BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2004 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041218w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 27 Ebrill 2004 | ||
Yn dod i rym | 30 Ebrill 2004 |
Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir
2.
- (1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, neu gynnyrch amrywiol, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 6 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna -
(3) Pan fydd tir y gellir ei ddefnyddio, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net, yn wrthrych taliadau Tir Mynydd neu wedi'i ddynodi fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnodion 7 ac 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna -
(4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.
Dirymu
3.
Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2003[6].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Ebrill 2004
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
Defnydd ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu |
£ | ||
1. Da byw | ||
Buchod llaeth: | ||
Bridiau Ynysoedd y Sianel | buwch | 373 |
Bridiau eraill | buwch | 460 |
Buchod bridio cig eidion: | ||
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001[8] | buwch | 43(1) |
Ar dir arall | buwch | 73(1) |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) | pen | 75(2) |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | pen | 35(3) |
Mamogiaid: | ||
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | mamog | 11(4) |
Ar dir arall | mamog | 19(5) |
Ŵ yn stôr (gan gynnwys yn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) | pen | 1.00 |
Moch: | ||
Hychod a banwesi torrog | hwch neu fanwes | 85 |
Moch porc | pen | 1.75 |
Moch torri | pen | 3.25 |
Moch bacwn | pen | 5.00 |
Dofednod: | ||
Ieir dodwy | aderyn | 1.00 |
Brwyliaid | aderyn | 0.12 |
Cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.25 |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 2.00 |
2. Cnydau âr fferm | ||
Haidd | hectar | 186(6) |
Ffa | hectar | 169(7) |
Had glaswellt | hectar | 100 |
Ceirch | hectar | 190(8) |
Rêp had olew | hectar | 171(9) |
Pys: | ||
Sych | hectar | 194(10) |
Dringo | hectar | 175 |
Tatws: | ||
Cynnar cyntaf | hectar | 800 |
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) | hectar | 750 |
Betys siwgr | hectar | 240 |
Gwenith | hectar | 223(11) |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored | ||
Ffa cyffredin | hectar | 500 |
Ysgewyll Brwsel | hectar | 1400 |
Bresych, safwy a brocoli blaguro | hectar | 1800 |
Moron | hectar | 2700 |
Blodfresych a brocoli'r gaeaf | hectar | 975 |
Seleri | hectar | 8000 |
Cennin | hectar | 3200 |
Letys | hectar | 4150 |
Wynwns: | ||
Bylbiau sych | hectar | 1305 |
Salad | hectar | 3800 |
Pannas | hectar | 2850 |
Riwbob (naturiol) | hectar | 6000 |
Maip a swêds | hectar | 1300 |
4. Ffrwythau'r berllan | ||
Afalau: | ||
Seidr | hectar | 380 |
Coginio | hectar | 1150 |
Melys | hectar | 1250 |
Ceirios | hectar | 800 |
Gellyg | hectar | 900 |
Eirin | hectar | 1150 |
5. Ffrwythau meddal | ||
Cyrens Duon | hectar | 800 |
Mafon | hectar | 3000 |
Mefus | hectar | 4000 |
6. Amrywiol | ||
Hopys | hectar | 1700 |
7. Tir Porthiant | ||
Tir cymwys fel y'i disgrifir yn rheoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | hectar | swm y taliad Tir Mynydd y mae'n rhaid ei dalu o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 |
8. Neilltir | ||
Tir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fydd tir o'r fath yn cael ei ddefnyddio (yn unol ag erthygl 6(3) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1251/99) ar gyfer darparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned nad ydynt wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaid | hectar | 51 |
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis.
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.
(4) Didynner £18 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 4 a 5 o Reoliad 2529/01 y Cyngor ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig defaid a chig geifr.
(5) Didynner £14 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â'r premiwm defaid blynyddol.
(6) Didynner £249 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor.
(7) Didynner £288 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.
(8) Didynner £249 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.
(9) Didynner £250 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.
(10) Didynner £291 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.
(11) Didynner £250 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.
[2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog (a ddiffiniwyd yn adran 96(1) o'r Ddeddf fel yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Chymru) o dan baragraff 4 o Atodlen 6 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[3] OJ Rhif L341, 22.12.01, t.3.back
[4] OJ Rhif L160, 26.6.99, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1038/01 (OJ Rhif L145, 31.5.01, t.16).back
[5] OJ Rhif L160, 26.6.99, t.21, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/03 (OJ Rhif L122, 16.05.03, t.1).back
[8] O.S. 2001/496 (Cy.23) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1806 (Cy.176).back