BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol etc) (Presgripsiynau Amlroddadwy) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041018w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1018 (Cy.115)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol etc) (Presgripsiynau Amlroddadwy) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 31 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 41, 42, 43, 77, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, effaith a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol etc) (Presgripsiynau Amlroddadwy) (Diwygio) (Cymru) 2004.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2004.

    (3) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992[
2] yn unol â Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn.

    (4) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2001[3] yn unol â Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn.

    (5) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.



RHAN 1

DIWYGIO RHEOLIADAU'R GWASANAETH IECHYD GWLADOL (GWASANAETHAU FFERYLLOL) 1992

Diwygio rheoliad 2
     2. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)  - 

Diwygio rheoliad 4
     3. Yn rheoliad 4 (rhestrau fferyllol) - 

Mewnosod rheoliad 16B
    
4.  - (1) Ar ôl rheoliad 16A mewnosodwch y rheoliad canlynol - 

Diwygio rheoliad 18
    
5. Yn rheoliad 18 (safonau cyffuriau a chyfarpar, a thaliadau amdanynt), ym mharagraff (1)(g), ar ôl "supply of drugs and appliances", mewnosodwch ", repeat dispensing services".

Diwygio Atodlen 2
    
6.  - (1) Diwygir Atodlen 2 fel a ganlyn - 

    (2) Ym mharagraff 1 (dehongli)  - 

    (3) Ym mharagraff 3 (darparu gwasanaethau fferyllol)  - 

    (4) Ar ôl paragraff 3 (darparu gwasanaethau fferyllol), mewnosodwch  - 

    (5) Ym mharagraff 5 (darparu cyffuriau a ffitio cyfarpar), yn is-baragraff (2)  - 

    (6) Ym mharagraff 8 (tâl fferyllwyr), ar ôl is-baragraff (2A) mewnosodwch - 

    (7) Ym mharagraff 11B, yn is-baragraff (a)  - 



RHAN 2

DIWYGIO RHEOLIADAU'R GWASANAETH IECHYD GWLADOL (FFIOEDD AM GYFFURIAU A CHYFARPAR) (CYMRU) 2001

Diwygio rheoliad 2
    
7. Yn rheoliad 2 (dehongli) - 

Diwygio rheoliad 3
     8.  - (1) Diwygir rheoliad 3 (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr) fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (1), yn lle "Yn ddarostyngedig i baragraff (3)," rhowch "Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (1A) ac yn ddarostyngedig i baragraff (3),".

    (3) Ar ôl paragraff (1) mewnosodwch - 

    (4) Yn lle paragraph (3) rhowch - 

    "(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu unrhyw ffi o dan baragraff (1) neu (1A)  - 

    (5) Ym mharagraff (5) - 

    (6) Ym mharagraff (6) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cnedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Mawrth 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (y "Rheoliadau Fferyllol") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 (y "Rheoliadau Ffioedd").

Mae'r diwygiadau yn sefydlu cynllun o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer amlweinyddu, a fydd yn galluogi rhagnodwyr i ddyroddi presgripsiynau amlroddadwy a fferyllwyr i weinyddu yn unol â'r presgripsiynau hynny.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Fferyllol. Mae'r prif newidadau fel a ganlyn: mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniadau yn rheoliad 2 (dehongli); mae rheoliad 4 yn mewnosod rheoliad 16B, sy'n pennu'r fferyllwyr hynny sy'n gymwys i ddarparu gwasanaethau amlweinyddu a sut y dylent hysbysu o'u bwriad i ddarparu gwasanaethau o'r fath; mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 2 i'r Rheoliadau Fferyllol (telerau gwasanaeth i fferyllwyr), ac yn darparu ynghylch gweinyddu presgripsiynau amlroddadwy. Yn benodol, mae'n mewnosod yn yr Atodlen baragraff 3A, sy'n darparu'n benodol ar gyfer gweinyddu presgripsiynau o'r fath, er enghraifft, ynglycircn ag arnodi presgripsiynau o'r fath gan fferyllwyr, ac o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid i fferyllwyr wrthod gweinyddu presgripsiwn o'r fath.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Ffioedd. Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn:

mae rheoliad 7 yn mewnosod diffiniadau yn rheoliad 2, a hefyd yn diwygio rheoliad 2 i sicrhau mai dim ond un ffi sy'n daladwy pan fydd mwy nag un cynhwysydd cyffuriau, neu fwy nag un cyfarpar (yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig) yn cael ei ddarparu gan ddibynnu ar un swp-ddyroddiad; ac mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 3 o'r Rheoliadau Ffioedd, er mwyn egluro bod y ffioedd penodedig yn daladwy am bob swp-ddyroddiad, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n talu ffi o'r fath lofnodi datganiad bod y ffi wedi'i thalu, ac i bennu bod yr esemptiadau, yr achosion pan na fydd tâl yn cael ei godi, y gofyniad bod y ffi yn cael ei thalu a'r gofyniad i roi derbynneb, sy'n gymwys i bob ffi arall o dan y Rheoliadau Ffioedd, yn gymwys hefyd i ffioedd am wasanaethau amlweinyddu.


Notes:

[1] {d1}{t1}1979 p.49. Estynnwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S.1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraff 8.{d1}{t1}Amnewidiwyd adran 41 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 42(1).{d1}{t1}Amnewidiwyd adran 42 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1986 (p.66), adran 3(1); fe'i hestynnwyd gan Ddeddf 1988, adran 17 a'i diwygio gan O.S. 1987/2202, erthygl 4; gan Ddeddf 1990, adran 12(3) a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 30.{d1}{t1}Diwygiwyd adran 43 gan Ddeddf 1980, Atodlen 9, paragraff 18(2); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 31; a chan Ddeddf 1997, adran 29(1) ac Atodlen 2, paragraff 14.{d1}{t1}Mewnosodwyd adran 83A gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7), adran 14(1); fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), Atodlen 2, paragraff 6; gan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(5); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 40 a chan erthygl 2 o O.S. 1998/2385.{d1}{t1}Gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29, 41, 42, 43, 77, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Act 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 197(1).back

[2] O.S.1992/662; O.S.1999/696, 2001/1396, 2002/3189, 2003/139, 783 a 3236 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back

[3] O.S.2001/1358; O.S.2001/2359 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back

[4] O.S. 2004/1022 (Cy. 119).back

[5] O.S.2004/478 (Cy.48).back

[6] O.S. 2004/478 (Cy.48).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090920 8


  © Crown copyright 2004

Prepared 7 April 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041018w.html