BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif1448 (Cy.148)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli a Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
26 Mai 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mehefin 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 24D(2), 26(5) a (6), 26A(3) a (4) a 104(1) a (4) o Ddeddf Plant 1989[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: -
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli a Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2004 ac yn dod i rym ar 1 Mehefin 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "achwynydd" ("complainant") yw person sy'n gwneud sylwadau o dan adran 24D o'r Ddeddf neu blentyn sy'n gwneud sylwadau o dan adran 26 o'r Ddeddf;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Plant 1989;
ystyr "eiriolwr" ("advocate") yw person sy'n rhoi cymorth o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol o dan adran 26A(1) o'r Ddeddf;
ystyr "gwasanaethau eirioli" ("advocacy services") yw'r cymorth a ddarperir o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol o dan adran 26A(1) o'r Ddeddf;
ystyr "y Rheoliadau Sylwadau" ("the Representations Regulations") yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991[2].
Personau na chânt roi cymorth
3.
Ni chaiff person roi cymorth o dan adran 26A(1) o'r Ddeddf i bersonau sy'n gwneud sylwadau o dan adran 24D o'r Ddeddf neu sy'n bwriadu eu gwneud neu i blentyn sy'n gwneud sylwadau o dan adran 26 o'r os yw'r person hwnnw -
(a) yn destun y sylwadau neu os gall fod yn destun y sylwadau;
(b) yn gyfrifol am reoli person sy'n destun y sylwadau neu os gall fod yn destun y sylwadau;
(c) yn rheoli gwasanaeth sy'n destun y sylwadau neu os gall fod mai'r gwasanaeth hwnnw yw testun y sylwadau;
(ch) yn berson a chanddo reolaeth dros yr adnoddau a ddyrennir i wasanaeth sy'n destun y sylwadau neu os gall fod mai'r gwasanaeth hwnnw yw testun y sylwadau;
(d) yn gysylltiedig ag ystyried y sylwadau ar ran yr awdurdod lleol neu os bydd o bosibl yn gysylltiedig â hynny.
Gwybodaeth i'w rhoi i achwynydd etc.
4.
- (1) Pan ddaw awdurdod lleol i wybod bod person neu blentyn yn bwriadu gwneud sylwadau o dan adran 24D o'r Ddeddf neu, yn ôl y digwydd, o dan adran 26 o'r Ddeddf, rhaid i'r awdurdod -
(a) rhoi gwybodaeth am wasanaethau eirioli i'r person neu'r plentyn hwnnw; a
(b) cynnig help i'r person neu'r plentyn hwnnw i gael eiriolwr.
(2) Pan fydd awdurdod lleol yn derbyn sylwadau gan achwynydd rhaid iddo -
(a) rhoi gwybodaeth i'r achwynydd am wasanaethau eirioli; a
(b) cynnig help i'r achwynydd i gael eiriolwr.
Monitro i ba raddau y cydymffurfir â'r Rheoliadau
5.
- (1) Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol fonitro'r trefniadau y mae wedi'u gwneud gyda'r bwriad o sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn drwy gadw cofnod o'r canlynol -
(a) pob achos a ystyriwyd gan yr awdurdod lleol y defnyddiodd yr achwynydd eiriolwr mewn cysylltiad ag ef; a
(b) o ba gorff (os o gwbl) y deuai'r eiriolwr; a
(c) barn yr achwynydd (os o gwbl) am y cymorth a ddarparwyd gan yr eiriolwr.
(2) At ddibenion monitro o'r fath, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeuddeng mis, lunio adroddiad ar y modd y gweithredwyd y weithdrefn a nodir yn y Rheoliadau hyn yn ystod y cyfnod hwnnw.
(3) Rhaid llunio'r adroddiad cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o fewn deuddeng mis i ddyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn.
Diwygio'r Rheoliadau Sylwadau
6.
- (1) Caiff y Rheoliadau Sylwadau eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) ar ôl y diffiniad o "representations" mewnosoder -
"
"section 26A advocate" means a person who is appointed to provide assistance to the complainant under arrangements made by a local authority under section 26A(1) of the Act.".
(3) Yn rheoliad 4 (rhagarweiniad), ym mharagraffau (2) a (2A) ar ôl y gair "complainant" mewnosoder "and any section 26A advocate".
(4) Yn rheoliad 7 (tynnu sylwadau yn ôl) ar ôl y gair "them" mewnosoder "or any section 26A advocate acting on behalf of that person".
(5) Yn rheoliad 8 (hysbysu achwynydd a chyfeirio at banel) -
(a) ym mharagraff (1)(a) ar ôl y gair "complainant" mewnosoder "and any section 26A advocate";
(b) ym mharagraff (2) ar ôl y gair "complainant" mewnosoder ", or any section 26A advocate on behalf of that person";
(c) ym mharagraff (5)(a) ar ôl y gair "complainant" mewnosoder "(or any section 26A advocate on behalf of that person)"; ac
(ch) ym mharagraff (6) ar ôl y gair "meeting" yr ail dro y mae'n ymddangos mewnosoder "by any section 26A advocate or" ac ar ôl y gair "nominate" mewnosoder "the section 26A advocate or".
(6) Yn rheoliad 9(2)(b) (argymhellion) ar ôl y gair "complainant" mewnosoder "and any section 26A advocate".
Darpariaethau trosiannol
7.
- (1) Pan fydd achwynydd, ar adeg dod i rym y Rheoliadau hyn, wedi cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol ac nad yw'r weithdrefn ar gyfer ystyried y sylwadau wedi dod i ben, yna mae'n rhaid i'r awdurdod lleol roi i'r achwynydd yr wybodaeth a'r cymorth y mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol eu darparu o dan reoliad 4.
(2) At ddibenion paragraff (1) mae'r weithdrefn ar gyfer ystyried y sylwadau i'w thrin fel pe bai wedi dod i ben unwaith y bo'r panel wedi ystyried y sylwadau yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau Sylwadau, a hynny hyd yn oed os na fydd y panel wedi gwneud argymhelliad yn unol â rheoliad 9 o'r Rheoliadau Sylwadau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mai 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eirioli ar gyfer categorïau penodol o achwynwyr o dan weithdrefn sylwadau Deddf Plant 1989. Mae'n mewnosod yn Neddf Plant 1989 adran newydd, h.y. adran 26A, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer darparu cymorth, gan gynnwys cymorth o ran gwneud sylwadau, i'r rhai sy'n gadael gofal ac i blant sy'n gwneud sylwadau trwy ddefnyddio'r gweithdrefnau o dan adrannau 24D a 26(3) o Ddeddf Plant 1989 neu sy'n bwriadu eu gwneud.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu pwy na chaiff roi cymorth o dan y trefniadau hyn i'r sawl sy'n gadael gofal neu i blentyn sy'n gwneud sylwadau o'r fath neu sy'n bwriadu eu gwneud (rheoliad 3).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybodaeth am wasanaethau eirioli i blentyn neu berson ifanc sy'n gwneud sylwadau neu, pan ddaw'r awdurdodau i wybod am hynny, i blentyn neu berson ifanc sy'n bwriadu gwneud sylwadau, ynghyd â chynnig help iddynt i ddod o hyd i eiriolwr (rheoliad 4).
Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro'r camau y maent wedi eu cymryd gyda'r bwriad o sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau.
Mae rheoliad 6 yn diwygio'r rheoliadau sy'n rheoli'r weithdrefn sylwadau - Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991 - er mwyn sicrhau bod eiriolwr a bennwyd yn cael eu cynnwys yn y broses o'r dechrau i'r diwedd.
Notes:
[1]
1989 p.41. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr. Trosglwyddwyd y gwaith o arfer y pwerau mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cyfeiriad at Ddeddf Plant 1989 yn Atodlen 1 iddo. Mewnosodwyd adran 24D gan adran 5 o Ddeddf Plant (Gadael Gofal) 2000 (p.35), a mewnosodwyd adran 26A gan adran 119 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38). Yn rhinwedd adran 8(7) o Ddeddf Plant (Gadael Gofal) 2000 ac adran 145(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, mae'r cyfeiriad at y Ddeddf yn Atodlen 1 i O.S. 1999/672 i'w drin fel cyfeiriad at y Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddfau hynny.back
[2]
O.S. 1991/894; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/2033 ac O.S. 2001/2189 (Cy. 151).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090950 X
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
4 June 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041448w.html