BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041312w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1312 (Cy.138)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 11 Mai 2004 
  Yn dod i rym 31 Mai 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 5 o Atodlen 11 iddi[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygio) 2004, maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Mai 2004.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Diwygio Rheoliadau 1995
     3. Mae Rheoliadau 1995 yn cael eu diwygio fel a ganlyn:



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Mai 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 5 o Atodlen 11 iddi yn rhoi'r pwcirc er i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn perthynas â Thribiwnlysoedd Prisio. I'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Y prif reoliadau i Gymru, a wnaed o dan y pwerau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995 ("Rheoliadau 1995") fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Diwygio) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001"). Mae'r Rheoliadau presennol hyn yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â Thribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru.

Mae Rheoliadau 1995 yn gwneud darpariaethau ynghylch bod yn aelod o Dribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru. Mae Rheoliad 4(2)(d) yn darparu y bydd aelod o dribiwnlys yn peidio â dal swydd pan fydd yn cyrraedd 72 oed.

Mae Rheoliad 7(1)(e) o Reoliadau 1995 yn darparu y caiff aelod ei anghymhwyso rhag cael ei benodi neu rhag parhau i fod yn aelod os yw'n 72 oed neu'n hycircn.

Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1995 fel bod Rheoliadau 4(2)(d) a 7(1)(e) yn cael eu hepgor. Effaith y diwygiad hwn yw na fydd aelod o Dribiwnlys Prisio yng Nghymru yn peidio â dal swydd neu'n cael ei anghymhwyso rhag cael ei benodi neu rhag parhau i fod yn aelod ar ôl cyrraedd 72 oed.


Notes:

[1] 1988 p.41. Diwygiwyd Adran 143(2) gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a pharagraffau 72 a 79(3) o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd Paragraff 1 a 5 o Atodlen 11 gan adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) a pharagraffau 88(1), (3) a (13) o Atodlen 13 iddi gydag effaith mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 1993. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau a'r atodlen uchod, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo, O.S. 1999/672.back

[2] O.S. 1995/3056 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Diwygio) (Cymru) 2001, O.S. 2001/1439 (Cy.101).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090943 7


  © Crown copyright 2004

Prepared 18 May 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041312w.html