-daliad ar gyfer gofal am y plentyn gan rieni mabwysiadol.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan -
(5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys -
Trefn penderfynu a ddylid talu cymorth ariannol
12.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan -
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol -
(c) ystyried unrhyw sylwadau oddi wrth y rhieni mabwysiadol cyn pen y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad;
(ch) penderfynu a ddylid talu cymorth ariannol a'r amodau, os oes rhai, y dylid eu gosod, penderfynu ar y swm, os oes un, a fyddai'n daladwy a hysbysu'r rhieni mabwysiadol am y penderfyniadau hynny.
(3) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (2)(b) ddatgan y cyfnod erbyn pryd y caiff y rhieni mabwysiadol wneud sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch y penderfyniad arfaethedig, a rhaid i'r awdurdod lleol beidio â gwneud penderfyniad o dan baragraff (2)(ch) hyd nes i'r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(4) Pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod cymorth ariannol i'w dalu at ddiben penodol, caiff dalu'r cymorth ariannol yn ddarostyngedig i amod ar sut mae'r taliad i'w ddefnyddio a chaiff bennu'r dyddiad erbyn pryd y mae'r amod i'w fodloni.
(5) Pan fydd yr awdurdod lleol yn fodlon na fodlonwyd amod a hysbyswyd o dan baragraff (2)(ch) erbyn y dyddiad, os pennwyd un, yn yr hysbysiad, caiff ei gwneud yn ofynnol bod y taliad neu ran briodol o'r taliad yn cael ei dalu yn ôl.
Gwybodaeth am gymorth ariannol
13.
Ar ôl penderfynu talu cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod hysbysu'r rhieni mabwysiadol yn ysgrifenedig am y canlynol -
(ch) pan fydd cymorth ariannol i'w dalu yn un taliad, y dyddiad pryd y mae'r taliad i'w wneud;
(d) pan fydd cymorth ariannol i'w dalu yn ddarostyngedig i unrhyw amodau, yr amodau hynny a chanlyniad methu â bodloni'r amodau hynny;
(dd) y trefniadau a'r weithdrefn ar gyfer adolygu, amrywio a phenderfynu cymorth ariannol;
(e) cyfrifoldebau -
mewn perthynas â'r cymorth ariannol os bydd newid yn amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol neu'r plentyn.
Adolygu, amrywio a dod â chymorth ariannol i ben
14.
- (1) Rhaid i'r awdurdod lleol adolygu unrhyw gymorth ariannol -
(b) os daw unrhyw newid yn amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol neu'r plentyn, gan gynnwys unrhyw newid cyfeiriad a ddaw i'w sylw.
(2) Bydd paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan fydd cymorth ariannol yn daladwy mewn rhandaliadau neu'n rheolaidd.
(3) Caiff yr awdurdod lleol amrywio, atal neu ddod â thaliad cymorth ariannol i ben os, o ganlyniad i adolygiad, mae'n ystyried bod angen y rhieni mabwysiadol amdano wedi newid neu wedi peidio ers i'r swm o gymorth ariannol gael ei benderfynu ddiwethaf.
(4) Pan fydd y rhieni mabwysiadol yn methu â rhoi datganiad blynyddol i'r awdurdod sy'n unol â'u cytundeb o dan reoliad 10(3)(b), caiff yr awdurdod lleol gymryd bod angen y rhieni mabwysiadol am gymorth ariannol wedi peidio hyd nes i ddatganiad gael ei roi.
(5) Pan fydd talu cymorth ariannol yn cael ei atal, caiff yr awdurdod ailddechrau ei dalu os, o ganlyniad i adolygiad, bydd yr awdurdod lleol o'r farn bod amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol yn teilyngu cymorth ariannol.
(6) Rhaid i'r awdurdod ddod â thalu cymorth ariannol i ben pan -
Cyfrinachedd, cadwraeth a mynediad at gofnodion
15.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 15 o Reoliadau 1983, rhaid i'r awdurdod lleol drin unrhyw wybodaeth a geir neu argymhellion a geir i'r penderfyniadau hyn yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn gyfrinachol.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol roi cofnod o fanylion am gymorth ariannol mewn perthynas â phlentyn gan gynnwys manylion unrhyw benderfyniad o dan reoliad 11 (swm y cymorth ariannol) ac adolygu o dan reoliad 14 (adolygu, amrywio a dod â lwfansau i ben ) yng nghofnodion yr achos y mae'n ofynnol iddo eu llunio o dan Reoliadau 1983.
Diwygio Rheoliadau Lwfans Mabwysiadau 1991
16.
- (1) Yn Rheoliad 1(2) o Reoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991[10], yn y diffniad o "adoption agency", mae'r geiriau "or a local authority" wedi'u hepgor.
(2) Mae unrhyw lwfans sy'n daladwy gan awdurdod lleol o dan Reoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991 yn union cyn 1 Hydref 2004 ("y lwfans") i'w drin yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw ymlaen fel cymorth ariannol sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, a swm y cymorth ariannol fydd yr un swm, dull ac amlder taliad, a bydd yn daladwy am yr un cyfnod, â'r lwfans.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Mawrth 2004
(1) | (2) |
Gwasanaeth | Disgrifiad o'r person |
Y gwasanaeth a bennir yn rheoliad 3(1)(a) (cymorth ariannol) |
Oedolion a barwyd â phlentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol neu a oedd o dan ofal awdurdod lleol, ond ni leolwyd y plentyn eto Oedolion y lleolwyd plentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol neu a oedd o dan ofal awdurdod lleol gyda hwy i'w mabwysiadu, ond ni fabwysiadwyd y plentyn Oedolion sydd wedi mabwysiadu plentyn a oedd o dan ofal awdurdod lleol ac sydd o dan 18 |
Y gwasanaeth a bennir yn rheoliad 3(1)(b) (grwp cefnogaeth) |
Oedolion y lleolwyd plentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol neu a oedd o dan ofal awdurdod lleol gyda hwy i'w fabwysiadu, ond nad ydynt wedi'i fabwysiadu Oedolion sydd wedi mabwysiadu plentyn a oedd o dan ofal awdurdod lleol ac sydd o dan 18 o hyd Plentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol neu a oedd o dan ofal awdurdod lleol ac a leolwyd gyda mabwysiadwr, ond nad yw wedi'i fabwysiadu Plentyn a oedd o dan ofal awdurdod lleol ac a fabwysiadwyd |
Y gwasanaeth a bennir yn rheoliad 3(1)(c) (cyswllt) |
Plentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol neu a oedd o dan ofal awdurdod lleol ac a leolwyd gyda mabwysiadwr, ond nad yw wedi'i fabwysiadu Plentyn a oedd o dan ofal awdurdod lleol ac a fabwysiadwyd |
Y gwasanaeth a bennir yn rheoliad 3(1)(ch) (gwasanaethau therapiwtig) |
Oedolion y lleolwyd plentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol neu a oedd o dan ofal awdurdod lleol gyda hwy i'w fabwysiadu, ond nid yw wedi'i fabwysiadu Oedolion sydd wedi mabwysiadu plentyn a oedd o dan ofal awdurdod lleol ac sydd o dan 18 o hyd Plentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol neu a oedd o dan ofal awdurdod lleol ac a leolwyd gyda mabwysiadwr, ond nad yw wedi'i fabwysiadu Plentyn a oedd o dan ofal awdurdod lleol ac a fabwysiadwyd |
Y gwasanaeth a bennir yn rheoliad 3(1)(d) (gwasanaethau i sicrhau bod perthynas yn parhau) |
Oedolion y lleolwyd plentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol neu a oedd o dan ofal awdurdod lleol gyda hwy i'w fabwysiadu, ond nid yw'r plentyn wedi'i fabwysiadu Oedolion sydd wedi mabwysiadu plentyn a oedd o dan ofal awdurdod lleol ac sydd o dan 18 o hyd Plentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol neu a oedd o dan ofal awdurdod lleol ac a leolwyd gyda mabwysiadwr, ond nad yw wedi'i fabwysiadu Plentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol neu a oedd o dan ofal awdurdod lleol ac a fabwysiadwyd |
[2] 1976 p.36 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Plant 1989 p.41 (paragraff 25 o Atodlen 10) a Deddf 2002 (paragraff 4 o Atodlen 4). Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddi.back
[3] Gan adran 1(4) o Ddeddf Mabwysiadu 1976, caniateir cyfeirio at awdurdod lleol neu gymdeithas fabwysiadu briodol fel asiantaeth fabwysiadu. Diffiniwyd y term "appropriate voluntary organisation" yn adran 1(5) o Ddeddf 1976, fel y'i mewnosodwyd gan adran 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac Atodlen 4, paragraff 5 iddi, t.14.back
[6] O.S. 1983/1964, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/649, O.S. 1983/2308 ac O.S. 2001/2237.back
[7] Gan adran 2(6) o Ddeddf 2002, diffinnir y term "adoption support services" fel (a) cwnsela, cyngor a gwybodaeth, a (b) unrhyw wasanaethau eraill a ragnodir gan reoliadau mewn perthynas â mabwysiadu.back
[8] p.56. Gweler adran 12 o'r Ddeddf.back
[10] O.S. 1991/2030, fel y'i diwygwyd gan O.S. 1991/2130.back