BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041433w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1433 (Cy.146)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 25 Mai 2004 
  Yn dod i rym 31 Mai 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mai 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989[
2].

Diwygio rheoliad 1 o'r prif Reoliadau
     2. Yn rheoliad 1(2) o'r prif Reoliadau (enwi, cychwyn a dehongli) mewnosoder y canlynol yn ôl trefn yr wyddor  - 

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
    
3.  - (1) Yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (ymwelwyr tramor sy'n esempt rhag ffioedd)  - 

    (2) Ar ddiwedd rheoliad 4 ychwaneger y paragraffau canlynol  - 

Esemptiad rhag talu ffioedd yn ystod ymweliadau tymor hir gan bensiynwyr y Deyrnas Unedig
    
4. Ar ôl rheoliad 4 (ymwelwyr tramor sy'n esempt rhag ffioedd) mewnosoder rheoliad newydd  - 

Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau
     5. Yn rheoliad 5 (esemptiad rhag ffioedd ar gyfer triniaeth y cododd yr angen amdani yn ystod yr ymweliad)  - 

Esemptiad rhag ffioedd am resymau dyngarol eithriadol
    
6. Ar ôl rheoliad 6A (esemptiad rhag ffioedd am resymau dyngarol eithriadol) mewnosoder rheoliad newydd  - 

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
     7. Ar ôl Rhan III o Atodlen I i'r prif Reoliadau (clefydau nad oes ffi i'w chodi am eu trin) ychwaneger y canlynol  - 



Diwygio Atodlen 2 i'r prif Reoliadau
    
8. Dileer y cofnod "Hong Kong" o Atodlen 2.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mai 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd mewn perthynas â gwasanaethau penodol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i bobl benodol nad ydynt fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig ("ymwelwyr tramor").

Mae rheoliadau 3 a 5 yn newid manylion yr hawl ar gyfer nifer o'r categorïau presennol o ymwelwyr tramor sy'n esempt rhag ffioedd am wasanaethau.

Mae rheoliad 4 yn esemptio pensiynwyr ymddeoledig penodol y Deyrnas Unedig sy'n byw am o leiaf chwe mis yn y Deyrnas Unedig ac mewn Aelod-wladwriaeth arall am lai na chwe mis rhag ffioedd tra byddant yn y Deyrnas Unedig.

Mae rheoliad 6 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud penderfyniad mewn amgylchiadau penodol i esemptio ymwelwyr tramor penodedig rhag ffioedd am wasanaethau penodol am resymau dyngarol eithriadol ac mae rheoliad 5 yn esemptio pobl benodedig rhag ffioedd ar gyfer triniaeth, y cododd yr angen amdani yn ystod ymweliad, i bobl benodedig sy'n cyd-deithio â pherson y mae esemptiad am resymau dyngarol eithriadol yn gymwys iddo.

Mae rheoliad 7 yn cynnwys Syndrom Anadlu Acíwt Difrifol (SARS) yn y rhestr yn Atodlen 1 o driniaethau sy'n esempt rhag ffioedd.

Mae rheoliad 8 yn tynnu Hong Kong o Atodlen 2 i Reoliadau 1989 (gwledydd neu diriogaethau yr ymrwymodd y Deyrnas Unedig mewn cytundeb cilyddol â hwy).


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), i gael y diffiniad o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 126(4) gan baragraff 37(6) o Atodlen 4 i Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"); adran 65(2) o Ddeddf 1990, adran 65(1) o Ddeddf 1999, a paragraffau 4 a 37(1) a (6) o Atodlen 4 iddi, adran 67(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 a pharagraff 5(1) a (13)(b) o Atodlen 5 iddi (p.15), ac adrannau 6(3)(c) a 37(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 a pharagraffau 1 a 10(a) o Atodlen 8 iddi (p.17) ac adran 184 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 a pharagraff 38 o Atodlen 11 a rhan 4 o Atodlen 14 iddi (p.43). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back

[2] O.S.1989/306.back

[3] 1992 p.4.back

[4] 1999 p.7.back

[5] Mewnosodwyd Rheoliad 6A gan gan O.S. 2004/614.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090945 3


  © Crown copyright 2004

Prepared 3 June 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041433w.html